Neidio i'r cynnwys

Llenyddiaeth Gymraeg y 19eg ganrif

Oddi ar Wicipedia
Llenyddiaeth Gymraeg y 19eg ganrif
IaithCymraeg Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganllenyddiaeth Gymraeg y 18fed ganrif Edit this on Wikidata


Cynrychiola llenyddiaeth Gymraeg y 19g "y cyfnod mwyaf cynhyrchiol" yn holl hanes llenyddiaeth Gymraeg, yn ôl Thomas Parry yn ei lyfr Hanes Llenyddiaeth Gymraeg hyd 1900 (1944), "a'r cyfnod a welodd gyfnewidiadau mawr iawn ym mhob agwedd ar fywyd y genedl—yn grefyddol, yn addysgol, yn gymdeithasol, yn wleidyddol. Ni bu mewn unrhyw ganrif arall gynifer o wŷr ymroddgar ac o arweinyddion tanbaid, ac y mae gweithgarwch llawer un ohonynt... bron yn syfrdanol."[1] Dyma gyfnod Daniel Owen, Ceiriog, Islwyn, Gwilym Hiraethog a llenorion cyfarwydd eraill. Dechreuodd gyda Twm o'r Nant, Iolo Morganwg a mudiad y Gwyneddigion ac aeth allan gyda tho newydd a gynrychiolir gan Owen Morgan Edwards, Emrys ap Iwan ac eraill, a gyda Syr John Morris-Jones yn gosod sylfeini ysgolheictod modern. Cyhoeddwyd nifer fawr o lyfrau, papurau newydd, cylchgronau a gweithiau cyfeiriadol fel Y Gwyddoniadur Cymreig, ac roedd amlder darllenwyr Cymraeg yn golygu bod y wasg Gymraeg yn ffynnu fel na fu erioed o'r blaen ac yn llawer mwy felly nag yn yr 20g neu'r ganrif bresennol. Ac eto, er gwaethaf y toreithrwydd hynny mae'r rhan fwyaf o haneswyr llên yn barnu o hyd, fel Thomas Parry, mai "cyfartaledd bychan iawn o gynnyrch y ganrif"[2] sydd o safon boddhaol. Ond gan fod cynnyrch y ganrif mor helaeth ac amrywiol ceir llawer o weithiau sydd o werth parhaol er hynny ac mae diddordeb hanesyddol llenyddiaeth y ganrif yn uchel, fel drych i'r gymdeithas Gymraeg a Chymreig a'i meddylfryd.

Barddoniaeth

[golygu | golygu cod]
Ceiriog (Delwedd o Gasgliad John Thomas, Llyfrgell Genedlaethol Cymru)

   Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Rhyddiaith

[golygu | golygu cod]

   Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Ysgolheictod

[golygu | golygu cod]

Er gwaethaf rhai diffygion amlwg yn ôl safonau'r 20g, roedd y gwaith ysgolheigaidd a gyhoeddwyd yn y 19g yn gamp pwysig ymlaen yn hanes ysgolheictod yng Nghymru. Gwelir hyn yn bennaf ym maes astudiaethau hynafiaethol a hanes. Yn ystod y ganrif golygwyd a chyhoeddwyd nifer sylweddol o destunau Cymraeg Canol, gan gychywyn gyda gwaith Owain Myfyr, William Owen Pughe a Iolo Morganwg yn cyhoeddi'r Myvyrian Archaiology of Wales (1801-1807). Cyhoeddwyd chwedlau'r Mabinogi hefyd, gan Pughe ac, yn ddiweddarach, y testun gwreiddiol a chyfieithiad Saesneg gan y Fonesig Charlotte Guest. Cafwyd argraffiadau o destunau pwysig fel Brut y Tywysogion a Chyfreithiau Hywel Dda, Y Gododdin (golygiad gwallus), a gwaith Meddygon Myddfai hefyd. Ond dyma pryd y cyhoeddwyd ffugiadau hynafiaethol Iolo Morganwg hefyd, yn cynnwys trydedd adran y Myvyrian, Cyfrinach Beirdd Ynys Prydain (1829) a'r Iolo Manuscripts (1848), a gamarweiniodd ysgolheigion tan yr 20g, er bod rhai yn amau eu dilysrwydd.

Am flynyddoedd bu iaith lenyddol y cyfnod dan ddylanwad rhai o ffurfiau gramadeg rhyfeddol William Owen Pughe, a bu rhaid aros tan gyfnod Syr John Morris-Jones i sefydlu orgraff safonol i'r iaith Gymraeg. Ond er hynny mae'n nodweddiadol o'r ganrif fod nifer sylweddol o eiriaduron a gramadegau wedi eu cyhoeddi.

