Neidio i'r cynnwys

Grwpiau ethnig yng Nghymru

Oddi ar Wicipedia

Saeson yng Nghymru

[golygu | golygu cod]
Map yn dangos y canran o bobl yng Nghymru a aned yn Lloegr yn ôl data Cyfrifiad 2011

Mae 21% o drigolion Cymru wedi eu geni yn Lloegr, a 13.8% o'r boblogaeth yn arddel hunaniaeth Seisnig. Meddai Gwyddoniadur Cymru: "Er bod llawer o'r mewnfudwyr hyn wedi ymgyfaddasu i fod, yng ngeiriau Gwyn A. Williams, yn 'Gymry Newydd' – pobl yn cymryd rhan ddeallus a gweithredol ym mywyd y wlad – mae eraill wedi tueddu i beidio ag ymwneud â'r diwylliant cynhenid, ac wedi cyfrannu'n sylweddol tuag at Seisnigo Cymru."[1]

Teulu o Sipsiwn yn gwersylla ger Abertawe (1953).

Mae'n debyg i'r bobl Roma fyw yng Nghymru, neu deithio drwyddi, ers y 15g. Yn ôl traddodiad, Abram Wood neu "Frenin y Sipsiwn" oedd y cyntaf ohonynt i breswylio yng Nghymru yn barhaol a hynny yn y 18g. Bu'r mwyafrif o Roma Cymreig ers hynny yn honni'r un waedoliaeth a chyfeirir atynt felly fel teulu Abram Wood. Yr enw safonol arnynt yw'r Kale. Maent yn perthyn i'r Romanichal yn Lloegr, ac mae'r hen iaith Romani Gymreig ar y cyfan yn unfath â'r Eingl-Romani. Bu'r dafodiaith Gymreig yn goroesi yn y gogledd hyd at 1950, ac er ei fod yn ffurf ar Romani ac felly o deulu'r ieithoedd Indo-Ariaidd, mae ganddi nifer o fenthyceiriau Cymraeg a Saesneg. Er iddynt parhau a'u bywyd crwydrol yn y 19g a dechrau'r 20g, cawsant eu cymhathu i ddiwylliant y Cymry mewn sawl ffordd, gan gynnwys troi at Gristnogaeth, mabwysiadu cyfenwau Cymraeg, a chymryd rhan mewn eisteddfodau. Yn ôl Cyfrifiad 2011, mae 0.1% o boblogaeth Cymru yn ystyried eu hunain yn Sipsi neu Deithiwr Gwyddelig o ran eu hethnigrwydd.

Cymry Eidalaidd

[golygu | golygu cod]

O'r 1890au ymlaen ymfudodd nifer o Eidalwyr i Gymru, ac ymgartrefodd mwyafrif ohonynt yn Sir Forgannwg a Chasnewydd. Bu nifer ohonynt yn berchen ar gaffis, parlyrau hufen iâ, a siopau pysgod a sglodion. Yn y Rhondda cafodd eu galw'n "Bracchis" ar ôl perchennog caffi o'r adeg gynnar o fewnfudo. Yn yr 21g mae niferoedd y mewnfudwyr o'r Eidal i Gymru yn is ond gwelir etifeddiaeth yr hen gymuned Eidalaidd yn y cyfenwau Eidaleg a'r caffis a bwytai sydd yn dal i gael eu perchen gan ambell teulu. Ymhlith y Cymry enwog o dras Eidalaidd mae'r actor Victor Spinetti, y paffiwr Joe Calzaghe, a'r arlunydd Andrew Vicari.

Cymry Du ac Asiaidd

[golygu | golygu cod]
Plant o bob lliw yn chwarae yn Nhre-biwt, Caerdydd (1943).
Talat Chaudhri, Maer Aberystwyth: Pwnjabi ei ethnigrwydd, Seisnig ei enedigaeth, Mwslim ei grefydd, a Chymraeg ei iaith.

Yn ôl Cyfrifiad 2011, mae 3.4% o boblogaeth Cymru yn disgrifio eu hunain yn aelod o hil neu grŵp ethnig nad ydynt yn groenwyn, gan gynnwys 0.6% yn groenddu, 2.3 o dras Asiaidd, 0.3 yn Arabaidd, 0.2 o grwpiau ethnig eraill, ac 1% yn gymysg eu hil.

