Yr Ugeinfed Ganrif yng Nghymru

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Hanes Cymru
Arfbais Llywelyn Fawr
Mae'r erthygl hon yn rhan o gyfres
Cyfnodau
Cynhanes
Cyfnod y Rhufeiniaid
Oes y Seintiau
Yr Oesoedd Tywyll
Yr Oesoedd Canol Cynnar
Oes y Tywysogion
Yr Oesoedd Canol Diweddar
Cyfnod y Tuduriaid
17eg ganrif
18fed ganrif
19eg ganrif
20fed ganrif
Y Rhyfel Byd Cyntaf
Y cyfnod rhwng y rhyfeloedd
Yr Ail Ryfel Byd
21ain ganrif
Teyrnasoedd
Deheubarth
Gwynedd
Morgannwg
Powys
Yn ôl pwnc
Hanes crefyddol
Hanes cyfansoddiadol
Hanes cyfreithiol
Hanes cymdeithasol
Hanes demograffig
Hanes economaidd
Hanes gwleidyddol
Hanes LHDT
Hanes milwrol
Hanes morwrol
Hanes tiriogaethol
Hanesyddiaeth

Porth Cymru

Gellid dadlau fod yr 20g yng Nghymru yn gyfnod a welodd fwy o newid yn y wlad nag yn ystod unrhyw gyfnod arall yn ei hanes.

Gwleidyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn chwarter cyntaf y ganrif roedd Cymru yn wlad Ryddfrydol o ran ei gwleidyddiaeth a daeth David Lloyd George, AS Caernarfon, yn arweinydd y Blaid Ryddfrydol a phrif weinidog y DU. Ond bu newid yn hinsawdd gwleidyddol y wlad ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, a'r Blaid Lafur oedd y blaid rymusaf yng Nghymru o'r 1930au ymlaen gyda'i chadarnloedd yn y De a'r gogledd-ddwyrain. Ffurfiwyd Plaid Cymru yn 1925 ond araf fu ei thwf tan y 1960au pan etholwyd Gwynfor Evans yn AS Caerfyrddin yn 1966. Dyma'r cyfnod a welodd sefydlu Cymdeithas yr Iaith hefyd, mudiad a fyddai'n chwarae rhan bwysig yn y frwydr i ennill cydnabyddiaeth swyddogol i'r iaith Gymraeg. Bu newid mawr ym myd sefydliadau gwleidyddol Cymru hefyd gyda sefydlu'r Swyddfa Gymreig yn 1964, a'r broses datganoli a arweiniodd at sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 1999 gyda llywodraeth Llafur mewn grym.

Diwydiant[golygu | golygu cod y dudalen]

Erbyn 1911 roedd 86,000 o bobl yn gweithio ar y rheilffyrdd ac yn nociau mawr y De. Ddechrau'r 20g disodlwyd haearn gan dur fel y prif fetel a oedd yn cael ei allforio o'r wlad. Yr oedd 3,700 yn gweithio mewn gwaith copr yn 1911 ac 21,000 mewn gwaith tun. Roeddent yn cynhyrchu 848,000 tunnell o blat tin mewn blwyddyn. Cynhyrchwyd 56.8 miliwn tunnell o lo yn 1913. Roedd Cymru yn allforio traean o holl allforion glo y byd gan gyflogi 250,000 o ddynion ym meysydd glo y de a'r gogledd-ddwyrain.

Ond cafwyd dirywiad difrifol mewn nifer o'r diwydiannau traddodiadol ar ôl yr Ail Ryfel Byd, yn arbennig yn y meysydd glo. Yn 1913 cyflogid yn y gwaith glo 232,000 o ddynion, ond erbyn 1960 dim ond 106,000 a gyflogid a syrthiasai'r nifer i 30,000 yn unig erbyn 1979. Nid oedd ond un pwll glo ar ôl yng Nghymru erbyn y 1990au.

Roedd dirywiad tebyg yn y diwydiant dur ac economi Cymru yn gyffredinol. Roedd Cymru fel nifer o wledydd eraill y gorllewin yn dod yn fwy fwy ddibynnol ar y sector gwasanaeth.

Un o ganlyniadau'r dirywiad yn y diwydiant glo ac o ganlyniad esgeuluso diogelwch y tipiau glo oedd trychineb Aberfan, pan lyncwyd ysgol gyfan gan lithriad gwastraff glo gan ladd 144 o blant ac athrawon.

Iaith a diwylliant[golygu | golygu cod y dudalen]

Canran siaradwyr Cymraeg fesul awdurdod lleol, yn ôl Cyfrifiad 2001

Yn 1911 roedd gan Gymru boblogaeth o 2,400,000 gyda bron i 1,000,000 yn siarad Cymraeg. Dyma'r nifer fwyaf erioed ond eisoes roedd y Cymry Cymraeg yn lleiafrif. Ond lladdwyd nifer o Cymry ifainc yn y Rhyfel Byd Cyntaf, llawer ohonyn nhw'n siaradwyr Cymraeg. Cafodd Dirwasgiad Mawr y 1930au ei effaith hefyd a chredir fod tua 450,000 o bobl wedi ymfudo o'r wlad rhwng 1921 a 1939.

Crefydd[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar droad y ganrif yr oedd tua hanner poblogaeth Cymru yn aelodau o eglwys. Yn 1900 roedd gan y Methodistiaid Calfinaidd 158,111 o aelodau, yr Annibynwyr 144,000 a'r Bedyddwyr 106,000. Erbyn diwedd y ganrif darlun o ddirywiad enbyd a geir.

Rhai uchafbwyntiau[golygu | golygu cod y dudalen]

Baner CymruEicon awrwydr   Eginyn erthygl sydd uchod am hanes Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.