Sefydlwyd sawl cylchgrawn hynafiaethol hefyd, yn Saesneg yn bennaf ond yn cynnwys gwybodaeth am lenyddiaeth gynnar Cymru a fu'n gymorth i godi'r ymwybyddiaeth ohoni, yng Nghymru a'r tu hwnt. O ran llyfrau hanes, mae Hanes Cymru (1842) Carnhuanawc a'r gyfrol anferth Hanes y Brytaniaid a'r Cymry gan Gweirydd ap Rhys yn sefyll allan. Cyhoeddwyd gwaith rhai o'r beirdd hefyd, fel Iolo Goch, a chafwyd sawl llyfr ac erthygl ar hanes llenyddiaeth Gymraeg, e.e. Hanes Llenyddiaeth Gymreig o 1300 hyd 1650 gan Charles Ashton.

Cyfnod mawr y gwyddoniadur oedd hwn. Cyhoeddwyd Y Gwyddoniadur Cymreig mewn deg cyfrol—y gwaith mwyaf yn Gymraeg hyd heddiw—a sawl cyfrol arall, er mai Beiblaidd oedd y rhan fwyaf.

Erbyn diwedd y ganrif, diolch i waith arloesol ysgolheigion fel John Morris-Jones, Daniel Silvan Evans a John Rhys, a sefydlu Prifysgol Cymru, roedd ysgolheictod Cymraeg yn dechrau sefyll ar seiliau llawer mwy sicr.

Y ddrama

[golygu | golygu cod]
Gweler hefyd: Y Ddrama yn Gymraeg.

Ar ddechrau'r ganrif newydd roedd yr Anterliwt, a gynryciolir ar ei gorau gan waith Twm o'r Nant, dal mewn bri, yn enwedig yng Ngogledd Cymru, ond dirywio'n gyflym fu ei hanes. Un o'r prif resymau am hynny oedd dylanwad cynyddol Methodistiaeth a fu'n llawdrwm iawn ar arferion "Hen Gymru Lawen". Rhoddodd Twm ei hun y gorau i sgwennu anterliwtiau pan drôdd yn Fethodus a chofnodir bod William Jones (Ehedydd Iâl), a fu'n arweinydd cwmni anterliwt lleol yn ei ieuenctid. wedi llosgi ei lyfrau anterliwt pan "gafodd grefydd" yn 1839.[3]

Ni fu lawer o lewyrch ar y ddrama yng Nghymru ar ôl hynny tan yr 20g. Prin fod unrhyw ddrama o werth wedi'i hysgrifennu cyn chwarter olaf y ganrif, er y cafwyd ambell ddarn dramataidd o naws grefyddol. Ond yn yr 1870au cafwyd peth adfywiad. Dechreuai llenorion ymddiddori yn y ddrama seciwlar. Yn yr eisteddfodau rhoddid gwobrau am y dramâu gorau ac ysgogodd hynny do newydd o ddramodwyr. Ond dramâu hanes neu Feiblaidd ar gyfer y llwyfan fawr gydag elfen amlwg o'r pasiant ynddynt oedd y dramâu hyn, gan fwyaf, e.e. Owain Glyndŵr gan Beriah Gwynfe Evans, ac roedd eu safon lenyddol yn isel. Ond nid oedd y dramâu hyn yn dderbyniol gan rai ymneilltuwyr chwaith, a chafwyd adwaith yn erbyn y ddrama (a ffuglen seciwlar yn gyffredinol); mor ddiweddar â 1887, er enghraifft, gofynnodd Sasiwn y Methodistiaid i'r capeli Cymreig roi'r gorau i berfformiadau drama o unrhyw fath.[4] Bu rhaid aros tan Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bangor 1902 i gael newid cyfeiriad, pan alwodd David Lloyd George am nawdd i hybu'r ddrama yn Gymraeg.

Y wasg

[golygu | golygu cod]

   Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Rhai cerrig milltir

[golygu | golygu cod]
Cyfrol IX o'r Gwyddoniadur Cymreig (1878)

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Thomas Parry, Hanes Llenyddiaeth Gymraeg hyd 1900 (Caerdydd, 1944), tud. 228.
  2. Thomas Parry, op. cit., tud. 228.
  3. Evan Isaac, Prif Emynwyr Cymru (Lerpwl, 1925), tud. 286.
  4. Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Caerdydd, 1986), d.g. 'Drama'.

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]