Rhamant Bywyd Lloyd George
Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol |
---|---|
Awdur | Beriah Gwynfe Evans |
Dyddiad cyhoeddi | 1916 |
Genre | cofiant |
Lleoliad cyhoeddi | Utica |
Mae Rhamant Bywyd Lloyd George gan Beriah Gwynfe Evans[1] yn gofiant gwleidyddol o'r gwleidydd David Lloyd George[2] a gyhoeddwyd gyntaf ym 1916. Cyhoeddwyd y llyfr gan wasg Swyddfa'r Drych, Utica, Efrog Newydd.
Awdur
[golygu | golygu cod]Roedd Beriah Gwynfe Evans (12 Chwefror 1848 - 4 Tachwedd 1927) yn newyddiadurwr, awdur a dramodydd. Cyfansoddodd llyfrau a golygodd newyddiaduron yn y Gymraeg a'r Saesneg. Roedd Gwynfe hefyd yn amlwg yn y byd gwleidyddol Cymreig, yn aelod brwd o'r Blaid Ryddfrydol, gwasanaethodd fel ysgrifennydd Cymru Fydd a, Chymdeithas yr Iaith Gymraeg (1885). O 1922 hyd ei farwolaeth gwasanaethodd fel Cofiadur Gorsedd y Beirdd.
Ymysg ei gyhoeddiadau eraill mae:
- Ystori’r Streic (Caernarfon, 1904). [Drama]
- Esther: Drama Ysgythrol (Caernarfon, 1914). [Drama]
- Caradog (Caernarfon, 1904). [Drama]
- The Bardic Gorsedd, its history and symbolism (Pont-y-pŵl, 1923).
- Chwarae-gân (Llanberis, 1879).
- ‘Cymro, Cymru a Chymraeg’ yn eu cysylltiad ag addysg (Lerpwl, 1889).
- Y Cyngor Plwyf (Caernarfon, 1894).
- Dafydd Dafis (Wrecsam, 1898).
- Y Ddwy Fil (Aberafan, 1912).
- Diwygwyr Cymru (Caernarfon, 1900).
- Glyndŵr: Tywysog Cymru (Caernarfon, 1911). (Drama)
- Llawlyfr y Cymro ac arweinydd yr ymneillduwr i Ddeddf Addysg 1902 (Dinbych, 1903).
- Llewelyn ein Llyw Olaf, cerddoriaeth gan Alaw Ddu (h.y. William Thomas Rees) (Llanelli, 1983).
- ‘The peasantry of South Wales’, Longman’s Magazine (Gorffennaf 1885).
- Ymneillduaeth Cymru (mewn atebiad i Dr James, Manchester) (Treffynnon, 1901).
- Gwrthryfel Owain Glyndŵr (Llanberis, 1880).
- ‘Welsh National Drama: Lord Howard de Walden’s mistake, and how it might be rectified, I. – The Mistake’, Wales: the National Magazine for the Welsh People, VI, 35 (1914), t. 44.
Trosolwg
[golygu | golygu cod]Ym 1915 cyhoeddodd Gwynfe Evans llyfr Saesneg The Life Romance of Lloyd George.[3][4] Cafodd cais gan berchennog Y Drych (papur newyddion Cymraeg Efrog Newydd[5]) i gyfieithu'r gwaith i'r Gymraeg a'i addasu i gynulleidfa Americanaidd. Gan fod y llyfr wedi ei ysgrifennu ym 1916 fe'i cyhoeddwyd cyn bod Lloyd George wedi ei ddyrchafu yn brif weinidog y Deyrnas Unedig a chyn i'r Unol Daleithiau ymuno a'r Rhyfel Byd Cyntaf.[6]
Heddiw mae'r gair rhamant (a romance yn y Saesneg[7]) yn dueddol i olygu stori am berthynas cariadus cwpl, yn nheitl y llyfr hwn mae iddi'r ystyr mwy hen ffasiwn o stori cyffroes, rhyfeddod, ffantasi, annisgwyl.[8] "Rhamant" bywyd Lloyd George yw stori, anhygoel bron, am fachgen a magwyd mewn tlodi mewn pentref bach Cymraeg, heb lawer o fanteision golud nac addysg yn cael ei ddyrchafu i fod yn un o arweinwyr pwysicaf ymerodraeth fwyaf y byd.
Mae penodau cyntaf y llyfr yn darllen fel hagiograffeg am genedlaetholwr sy'n caru ei wlad gydag angerdd, anghydffurfiwr sy'n amddiffyn crefydd y Cymro cyffredin rhag gormes y landlordiaid Anglicanaidd, ac ymladdwr selog dros gyfiawnder i'r difreintiedig. Mae penodau diweddarach yn fwy beirniadol ac yn brwydro yn erbyn y posibilrwydd bod Lloyd George wedi colli peth o'i frwdfrydedd dros achos Cymru. Mae'n adlewyrchiad o berthynas Gwynfe a Lloyd George a fu dan straen braidd wedi methiant yr ymgyrch dros ymreolaeth i Gymru, Cynghrair Cymru Fydd (yr oedd Gwynfe yn ysgrifennydd iddi) ym 1896. Prif fyrdwn y llyfr yw'r bennod olaf Dyfodol Lloyd George lle mae Gwynfe yn awgrymu byddai modd, ar ôl y Rhyfel, i Lloyd George defnyddio ei bwysigrwydd fel arweinydd ymerodrol er lles i Gymru trwy ddod yn llywydd ar lywodraeth ymerodraeth o genhedloedd lled annibynnol gan gynnwys Cymru ac Iwerddon rydd.[9]
Penodau
[golygu | golygu cod]Mae'r llyfr yn cynnwys cyflwyniad ar gyfer Cymry'r America a 12 pennod
Darluniau
[golygu | golygu cod]Mae'r llyfr yn cynnwys 16 o luniau:
Argaeledd
[golygu | golygu cod]Gan fu farw yr awdur cyn 1954, mae'r llyfr felly yn y parth cyhoeddus mewn gwledydd sydd â thymor hawlfraint bywyd yr awdur ynghyd â 70 o flynyddoedd neu lai.
Mae'r llyfr bellach allan o brint ond mae modd ei ddarllen ar Wicidestun a Wikibookreader
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "EVANS, BERIAH GWYNFE (1848 - 1927), newyddiadurwr a dramodydd | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2023-03-23.
- ↑ LLOYD GEORGE, DAVID (1863 - 1945), yr IARLL LLOYD-GEORGE o DDWYFOR cyntaf, gwleidydd. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 23 Maw 2023
- ↑ Y Traethodydd, Cyf. LXXI (IV) (318-321), 1916 t83 Adolygiad o The Life Romance of Lloyd George
- ↑ Life Romance of Lloyd George, B. G. Evans Everyman, 1915
- ↑ Llenyddiaeth Fy Ngwlad Cylchgronau Cymreig America ac Awstralia
- ↑ "Milestones: 1914–1920 - Office of the Historian". history.state.gov. Cyrchwyd 2023-03-23.
- ↑ Cambridge Dictionary—romance
- ↑ Geiriadur y Brifysgol – Rhamant
- ↑ Lloyd George and The Historians, Kenneth O. Morgan; Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, 1971 tud 68]