Roderic Bowen

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Roderic Bowen
Ganwyd 6 Awst 1913 Edit this on Wikidata
Bu farw 19 Gorffennaf 2001 Edit this on Wikidata (87 oed)
Alma mater Prifysgol Aberystwyth, Coleg Sant Ioan, Caergrawnt, Ysgol y Gyfraith, Llundain Edit this on Wikidata
Gwaith Cyfreithiwr Edit this on Wikidata
Aelod o 38ain Senedd y Deyrnas Unedig, 39ain Senedd y Deyrnas Unedig, 40ain Senedd y Deyrnas Unedig, 41ain Senedd y Deyrnas Unedig, 42ain Senedd y Deyrnas Unedig, 43ain Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata

Roedd Evan Roderic Bowen QC (6 Awst 191319 Gorffennaf 2001 ) yn gyfreithiwr ac yn wleidydd Rhyddfrydol Cymreig, a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Ceredigion o 1945 i 1966.

Cefndir Bywgraffyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Roderic Bowen yn Aberteifi ar 6 Awst 1913, yn ail fab i Evan Bowen, gŵr busnes ac ynad heddwch a Margaret Ellen (né Twiss) ei wraig. Derbyniodd Bowen ei addysg yn Ysgol Ramadeg Aberteifi, Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, lle derbyniodd radd LLB gydag anrhydedd dosbarth cyntaf ym 1933 a Choleg Sant Ioan, Caergrawnt lle cafodd BA gydag anrhydedd dosbarth cyntaf ym 1935 ac MA ym 1940. Ar ôl ei astudiaethau coleg hyfforddodd fel bargyfreithiwr gan gael ei alw i'r bar yn y Deml Ganol ym 1937.

Bu farw yng Nghaerdydd ar 18 Gorffennaf 2001. Roedd yn ddibriod.[1]

Gyrfa Gyfreithiol[golygu | golygu cod y dudalen]

Wedi cymhwyso fel bargyfreithiwr aeth Bowen i weithio mewn siambr yng Nghaerdydd gan arbenigo ym maes Cyfraith Cyflogaeth.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd gwasanaethodd Bowen fel capten yng ngwasanaeth cyfreithiol y fyddin o 1940 hyd 1946 ar staff yr Adfocad Cyffredinol.

Gasanaethodd fel Cofiadur Sir Gaerfyrddin o 1950 i 1953, Merthyr Tudful 1953 i 1960, Abertawe 1960 i 1964 a Chaerdydd 1964 i 1967 ac fel cadeirydd Llysoedd Chwarterol Sir Drefaldwyn o 1959 hyd 1971. Cafodd ei godi'n Gwnsler y Brenin (KC) ym 1952, ond gan i'r Brenin farw ychydig ar ôl ei ddyrchafiad, bu'n Gwnsler y Frenhines (QC) am weddill ei yrfa.

Hyd 1965, pan gafodd ei ddyrchafu yn un o is-lefarwyr Tŷ'r Cyffredin, bu'n brif gwnsler Cylchdaith Llysoedd Caer a Chymru [2]

Gyrfa Wleidyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Etholwyd Bowen ar ei ymgais cyntaf i gyrraedd Senedd San Steffan yn etholiad cyffredinol 1945, yn olynydd i Syr David Owen Evans, a fu farw ym 1945 ychydig yn brin o'r angen am isetholiad.

Er i weddill Prydain rhoi dirlithriad i'r achos Lafur yn yr etholiad, arhosodd Ceredigion yn driw i'r achos Rhyddfrydol, a bu Bowen yn llwyddiannus mewn pum etholiad rhwng 1945 hyd ei drechu ym 1966.

Ym 1955 daeth Bowen yn arweinydd y Blaid Seneddol Gymreig, grŵp seneddol a oedd yn cynnwys yr holl aelodau o etholaethau yng Nghymru.

Pan ymddiswyddodd Clement Davies o arweinyddiaeth y Blaid Ryddfrydol ym 1956 fe safodd Bowen, yn aflwyddianus, i'w olynu gan golli i Jo Grimond.

Bu farw llefarydd Tŷ'r Cyffredin Syr Harry Hylton-Foster ym 1965 ac fe ddyrchafwyd ei ddirpwy Horace King i'w olynu gan greu'r angen i benodi dirpwy lefarydd newydd. Pe bai aelod Llafur wedi ei benodi bydda'r blaid honno yn colli ei fwyafrif bregus gan orfodi Etholiad Cyffredinol; dymuniad Harold Wilson, y Brif Weinidog, oedd parau i lywodraethu fel y gallai galw etholiad ar adeg oedd yn fwy ffafriol i ragolygon etholiadol ei blaid. Er mwyn ceisio gorfodi etholiad gwrthododd y Ceidwadwyr i gynnig ymgeisydd ar gyfer y swydd. Dechreuodd Jo Grimond paratoi cytundeb clymblaid i geisio ennill mantais i'r Rhyddfrydwyr allan o'r sefyllfa. Yn y pen draw bu ddim angen clymblaid nac etholiad gan i Roderic Bowen cynnig ei hun am y swydd. Trwy i Bowen achub croen y Llywodraeth Lafur gohiriwyd dyddiad yr etholiad hyd i Wilson dewis mynd i'r wlad o'i wirfodd ym 1966. Enillodd Llafur yr etholiad gan gipio bron i gant o seddi newydd; un o'r seddi hynny oedd sedd Bowen yng Ngheredigion.[3]