Ystadegau 2001

[golygu | golygu cod]
Siart cylch yn dangos ethnigrwydd yng Nghymru

Mae'r tabl isod yn rhoi data Cyfrifiad 2001 ar gyfer ethnigrwydd yng Nghymru. Mae'r rhif yn y golofn "Poblogaeth" yn dynodi holl boblogaeth ardal y rhes honno; mae'r rhifau yn y colofnau eraill yn dynodi'r canran o'r boblogaeth a nododd dewis y golofn honno.[2]

Ardal Poblogaeth Gwyn Cymysg Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig Du neu Ddu Prydeinig Tsieineaidd neu grŵp ethnig arall Y ganran o'r holl bobl sy'n adnabod eu hunain fel Cymry[3]
Prydeinig Gwyddelig Gwyn arall Gwyn a Du Caribïaidd Gwyn a Du Affricanaidd Gwyn ac Asiaidd Cymysg arall Indiaidd Pacistanaidd Bangladeshaidd Asiaidd arall Caribïaidd Affricanaidd Du arall Tsieineaidd Grŵp ethnig arall
Cymru2 903 08595.990.611.280.210.080.170.150.280.290.190.120.090.130.030.220.1814.39
Sir Ynys Môn66 82997.210.881.190.060.030.110.080.050.050.010.030.020.040.010.150.0819.42
Gwynedd116 84396.510.741.570.090.070.150.100.130.110.060.070.030.070.010.160.1426.84
Conwy109 59696.761.011.170.090.050.130.110.110.060.050.080.030.050.010.190.0912.13
Sir Ddinbych93 06597.170.661.020.120.060.140.150.150.110.020.050.030.040.050.160.0910.56
Sir y Fflint148 59497.690.590.910.090.040.110.110.070.030.050.030.020.030.010.130.075.83
Wrecsam128 47697.390.491.030.100.040.130.080.180.100.040.030.030.070.010.130.159.39
Powys126 35497.480.471.190.090.050.110.090.050.020.040.180.020.040.010.090.0612.61
Ceredigion74 94195.800.931.880.120.050.140.210.150.070.080.070.040.100.010.170.1721.76
Sir Benfro114 13196.930.811.370.090.030.110.100.120.050.040.060.030.040.010.130.1113.07
Sir Gaerfyrddin172 84297.230.591.240.070.040.120.080.160.070.030.060.020.050.000.110.1323.42
Abertawe223 30195.720.581.550.110.050.190.150.240.140.450.150.030.090.010.280.2615.29
Castell-nedd Port Talbot134 46897.570.510.850.160.030.110.090.180.080.120.030.060.030.020.120.0617.01
Pen-y-bont ar Ogwr128 64597.120.481.030.130.030.120.100.200.080.060.080.030.040.010.190.2915.76
Bro Morgannwg119 29295.780.571.490.350.140.250.210.260.160.090.090.110.090.030.210.1812.79
Caerdydd305 35388.320.902.360.800.340.430.431.251.400.830.470.440.720.120.600.6013.17
Rhondda Cynon Taf231 94697.480.380.990.090.050.120.090.210.110.020.060.030.050.010.230.0816.55
Merthyr Tudful55 98197.860.360.770.050.020.100.070.250.130.020.070.020.040.010.160.0516.19
Caerffili169 51997.850.330.900.140.040.100.090.160.060.010.040.030.040.000.160.0515.50
Blaenau Gwent70 06498.210.250.710.100.030.080.040.150.100.030.030.020.060.010.120.0512.01
Tor-faen90 94997.860.490.710.120.070.110.070.130.040.070.030.040.040.010.160.059.82
Sir Fynwy84 88597.180.531.160.110.060.170.090.230.040.030.060.040.040.010.160.106.92
Casnewydd137 01193.100.761.310.540.130.310.210.291.430.630.260.310.180.050.220.269.00
Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog32 60996.560.551.480.070.060.160.070.060.020.040.570.020.060.010.150.1214.05
Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro22 54197.110.701.500.090.030.120.080.070.020.020.040.030.04—0.080.0912.74
Parc Cenedlaethol Eryri25 48297.320.691.330.070.050.160.080.070.030.010.040.020.04—0.040.0626.59

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. ↑ "Saeson" yn Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig, t. 830.
  2. ↑  Ystadegau Allweddol ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru (tudalen 14, tabl KS06). Cyfrifiad 2001. Swyddfa Ystadegau Gwladol. Adalwyd ar 31 Mai, 2008.
  3. ↑ Doedd ffurflen y cyfrifiad ddim yn gofyn y cwestiwn hwn ac fe fu llawer o gwyno am hynny. Felly dyma'r canrannau o bobl a wnaeth ysgrifennu'r wybodaeth hon ar y ffurflen er nad oedd disgwyl iddynt wneud hynny.