Stephen Richard Glynne, 9fed Barwnig

Oddi ar Wicipedia
Stephen Richard Glynne, 9fed Barwnig
Ganwyd22 Medi 1807 Edit this on Wikidata
Penarlâg Edit this on Wikidata
Bu farw17 Mehefin 1874 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 14eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 13eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 12fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 11eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 10fed Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Geidwadol, Tori Edit this on Wikidata
TadStephen Glynne Edit this on Wikidata
MamMary Griffin Edit this on Wikidata

Tirfeddiannwr Gymreig a gwleidydd Ceidwadol oedd Syr Stephen Richard Glynne, 9fed Barwnig (22 Medi 180717 Mehefin 1874). Fe'i cofir yn bennaf fel ymchwilydd ym maes yr hynafiaethau gyda diddordeb arbennig mewn pensaernïaeth eglwysig Prydain. Roedd yn frawd-yng-nghyfraith i'r Brif Weinidog Rhyddfrydol William Ewart Gladstone.[1]

Cefndir[golygu | golygu cod]

Bu farw Syr Stephen yr 8fed farwnig ym 1815 yn 35 mlwydd oed. Gan hynny etifeddodd Stephen ei fab y farwniaeth ac ystadau'r teulu (a oedd yn cynnwys Castell Penarlâg) pan nad oedd ond 7 mlwydd oed.[2]

Priododd Catherine, chwaer Stephen Glynne, y gwleidydd William Ewart Gladstone. Daeth tad Gladstone, Syr John Gladstone, i'r adwy, pan achubodd Glynne rhag mynd yn fethdalwr ar ôl methiant gwaith haearn yr oedd yn rhan-berchennog arnynt[3]. Yr unig fodd iddo gadw Penarlâg oedd trwy werthu rhan o'r ystâd a chytuno i rannu ei gartref Castell Newydd Penarlâg gyda William a Catherine.

Bu Glynne farw'n ddibriod, a daeth y farwnigaeth i'w therfyn ar ei farwolaeth. Cafodd ystâd a chastell Penarlâg eu hetifeddu gan ei nai William Henry Gladstone, mab hynaf William a Catherine.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Cafodd Glynne ei addysgu yng Ngholeg Eton a Choleg Christ Church, Rhydychen gan ennill gradd trydydd dosbarth yn y Clasuron.

Bu'n gwasanaethu fel Aelod Seneddol Ceidwadol Bwrdistrefi Fflint o 1832 i 1837 a Sir y Fflint o 1837 i 1841 ac eto o 1842 i 1847 er na siaradodd erioed mewn dadl yn Nhŷ'r Cyffredin. Bu hefyd yn Uchel Siryf Sir y Fflint ym 1831 ac yn Arglwydd Raglaw Sir y Fflint o 1845 i 1871.

Yn ystod ymgyrch etholiadol 1841, daeth Glynne ag achos enllib yn erbyn y Chester Chronicle, wedi i'r papur gyhoeddi honiad ei fod yn gyfunrywiol. Enillodd yr achos a bu'n rhaid i'r papur ymddiheuro.

Crefydd[golygu | golygu cod]

O ran ei ddaliadau crefyddol yr oedd Glynne yn aelod pybyr o Eglwys Lloegr ac yn elyniaethus i achosion anghydffurfiol. Roedd yn gwrthod caniatáu i anghydffurfwyr gynnal cyfarfodydd o addoliad yn y pentrefi a oedd yn eiddo i'w ystâd.[4]

Er mwyn lleihau apêl y capeli roedd Glynne yn credu ei fod yn bwysig i'r Eglwys gynnig gwasanaethau Cymraeg a bu'n ddylanwadol wrth sicrhau bod y Cymro Cymraeg, John Hughes, yn cael ei benodi'n Esgob Llanelwy ym 1870.

