Diweithdra

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Dynion diwaith y tu allan i soup kitchen yn Chicago, Illinois, UDA, adeg Dirwasgiad Mawr yn 1931.
Diweithdra yn yr Undeb Ewropeaidd, Gwlad yr Iâ a Norwy yn 2016.[1]

Diweithdra yw'r ystâd o fod heb waith; yn aml mae'n cyfeirio at y gyfradd o bobl sydd ar gael i weithio ac yn chwilio am waith, ond heb swydd. Caiff ei gyfrifo fel canran drwy rannu'r nifer o bobl sy'n ddi-waith gyda'r boblogaeth gweithiol cyfan. Daw'r gair o'r geiryn "di" a "gwaith" (heb waith).[2]

Roedd diweithdra Gwledydd Prydain ar gychwyn Chwefror 2009 wedi cynyddu i oddeutu 2,000,000.

Mae yna sawl rheswm pam y mae diweitheidra'n digwydd. Mae’r Monetarists yn credu mai chwyddiant sydd wrth wraidd diweithdra. Credant, felly, mai'r dull gorau i'w leihau yw buddsoddi mwy yn y farchnad - er mwyn creu mwy o swyddi yn y dyfodol. Mae economegywr Keynesiaid yn credu y dylai'r sector gyhoeddus ymyrryd gan greu mesurau fyddai'n hybu'r economi drwy brynu a gwerthu rhagor o nwyddau a gwasanaethau. Mae economegwyr clasurol ar y llaw arall yn beio trethi a deddfau ayb.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]