Adroddiad Bowen ar gam drin carcharorion yn Aden[golygu | golygu cod y dudalen]

Rhwng 1963 a 1967 bu achosion o derfysg yn Aden, un o diriogaethau'r Ymerodraeth Brydeinig ar y pryd (rhan o'r Iemen bellach). Asgwrn y gynnen oedd be ddylid digwydd i borthladd Aden wrth i diriogaethau Arabaidd Prydain symud at annibyniaeth, gyda rhai yn dymuno creu Gweriniaeth De'r Iemen ac eraill am greu un wladwriaeth yn cwmpasu'r cyfan o Arabia. Roedd y ddwy garfan yn ymladd yn erbyn ei gilydd a'r ddwy hefyd yn ymosod ar luoedd Prydain. Cafodd nifer o'r terfysgwyr eu carcharu yng Ngharchar Mansoura gan luoedd Prydain. Yn ôl adroddiadau a daeth trwy law Amnest Rhyngwladol roedd y carcharorion yn cael eu cam drin, eu holi gan ddefnyddio dulliau dirboenus a'u harteithio. Gofynnodd George Brown, yr Ysgrifennydd Tramor, i Bowen ymchwilio i'r honiadau.

Cyhoeddwyd adroddiad Bowen ym mis Tachwedd 1966. Canfyddiad Bowen oedd bod sail i'r cwynion ond eu bod wedi eu gorliwio, ac fe gynigiodd nifer o awgrymiadau er mwyn sicrhau nad oeddent yn digwydd eto.[4]

Pwyllgor Bowen ar Arwyddion Dwyieithog[golygu | golygu cod y dudalen]

Protestiwr yn arllwys arwyddion ffordd uniaith Saesneg, wedi'u malu, y tu allan i'r Swyddfa Gymreig, Caerdydd, 1972.
Arwydd dwyieithog yng Nghaerfyrddin, 2009.

Dechreuodd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ymgyrch i gael arwyddion ffyrdd dwyieithog ym mis Ionawr 1969. Wedi dwy flynedd o ymgyrchu, gydag aelodau'r Gymdeithas yn peintio ac yn difrodi arwyddion uniaith Saesneg, ac yn derbyn dirwyon a charchar, cyhoeddodd y llywodraeth y byddai'n sefydlu comisiwn dan gadeiryddiaeth Roderic Bowen i ymchwilio i'r mater.

Ym 1972 cyhoeddwyd adroddiad y comisiwn, Bilingual traffic signs - Arwyddion ffyrdd dwyieithog, yn argymell darparu arwyddion ffyrdd dwyieithog.[5]

Gwasanaeth cyhoeddus tu allan i'r Llys a'r Senedd[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar ôl ymadael a'r senedd penodwyd Bowen yn Gomisiynydd Yswiriant Gwladol ar gyfer Cymru, swydd y bu ynddi tan 1986

Roedd Bowen yn fynychwr rheolaidd o'r Eisteddfod a chafodd ei wneud yn aelod o'r Orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd 1988

Roedd yn ddyn o argyhoeddiad crefyddol dwfn ac roedd yn ddiacon yn yr Eglwys Bresbyteraidd.

Bu'n llywydd Coleg Prifysgol Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan 1977-1992 ac yn aelod o gyrff llywodraethol Prifysgol Cymru ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru.

Gweler Hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. BOWEN, EVAN RODERIC (1913-2001) yn y bywgraffiadur arlein adalwyd 23 Chwef 2014
  2. Obituaries- Roderic Bowen yn y Telegraph 23 Gorffennaf 2001, adalwyd 24 Chwef 2014
  3. Evan Roderic Bowen, barrister and politician, born August 6 1913; died July 18 2001 Yn The Guardian 25 Gorffennaf 2001; adalwyd 24 Chwefror 2014
  4. Report by Mr. Roderic Bowen, Q. C., on procedures for the arrest, interrogation and detention of suspected terrorists in Aden: 14 November 1966, Cyhoeddiadau H.M.S.O. 1966
  5. Death of Former MP yn y Cambrian News 26 Gorffennaf 2001
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Syr David Owen Evans
Aelod Seneddol dros Geredigion
19451966
Olynydd:
Elystan Morgan