Charles Whitley Deans Dundas
Charles Whitley Deans Dundas | |
---|---|
Ganwyd | 18 Ionawr 1811 |
Bu farw | 11 Ebrill 1856 Caeredin |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod o'r 13eg Senedd y Deyrnas Unedig |
Roedd Charles Whitley Deans Dundas (18 Ionawr 1811 – 11 Ebrill 1856) yn filwr ac yn wleidydd Prydeinig.
Cefndir[golygu | golygu cod]
Roedd Dundas yn fab i'r Llyngesydd Syr James Whitley Deans Dundas a Janet Dundas etifeddes ystâd Aston Hall, Sir y Fflint.[1]
Gyrfa Milwrol[golygu | golygu cod]
Yn 17 mlwydd oed ymunodd â Chatrawd y Black Watch fel ensign (safle sy'n cyfateb i Is-gapten, bellach). Ym 1830 fe symudodd i Warchodlu'r Coldstream lle fu'n gwasanaethu hyd 1837.[2]. Ar ôl ymddeol o'r fyddin llawn amser bu'n gwasanaethu fel Capten ym Militia Sir Gaerhirfryn.
Gyrfa Seneddol[golygu | golygu cod]
Ym 1837 cafodd ei ethol yn Aelod Seneddol dros Bwrdeistrefi Fflint gan wasanaethu hyd 1841.
Personol[golygu | golygu cod]
Priododd Janet Lindsey Jardine (ei gyfnither) ym 1837 a bu iddynt un mab Charles Amesbury Whitley Deans Dundas, a daeth yn etifedd Aston Hall ar farwolaeth ei daid ym 1862.
Bu farw Charles Dundas yng Nghaeredin 11 Ebrill 1856.[3]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Syr Stephen Richard Glynne |
Aelod Seneddol dros Bwrdeistrefi Fflint 1837 – 1841 |
Olynydd: Richard Bulkeley Williams-Bulkeley |