Robert John Pryse

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Gweirydd ap Rhys)
Jump to navigation Jump to search
Robert John Pryse
Ffugenw Gweirydd ap Rhys Edit this on Wikidata
Ganwyd 4 Gorffennaf 1807 Edit this on Wikidata
Llanbadrig Edit this on Wikidata
Bu farw 3 Hydref 1889 Edit this on Wikidata (82 oed)
Bethesda Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth Ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Adnabyddus am Hanes y Brytaniaid a'r Cymry Edit this on Wikidata
Plant John Robert Pryse, Catherine Prichard Edit this on Wikidata

Hanesydd a llenor o Gymro oedd Robert John Pryse (4 Gorffennaf 18073 Hydref 1889), a ysgrifennai dan yr enw barddol Gweirydd ap Rhys.[1]

Ganwyd ym mhlwyf Llanbadrig, Ynys Môn. Roedd ei deulu yn dlawd, ac ni dderbyniodd lawer o addysg. Gweithiodd fel gwas ffarm ac fel gwehydd cyn priodi Grace Williams o Lanfflewyn ym 1828, ac o hynny hyd 1857 yn Llanrhyddlad y sefydlodd, yn cadw siop. Wrth godi teulu o saith o blant, fe aeth ati i addysgu ei hun yn ystod y nos. Dysgodd Saesneg, Groeg a Lladin, yn ogystal ag astudio hanes a llenyddiaeth Cymru. Ym 1849 urddwyd ef yn fardd, dan yr enw "Gweirydd ap Rhys", yn Eisteddfod Aberffraw. Ym 1857 symudodd i Ddinbych i weithio yn swyddfa Gwasg Gee yn bennaf gyda'r Gwyddoniadur Cymreig a geiriaduron. Ar ôl marw ei fab, y bardd John Robert Pryse ("Golyddan"), ym 1862, symudodd i Fangor i geisio ennill bywoliaeth fel awdur. Cyhoeddodd Hanes y Brytaniaid a'r Cymry (1872) a Hanes Llenyddiaeth Gymreig, 1300–1650 (1883). Oherwydd gwaeledd a henaint symudodd i Gaergybi at ei ferch, y bardd Catherine Prichard ("Buddug"), yn 1884. Wedi marw ei wraig ym 1887 aeth i Fethesda at ei ferch hynaf, Elin, ac yno y bu farw ym 1889.

Un o'r llenorion mwyaf gweithgar o'r 19g oedd ef. Cyhoeddodd lawer o erthyglau a llyfrynnau; cyfrannodd fwy na neb tuag at Y Gwyddoniadur Cymreig; lluniodd bum geiriadur; golygodd sawl llyfr, yn eu plith argraffiad o The Myvyrian Archaiology of Wales (1870), ac o'r Beibl (1876); ac ef a olygodd y rhan fwyaf o Enwogion y Ffydd (1878–84).

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Gweithiau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Geiriadur Cynaniadol Saesneg a Chymraeg (Dinbych: Thomas Gee, 1857)
  • Orgraff yr Iaith Gymraeg (gyda Thomas Stephens) (Dinbych, 1859)
  • Hanes y Brytaniaid a'r Cymry (2 gyfrol) (Llundain: William Mackenzie, 1872–4)
  • Hanes Llenyddiaeth Gymreig, o'r flwyddyn 1300 hyd y flwyddyn 1650 (Llundain: Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol, 1883)
  • Enwogion y Ffydd: neu, Hanes Crefydd y Genedl Gymreig (gyda John Peter) (Llundain: William Mackenzie, 1878–84)

Astudiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Enid P. Roberts, Detholion o Hunangofiant Gweirydd ap Rhys (Aberystwyth, 1949)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]