Catherine Prichard (Buddug)

Oddi ar Wicipedia
Catherine Prichard
FfugenwBuddug Edit this on Wikidata
Ganwyd4 Gorffennaf 1842 Edit this on Wikidata
Llanrhuddlad Edit this on Wikidata
Bu farw29 Mawrth 1909 Edit this on Wikidata
Caergybi Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
TadRobert John Pryse Edit this on Wikidata

Bardd a merch a amddiffynai hawliau merched oedd Catherine Jane Pritchard (ffugenw: Buddug[1]; 4 Gorffennaf 184229 Mawrth 1909). Ei thad oedd Robert John Pryse (Gweirydd ap Rhys), llenor a hanesydd, a'i brawd oedd y bardd John Robert Pryse (Golyddan).[2] Bu farw ar 29 Mawrth 1909.

Yng Nghae Catrin, Ynys Môn y'i ganed ar 4 Gorffennaf 1842 ac efallai mai o'r enw 'Catrin' y daeth ei henw. Fe'i derbyniwyd i'r Orsedd yn Eisteddfod Dinbych yn 1860, a hithau'n ddeunaw oed. Cyfrannai'n helaeth i'r cylchgrawn Udgorn Cymru, gan gynnwys amddiffyn lle'r ferch yn y gyfres 'Ffoledd Ffasiwn'.[3] Roedd yn lladmerydd huawdl iawn i'r mudiad dirwest yng Nghymru.[4]

Priodi[golygu | golygu cod]

Priododd Owen Prichard (Cybi Felyn) ar 2 Ionawr 1863; gŵr o Gaergybi oedd Owen.

Awdur[golygu | golygu cod]

Sgwennodd lawer o gerddi gan gynnwys cerdd 'O na byddai'n haf o hyd' a 'Neges y Blodyn'. Cyhoeddodd O. M. Edwards gyfrol o'i gwaith yn y gyfres 'Cyfres y Fil', sef ''Caniadau Buddug''. [5] Mae copi o Ganiadau Buddug i'w cael ar Wicidestun. Mae peth o'i gwaith ar gael yn y Llyfrgell Genedlaethol gan gynnwys llyfr lloffion[6] a dyddiadur cynhwysfawr sy'n sôn gan mwyaf am ei myfyrdodau Cristnogol. Dengys y gwaith hwn iddi ddarllen yn helaeth, gan gynnwys cerddi Saesneg.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Y Geiriadur Ffugenwau ar Google Books
  2. 2.0 2.1 books.google.co.uk; Teitl: Dwy Gymraes, Dwy Gymru: Hanes Bywyd a Gwaith Gwyneth Vaughan a Sara Maria ... gan Rosanne Reeves.
  3. Y Bywgraffiadur Cymreig Arlein; awdur: Dr Enid Pierce Roberts, M.A., D.Litt., Bangor; adalwyd 16 Ebrill 2016.
  4. google.co.uk; Nineteenth-Century Women's Writing in Wales: Nation, Gender and Identity gan Jane Aaron.
  5. worldcat.org; Caniadau Buddug [pseud.] Wedi eu casglu a'u dethol gan i phriod [i.e. Owen Prichard]. Gol: O M Edwards; Cyhoeddwyd yng Nghaernarfon, Swyddfa "Cymru", 1911.
  6. archiveswales.org.uk; Archifwyd 2012-05-23 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 16 Ebrill 2016.
  • Eminent Welshmen: a short biographical dictionary of Welshmen ... from the earliest times to the present, 1908
  • Bye–Gones, relating to Wales and the Border Counties, 1889 , 236
  • Cymru (O.M.E.), xii, 16; xxxix, 221
  • Y Geninen, 1890, 119, 200
  • Y Geninen (Gŵyl Dewi), 25
  • Y Llenor, 1936 , 97
  • Y Traethodydd, 1903, 437; 1947, 61
  • T. Parry, Hanes Llenyddiaeth Gymraeg, 1944 hyd 1900, 261-2, 264
  • E. P. Roberts, Detholion o Hunangofiant Gweirydd ap Rhys, Aberystwyth, 1949.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]