The Life and Times of David Lloyd George

Oddi ar Wicipedia
The Life and Times of David Lloyd George
Genre Drama hanesyddol
Serennu Philip Madoc
Lisabeth Miles
William Thomas
Rachel Thomas
Cyfansoddwr/wyr Kenyon Emrys-Roberts
Ennio Morricone
Gwlad/gwladwriaeth Y Deyrnas Unedig
Iaith/ieithoedd Saesneg
Nifer cyfresi 1
Nifer penodau 9
Cynhyrchiad
Cynhyrchydd John Hefin
Golygydd Keith Raby
Paul Turner
Amser rhedeg 60 munud i bob rhan
Cwmnïau
cynhyrchu
BBC
Darllediad
Sianel wreiddiol BBC
Darllediad gwreiddiol 4 Mawrth 1981 – 29 Ebrill 1981
Cysylltiadau allanol
Proffil IMDb

Cyfres drama o BBC Cymru yw The Life and Times of David Lloyd George. Fe'i darlledwyd gyntaf ym 1981 ar rwydwaith BBC1. Chwaraewyd y prif ran gan Philip Madoc.

Roedd yn cynnwys cerddoriaeth gan Ennio Morricone: roedd y prif thema, "Chi Mai", yn llwyddiant mawr yn siartiau'r DU, gan gyrraedd rhif 2. Roedd y teitlau agoriadol yn dangos David Lloyd George fel hen ddyn yn cerdded trwy gefn gwlad ger Cricieth gan gofio ei hun fel bachgen yn cael ei fedyddio mewn nant mynydd gan ei Wncl Lloyd.

Mae'r gyfres mewn 9 rhan sy'n cwmpasu'r rhan fwyaf o ddigwyddiadau pwysig ym mywyd Lloyd George o'i eni ym Manceinion ym mis Ionawr 1863 hyd at ei farwolaeth ym 1945 yn Llanystumdwy. Mae digwyddiadau mawr ei fywyd personol, yn enwedig rhedeg dau deulu, i'w gweld yn y cynhyrchiad. Fodd bynnag, mae llawer o fanylion ei yrfa wleidyddol hir (dros 54 mlynedd) wedi'u symleiddio. Yr ymgynghorydd hanesyddol ar gyfer y gyfres oedd yr hanesydd A. J. P. Taylor.