Cymru (cylchgrawn)
Sefydlwyd Cymru gan O. M. Edwards yn 1891; a bu’n olygydd arno hyd 1920. Cyhoeddwyd y cylchgrawn gan gyfres o gwmnïau o Gaernarfon, D.W. Davies ai’i Gwmni, Cwmni’r Wasg Genedelatheol Gymreig, a Chwmni’r Cyhoeddwyr Cymreig, yna gan Hughes a'i Fab, Wrecsam.
Cylchgrawn misol poblogaidd oedd Cymru â chanddo bolisi anenwadol cryf, yn cynnwys erthyglau ar y celfyddydau a llenyddiaeth. Roedd yn bwysig iawn wrth hyrwyddo cenedlgarwch diwylliannol Cymreig.
Digidir Cymru gan brosiect Cylchgronau Cymru yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar hyn o bryd.