The Life Story of David Lloyd George
Enghraifft o'r canlynol | ffilm |
---|---|
Lliw/iau | du-a-gwyn |
Dyddiad cyhoeddi | 1996 |
Genre | ffilm am berson, ffilm fud |
Prif bwnc | David Lloyd George |
Lleoliad y gwaith | Llundain |
Cyfarwyddwr | Maurice Elvey |
Cwmni cynhyrchu | Ideal Film Company |
Iaith wreiddiol | Saesneg |
Ffilm fud am hanes bywyd a gyrfa gynnar y gwleidydd Cymreig David Lloyd George yw The Life Story of David Lloyd George. Fe'i cynhyrchwyd yn 1918 ond diflanodd o'r golwg am 76 o flynyddoedd nes ei hailddarganfod yn archifau ffilm Llyfrgell Genedlaethol Cymru.[1]
Cyfarwyddwyd y ffilm gan Maurice Elvey. Am ryw reswm, sy'n ddirgelwch hyd heddiw, atalwyd y ffilm cyn ei gorffen. Awgrymir mai ar orchymyn y Blaid Ryddfrydol y gwnaed hynny.[2]
Mae'r ffilm yn adrodd stori plentyndod Lloyd George yn Eifionydd ac yna'n dilyn ei yrfa feteorig fel gwleidydd Rhyddfrydol a ddechreuodd fel un o radicalwyr mwyaf ei gyfnod ac a ddaeth yn weinidiog rhyfel yng nghabinet llywodraeth y DU yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ac wedyn yn brif weinidog.
Ffilm ddyfeisgar ac arloesol o ran ei thechneg ydyw, sy'n defnyddio technegau fel ôl-fflachiau lliw a gweledigaethau.
Portreadir Lloyd George gan yr actor Norman Page a cheir cannoedd o ecstras. Mae Alma Reville yn chwarae rhan Megan Lloyd George.
Y fersiwn adferedig
[golygu | golygu cod]Mae'r Llyfrgell Genedlaethol wedi adfer y ffilm. Fe'i dangoswyd am y tro cyntaf yn 1996 yng Nghaerdydd.
Cafodd ei chyhoeddi ym Mawrth 2009 ar DVD gyda cherddoriaeth wreiddiol gan y pianydd Neil Brand. Ceir cyflwyniad ar y cefndir hanesyddol a ffilmyddol gan yr actor Philip Madoc.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-08-15. Cyrchwyd 2009-04-03.
- ↑ [1]
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Newyddion LlGC: "'The Life Story of David Lloyd George' nawr ar DVD" Archifwyd 2008-08-15 yn y Peiriant Wayback, gwefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru
- (Saesneg) Manylion y ffilm ar IMDB