Hynafiaethau[golygu | golygu cod]

Yn codi o'i Anglicanaeth pybyr roedd gan Glynne diddordeb mawr mewn pensaernïaeth eglwysig. Roedd yn aelod o bwyllgor, yn ddiweddarach yn ysgrifennydd mygedol, ac yn y pendraw yn is-lywydd yr Ecclesiological Society - cymdeithas a oedd yn hybu astudiaethau o bensaernïaeth Gothig ac o hynafiaethau Eglwysig. Ym 1847 bu'n un o olygyddion llyfr a gyhoeddwyd gan y gymdeithas Hand-Book of English Ecclesiology.

Yn ystod ei fywyd bu Glynne yn ymweld â dros bum mil o eglwysi gan wneud nodiadau manwl am eu nodweddion pensaernïol[5]. Mae ei nodiadau yn dyddio o 1824 tan ychydig ddyddiau cyn ei farwolaeth ac maent yn cwmpasu eglwysi yng Nghymru, Lloegr ac Ynysoedd y Sianel ac ychydig yn yr Alban ac Iwerddon. Mae ei nodiadau yn parhau i gael eu gwerthfawrogi'n fawr gan haneswyr pensaernïol, gan eu bod yn aml yn rhoi cofnod byr a gwybodus o'r adeiladau fel yr oeddent cyn adferiadau Fictoraidd.

Llyfrgell Gladstone.

Mae nodiadau eglwysig Glynne wedi eu cadw mewn 106 o gyfrolau, sydd yn cael eu cadw yn Llyfrgell Gladstone (Llyfrgell Deiniol Sant gynt), Penarlâg.[6] Er na chyhoeddodd Glynne ei nodiadau yn ystod ei fywyd mae sawl gyfrol bellach wedi'u cyhoeddi gan gymdeithasau archeolegol a chofnodion lleol ers ei farwolaeth.

Bu Glynne hefyd yn gwasanaethu fel Llywydd cyntaf (1847-9) Cymdeithas Hynafiaethau Cymru; ac fel cadeirydd (1852-1874) Adran Bensaernïol y Sefydliad Archeolegol.

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Cofeb Glynne yn Eglwys Sant Deiniol, Penarlâg, Sir y Fflint.

Bu farw Glynne o drawiad ar y galon y tu allan i orsaf reilffordd Bishopsgate ar 17 Mehefin, 1874 ar ôl ymweld ag eglwysi yn Essex a Suffolk[7]. Fe'i claddwyd yn Eglwys Penarlâg.[8]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. GLYNNE (TEULU), Penarlâg Y Bywgraffiadur arlein [1] adalwyd 28 Rhagfyr 2014
  2. GLYNNE, Sir Stephen Richard, 9th bt. (1807-1874), of Hawarden Castle, Flint The History of Parliament: the House of Commons 1820-1832, ed. D.R. Fisher, 2009 [2] adalwyd 28 Rhagfyr 2014
  3. THE OAK FARM IRON WORKS -Carnarvon and Denbigh Herald 22 Ionawr 1848 [3] adalwyd 27 Rhag 2014
  4. Court and Aristocracy -Welshman - 4 Mehefin 1841 [4] adalwyd 28 Rhagfyr 2014
  5. Cyngor Sir y Fflint - NODIADAU EGLWYSI SYR STEPHEN GLYNNE [5] Archifwyd 2016-03-05 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 28 Rhagfyr 2014
  6. Glynne, Sir Stephen Richard (1807-1874) 9th Baronet MP Antiquary [6] adalwyd 28 Rhagfyr 2014
  7. MARWOLAETH DISYMWTH SYR STEPHEN GLYNNE Llais Y Wlad—26 Mehefin 1874 [7] adalwyd 28 Tachwedd 2014
  8. Y DIWEDDAR SYR STEPHEN GLYNNE Llais Y Wlad—3 Gorffennaf 1874 [8] adalwyd 28 Tachwedd 2014
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Henry Glynne
Aelod Seneddol dros Bwrdeistrefi Fflint
18321837
Olynydd:
Charles Whitley Deans Dundas
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Edward Lloyd-Mostyn, 2il Farwn Mostyn
Aelod Seneddol dros Sir y Fflint
18371841
Olynydd:
Edward Lloyd-Mostyn
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Edward Lloyd-Mostyn
Aelod Seneddol dros Sir y Fflint
18421847
Olynydd:
Edward Lloyd-Mostyn