Ffrangeg Normanaidd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Tafodiaith ganoloesol o'r iaith Ffrangeg yw Ffrangeg Normanaidd. Normandi yng ngogledd Ffrainc oedd ei thiriogaeth wreiddiol. Hon oedd sail yr iaith lenyddol a ddatblygodd yng ngwledydd Prydain ac Iwerddon ac a elwir weithiau yn Eingl-Ffrangeg (Ffrangeg Seisnig) a'i llenyddiaeth yn 'Eingl-Normanaidd' neu 'Eingl-Ffrengig'. Yn Normandi roedd hi'n iaith gyffredin i bawb ond yng ngwledydd Prydain iaith yr uchelwyr a'r llys oedd hi yn bennaf.

Ceir tystiolaeth fod y tywysogion Cymreig yn ei deall yn ddigon da i'w siarad; pan ddaeth Y Dywysoges Siwan i fyw gyda'i gŵr Llywelyn Fawr yn llys Abergwyngregin, dyma fyddai'r iaith a siaradent gan nad oedd hi, mae'n debygol, yn deall Cymraeg; cafodd ei magu mewn llys lle siaradai pawb Ffrangeg Normanaidd ac mae'n anhebygol y byddai Llywelyn yn deall llawer o Saesneg. Mae'n debyg fod rhai o'r beirdd a'r dysgedigion yng Nghymru yn gyfarwydd â'r iaith hefyd ac roedd hi'n iaith anhepgor ar gyfer trafodaethau rhwng y tywysogion ac arglwyddi Normanaidd y Mers a'r Saeson.

Bu'r Ffrangeg Normanaidd yn gyfrwng i lenyddiaeth sylweddol ar ddwy ochr y Môr Udd, yn ymestyn o oes Phillipe de Taon (tua 1120) hyd gyfnod John Gower (tua 1400). Cyfansoddwyd nifer o'r rhamantau Arthuraidd yn yr iaith hefyd.

Er iddi newid gydag amser, parhaodd Ffrangeg Normanaidd neu Ffrangeg Seisnig fel iaith masnach a gweinyddiaeth yn Lloegr hyd y 15fed ganrif; goroesoedd y ffurf arbennig ohoni a elwir yn 'Ffrangeg y Gyfraith' (Law French) hyd tua 1700 ac mae'n aros mewn defnydd o hyd mewn nifer o ymadroddion cyfreithiol a seremonïol.

Mae enw gwreiddiol tref Biwmares, sef Beaumarais, yn enghraifft o enw lle Ffrangeg Normanaidd yng Nghymru. Cafodd ei Gymreigio'n fuan iawn yn ei hanes ac mae'r ynganiad Cymraeg yn cadw'n bur agos at yr ynganiad Ffrangeg Normanaidd gwreiddiol.

Globe of letters.svg Eginyn erthygl sydd uchod am iaith. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.