Ynysoedd y Sianel

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Ynysoedd y Sianel
Channel Islands by Sentinel-2.jpg
Math Ynysfor Edit this on Wikidata
Jer-Îles d'la Manche.ogg Edit this on Wikidata
Poblogaeth 163,857 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Gwlad Beilïaeth Jersey, Beilïaeth Ynys y Garn Edit this on Wikidata
Arwynebedd 198 km² Edit this on Wikidata
Gerllaw Môr Udd Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 49.335862°N 2.334595°W Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant 1.466 Edit this on Wikidata

Grŵp o ynysoedd ym Môr Udd oddi ar arfordir Normandi, Ffrainc, ond yn diriogaeth ddibynol ar goron y Deyrnas Unedig yw Ynysoedd y Sianel (Saesneg: Channel Islands, Ffrangeg: Îles Normandes). Y prif ynysoedd yw Jersey (yr ynys fwyaf), Ynys y Garn (Guernsey), Alderney a Sark. Mae ganddynt tirfas o 194 km².

Map o Ynysoedd y Sianel

Daethant dan reolaeth Coron Lloegr gyda'r Goresgyniad Normanaidd o'r wlad honno yn 1066. Yn yr Ail Ryfel Byd cawsant eu meddiannu gan yr Almaen.

Mae twristiaeth yn bwysig iawn i'r ynysoedd ond mae amaethyddiaeth – yn arbennig tatws Jersey a thomatos – a garddwriaeth yn ddiwydiannau pwysig hefyd. Mae bridiau gwartheg Jersey yn enwog am eu llaeth hufennog.

Siaredir patois arbennig sy'n ffurf ar Ffrangeg Normanaidd ar yr ynys, ond Saesneg yw'r brif iaith.