Edmund Swetenham

Oddi ar Wicipedia
Edmund Swetenham
Ganwyd15 Tachwedd 1822 Edit this on Wikidata
Somerford Booths Edit this on Wikidata
Bu farw19 Mawrth 1890 Edit this on Wikidata
Yr Orsedd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethbargyfreithiwr, Aelod Seneddol, y Deyrnas Unedig, gwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 24ain Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Geidwadol Edit this on Wikidata

Roedd Edmund Swetenham (15 Tachwedd 182219 Mawrth 1890) yn bargyfreithiwr, yn wleidydd Ceidwadol ac yn Aelod Seneddol dros etholaeth Caernarfon

Bywyd Personol[golygu | golygu cod]

Ganwyd Edmund Swetenham ym 1822 yn Somerford Booths Swydd Gaer, yn fab i Clement Swetenham, bonheddwr, o Sumerford Booths Hall, ac Eleanor (née Buchanan) ei wraig.[1]

Cafodd ei addysgu yn Ysgol Ramadeg Macclesfield a Choleg y Trwyn Pres, Rhydychen gan raddio'n B.A. ym 1844 ac M.A. ym 1845.

Bu'n briod ddwywaith, yn gyntaf ym 1851 i Elizabeth Jane, merch Wilson Jones, o Hartsheath Park, yr Wyddgrug a chyn AS Bwrdeistrefi Dinbych; bu iddynt un mab a dwy ferch. Priododd yr ail waith ym 1867 i Gertrude merch Ellis Cunliffe Parc Acton Wrecsam; bu iddynt un mab ac un ferch; bu hi farw ym 1876.[2]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Cafodd Swetenham ei alw i'r Bar yn Lincoln's Inn ym 1848[3] gan ddewis gweithio yn rhanbarth Gogledd Cymru o Gylchdaith Cymru a Chaer. Daeth yn un o fargyfreithwyr amlycaf y rhanbarth gan amddiffyn neu erlyn mewn nifer o achosion enwocaf ei gyfnod, gan gynnwys amddiffyn gweithwyr Rheilffordd a gyhuddwyd o ddynladdiad wedi trychineb Rheilffordd Abergele[4] ym 1869. Erlyn Thomas Gee am enllib am gyhoeddi yn Y Faner[5] bod ffarmwr wedi ei droi allan o'i gartref am bleidleisio dros y Ceidwadwyr ac amddiffyn Cadwaladr Jones y llofrudd o Ddolgellau a grogwyd am lofruddio ei gariad ym 1877[6]

Cafodd ei ddyrchafu'n Gwnsler y Frenhines (Q.C.) ym 1880

Gyrfa Wleidyddol[golygu | golygu cod]

Yn Etholiad Cyffredinol 1885, safodd Swetenham yn etholaeth Bwrdeistrefi Caernarfon er budd y Ceidwadwyr gan golli o 65 pleidlais[7] Safodd eto yn Etholiad Cyffredinol 1886, gan gael ei ethol gyda mwyafrif o 136 o bleidleisiau dros Syr Love Jones-Parry, yr hen aelod.[8]

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Bu farw o’r ffliw yn ei gartref Cam-yr-Alyn, Yr Orsedd, Wrecsam ym 1890. Claddwyd ei weddillion yng nghladdgell y teulu ger Eglwys Plwyf yr Hôb.[9]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "BIOGRAPHIES OF NORTH WALES MEMBERS - The North Wales Express". Robert Wiliams. 1886-07-16. Cyrchwyd 2020-02-04.
  2. DEATH OF MR SWETENHAM, M.P. Cardiff Times 22 Mawrth 1890 [1] adalwyd 4 Ionawr 2015
  3. THE LATE MR. SWETENHAM, M.P. yn Llangollen Advertiser, Denbighshire, Merionethshir - 28 Mawrth 1890 [2] adalwyd 4 Ionawr 2015
  4. THE ABERGELE DISASTER. yn y Cardiff and Merthyr Guardian - 27 Mawrth 1869 [3] adalwyd 4 Ionawr 2015
  5. WELSH LIBEL CASE Yn y Cambrian News-13 Awst 1870 [4] adalwyd 4 Ionawr 2015
  6. Y LLOFRUDDIAETH YN NOLGELLAU. Tyst A'r Dydd — 16 Tachwedd 1877 [5] adalwyd 4 Ionawr 2015
  7. THE GENERAL ELECTION. North Wales Express 4 Rhagfyr 1885 [6] adalwyd 4 Ionawr 2015
  8. Liberal Defeat in Carnarvon Boroughs North Wales Express 9 Gorffennaf 1886 [7] adalwyd 4 Ionawr 2015
  9. FUNERAL OF MR. SWETENHAM, Q.O. M.P. yn Carnarvon and Denbigh Herald -28 Mawrth 1890 [8] adalwyd 4 Ionawr 2015
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Love Jones-Parry
Aelod Seneddol dros Caernarfon
18861890
Olynydd:
David Lloyd George