Arthur Wellesley, Dug 1af Wellington

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Y Dug Wellington
Arthur Wellesley, Dug 1af Wellington

Cyfnod yn y swydd
22 Ionawr 1828 – 16 Tachwedd 1830
Rhagflaenydd Frederick John Robinson
Olynydd Charles Grey
Cyfnod yn y swydd
17 Tachwedd 1834 – 9 Rhagfyr 1834
Rhagflaenydd William Lamb
Olynydd Robert Peel

Geni 1 Mai 1769
Dulyn neu Sir Meath
Marw 14 Medi 1852
Walmer, Caint
Plaid wleidyddol Plaid Tori

Roedd Arthur Wellesley, Dug 1af Wellington (1 Mai 1769 - 14 Medi 1852) yn gadfridog a Phrif Weinidog y Deyrnas Unedig a aned yn Iwerddon i deulu uchelwrol o dras Seisnig, ond a oedd wedi ymsefydlu yn Iwerddon ers blynyddoedd lawer.

Ganed ef fel Arthur Wesley (newidiodd y teulu eu cyfenw i Wellesley yn ddiweddarach) yn Nulyn, y trydydd o bum mab Garret Wesley, Iarll 1af Mornington. Ymunodd a'r fyddin, a daeth i amlygrwydd yn India. Yn ystod y rhyfeloedd Napoleonaidd bu'n ymladd yn erbyn y Ffrancwyr yn Sbaen a Portiwgal, ac mae'n fwyaf adnabyddus am ei fuddugoliaeth dros Napoleon ym Mrwydr Waterloo.

Yn ddiweddarach bu'n Brif Wenidog y Deyrnas Unedig ddwywaith, o 1828 hyd 1830 yna eto am gyfnod byr yn 1834. Roedd yn aelod o'r blaid Dorïaidd.

Hourglass.svg Eginyn erthygl sydd uchod am hanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato