Philip Madoc
| Philip Madoc | |
|---|---|
| Ganwyd | 5 Gorffennaf 1934 Merthyr Tudful |
| Bu farw | 5 Mawrth 2012 o canser Swydd Hertford |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | actor llwyfan, actor ffilm, actor teledu, actor |
| Priod | Ruth Madoc |
Actor o Gymro oedd Philip Madoc (ganwyd Philip Arvon Jones; 5 Gorffennaf 1934 – 5 Mawrth 2012).[1] Roedd yn enwog am ei lais cyfoethog a pherformiodd nifer o rannau ar lwyfan, radio, teledu a ffilm.
Bywyd cynnar ac addysg
[golygu | golygu cod]Cafodd ei eni ger Merthyr Tudful a mynychodd Ysgol Ramadeg Castell Cyfarthfa, lle'r oedd yn aelod o'r tîmau criced a rygbi,[2] a dangosodd ddawn fel ieithydd.
Fe aeth i Brifysgol Cymru, Caerdydd a Phrifysgol Fienna i astudio ieithoedd. Yn y pendraw, roedd yn siarad 7 iaith, yn cynnwys Rwsieg a Swedeg gyda dealltwriaeth digonol o iaith India, Hindi a Mandarin. Bu'n gweithio fel cyfieithydd ond cafodd ei ddadrithio wrth gyfieithu ar gyfer gwleidyddion. Dywedodd ei fod wedi gwneud gwaith "sych" fel cyfieithu gwleidyddol a fod rhywun yn dod i gasau gwleidyddion wrth gyfieithu y "rwtsh" oedden nhw'n siarad[3] Symudodd i fyd actio gan ennill lle yn Royal Academy of Dramatic Art (RADA).
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Daeth i amlygrwydd mewn cyfresi teledu Seisnig fel Manhunt a Last Of The Mohicans yn niwedd y 1960au a dechrau'r 1970au. Yn 1981 daeth cafodd sylw a chlod am ei bortread o'r gwleidydd David Lloyd George yn y gyfres deledu The Life and Times of David Lloyd George.[4]
Gwnaeth ymddangosiad enwog yn Dad's Army a chwaraeodd pedwar rhan gwahanol yn Doctor Who.
Ymysg ei waith ffilm mae The Spy Who Came In From The Cold, The Quiller Memorandum ac Operation Daybreak.
Yn ddiweddarach yn ei yrfa bu'n gweithio yn Gymraeg a chwaraeodd y ditectif DCI Noel Bain yn y ffilm Noson yr Heliwr ar S4C. Dychwelodd i'r cymeriad mewn pedwar cyfres o Yr Heliwr rhwng 1994 a 2002.
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Roedd yn briod a'r actores Ruth Madoc am ugan mlynedd ac roedd ganddynt ddau o blant, Rhys a Lowri.
Derbyniodd ddoethuriaeth er anrhydedd gan Brifysgol Morgannwg, ac roedd yn Gymrawd Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd.
Bu farw yn 77 mlwydd oed wedi salwch byr. Roedd wedi bod yn dioddef o ganser a bu farw mewn ysbyty yn Sir Hertford.[4]
Ffilmyddiaeth
[golygu | golygu cod]Ffilmiau
[golygu | golygu cod]- Operation Crossbow (1965)
- A High Wind in Jamaica (1965)
- The Quiller Memorandum (1966)
- Daleks' Invasion Earth: 2150 A.D. (1966)
- Doppelgänger (1969)
- Operation Daybreak (1975)
- Zina (1986)
- Best (2000)
Teledu
[golygu | golygu cod]- The Monsters (1962)
- The Count of Monte Cristo (1964)
- For Whom the Bell Tolls (1965)
- The Power Game (1966)
- The Tyrant King (1968)
- Z Cars (1970)
- Manhunt (1970)
- The Last of the Mohicans (1971)
- Woodstock (1973)
- Dad's Army (1973)
- The Inheritors (1974)
- Barlow (1975)
- Poldark (1975)
- Another Bouquet (1977)
- Target (1977)
- Hawkmoor (1978)
- Flickers (1980)
- Ennal's Point (1982)
- A Very British Coup (1988)
- First Born (1988)
- Noson yr Heliwr (ffilm) (1991)
- Yr Heliwr (1994) Cyfres S4C. Fersiwn Saesneg o Mind to Kill
- Y Pris (2007)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Stephens, Meic (7 Mawrth 2012). Philip Madoc: Actor forever remembered as the U-boat captain in 'Dad's Army'. The Independent. Adalwyd ar 9 Rhagfyr 2012.
- ↑ "Cyfartha School Photographs 1950-51 at alangeorge.co.uk". Cyrchwyd 5 Mawrth 2012.
- ↑ "Actor Philip Madoc Obituary". The Daily Telegraph. London. 5 March 2012. Cyrchwyd 5 March 2012.
- ↑ 4.0 4.1 "'Y dyn â'r llais cyfoethog'". BBC Cymru Fyw. 2012-03-05. Cyrchwyd 2025-06-02.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Philip Madoc yn yr Internet Movie Database