David Owen Evans
David Owen Evans | |
---|---|
Ganwyd | 5 Chwefror 1876 Penbryn |
Bu farw | 11 Mehefin 1945 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bargyfreithiwr, diwydiannwr, gwleidydd |
Swydd | Aelod o 37ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 36fed Senedd y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | Plaid Ryddfrydol |
Roedd Syr David Owen Evans (5 Chwefror 1876 – 11 Mehefin 1945) yn gyfreithiwr, yn ddiwydiannwr ac yn wleidydd Rhyddfrydol a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Ceredigion o 1932 i 1945.
Cefndir bywgraffyddol
[golygu | golygu cod]Cafodd Owen Evans ei eni ym Mhenbryn, Ceredigion yn fab hynaf i William Evans ffermwr, ac Eliza Jane (née Owen) ei wraig[1]. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Llanymddyfri ac yn yr Imperial College of Science.
Ym 1896 ymunodd â'r gwasanaeth sifil yn Adran Cyllid y Wlad. Wrth weithio yn y gwasanaeth sifil astudiodd y gyfraith a galwyd ef i'r Bar yn Gray's Inn ym 1909. Bu yn ymarfer y gyfraith yng Nghylchdaith Llundain hyd 1916 pan ymunodd â Chwmni Nicel Mond, cwmni cyn AS Caerfyrddin Syr Alfred Mond, gan gael ei ddyrchafu yn brif swyddog gweinyddol y cwmni. Yn ddiweddarach daeth yn is-lywydd Cwmni Nicl Rhyngwladol Canada.
Cafodd ei ethol yn Aelod Seneddol Ceredigion mewn isetholiad ym 1932 yn dilyn ymddiswyddiad Rhys Hopkin Morris. Cynrychiolodd Evans y sedd hyd ei farwolaeth sydyn ychydig cyn etholiad cyffredinol 1945. Yn rhestr anrhydeddau diddymu'r senedd cafodd ei anrhydeddu gydag urdd Marchog, ond bu farw cyn cael ei farchogi.
Ym 1899 fe briododd a Kate Morgan, athrawes yn Llundain, ni fu iddynt blant.
Gwasanaethodd fel aelod o gyngor Anrhydeddus Gymdeithas y Cymrodorion, Cyngor Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a Chyngor Amgueddfa Genedlaethol Cymru, ac yn drysorydd Prifysgol Aberystwyth [2]
Roedd ganddo ddiddordeb mawr ym maes cerddoriaeth a byd yr Eisteddfod, gan wasanaethu am gyfnod fel llywydd Cyngor yr Eisteddfod Genedlaethol.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Darlun olew ar gynfas o Syr D. Owen Evans gan Margaret Lindsay Williams 1940 BBC Your Paintings Archifwyd 2014-02-25 yn archive.today Y gwreiddiol yng Ngaleri Ysgol Arlunio Prifysgol Aberystwyth
- Cyfraniad David Owen Evans ar lawr Tŷ'r Cyffredin yn Hansard Archifwyd 2014-01-11 yn y Peiriant Wayback
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Cyfrifiad 1881 ar Family Search adalwyd 25 Chwefror 2014
- ↑ EVANS, DAVID OWEN (1876 - 1945) yn Y Bywgraffiadur arlein adalwyd 25 Chwefror 2014
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Rhys Hopkin Morris |
Aelod Seneddol dros Ceredigion 1932 – 1945 |
Olynydd: Roderic Bowen |