Llenyddiaeth Gymraeg y 18fed ganrif

Oddi ar Wicipedia
Llenyddiaeth Gymraeg y 18fed ganrif
IaithCymraeg Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganllenyddiaeth Gymraeg yr 17eg ganrif Edit this on Wikidata
Olynwyd ganllenyddiaeth Gymraeg y 19eg ganrif Edit this on Wikidata
Llenyddiaeth Gymraeg
Geraint ac Enid
Prif Erthygl Llenyddiaeth Gymraeg
Llenorion

550-1600 · 1600-heddiw

Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu

Llenyddiaeth Gymraeg y 18g yw un o'r cyfnodau mwyaf diddorol a chyffrous yn hanes llenyddiaeth Gymraeg. Dyma'r ganrif a welodd ailddarganfod rhai o drysorau'r Oesoedd Canol diolch i waith hynafiaethwyr fel Edward Lhuyd ac Ieuan Fardd. Ym maes llenyddiaeth, un o effeithiau hyn oedd ysbrydoli to newydd o lenorion diwylliedig, hunanymybodol, a ymddiddorai yn y gorffennol - gan dynnu ar waith Dafydd ap Gwilym er enghraifft - ond a ysbrydolwyd hefyd gan y clasuron a llenyddiaeth gyfoes Lloegr a Ffrainc. Cafodd y newidiadau mawr ym mywyd crefyddol y genedl eu heffaith yn ogystal, wrth i'r enwadau anghydffurfiol dyfu a newid bywyd cymdeithasol a meddylfryd y Cymry. Ffactor arall holl bwysig oedd datblygiad y diwydiant cyhoeddi yn y wlad, gyda nifer o weisg bychain yn cael eu sefydlu gan bobl fel Dafydd Jones o Drefriw. Dyma pryd ffurfiwyd cymdeithasau llenyddol a gwladgarol hefyd, fel y Gwyneddigion a'r Cymmrodorion yn Llundain.

Barddoniaeth ac Anterliwtiau[golygu | golygu cod]

Twm o'r Nant

Ceir dwy brif ffrwd ym marddoniaeth Gymraeg y 18g, sef y canu gwerinol ei naws ar y naill law a'r farddoniaeth ddiwylliedig a ysgrifennwyd gan nifer gymharol fychan o lenorion ymwybodol ar y llall.

Erbyn dechrau'r ganrif roedd yr hen draddodiad barddol wedi darfod, ond roedd canu gan feirdd gwlad yn parhau ac yn dod fwyfwy i'r amlwg wrth i'r ganrif fynd heibio. Y 18g oedd canrif fawr baledwyr Cymru. Cenid nifer o garolau (cerddi poblogaidd pur wahanol i'r garol fodern) a rhigymau ac roedd yr hen benillion mor boblogaidd ag erioed. Roedd llyfrau'n dod yn rhad i'w argraffu a cheir sawl casgliad o gerddi gan feirdd fel Elis y Cowper a Dafydd Jones, yr argraffydd o Drefriw. Cymerodd barddoniaeth Gymraeg agwedd wleidyddol yng ngwaith Jac Glan-y-gors ac Iolo Morganwg.

Cafwyd adfywiad yn nhraddodiad cerdd dafod yn ystod y ganrif, diolch yn bennaf i waith yr hynafiaethwyr. Tyfodd cylch llenyddol arbennig ym Môn a adnabyddir heddiw fel Cylch y Morrisiaid, oedd yn cynnwys Lewis Morris a'i frodyr, Goronwy Owen ac Ieuan Fardd (Ieuan Brydydd Hir). Gwelir rhai o'r cerddi hyn yn y gyfrol Diddanwch Teuluaidd (1763). Beirdd eraill sy'n perthyn i'r un ysgol o feirdd clasurol a rhamantaidd yw Edward Richard a John Morgan.

Un o nodweddion hynodaf y ganrif yw'r anterliwtiau. Math o ddramâu mydryddol yw'r anterliwtiau a berfformid yn y ffeiriau a'r gwyliau mabsant ac achlysuron eraill. Prif feistr yr anterliwt oedd Twm o'r Nant, a oedd yn fardd da yn ogystal. Cyfyngid yr anterliwt i'r gogledd.

Dyma un o ganrifoedd mawr yr emyn yn y Gymraeg yn ogystal, canrif William Williams Pantycelyn, Morgan Rhys, Dafydd William, Dafydd Jones o Gaeo, Hugh Jones ac Ann Griffiths.

Rhyddiaith[golygu | golygu cod]

Jac Glan-y-gors

Fel yn achos yr 17g, mae'r mwyafrif helaeth o ryddiaith y 18g yn waith crefyddol, yn gyfieithiadau, traethodau ac esboniadau a thractiau duwiol amrywiol. Y tu ôl i lawer o'r gwaith hwn oedd ymdrechion yr SPCK i ledaenu'r ysgrythur yn Gymraeg a gwaith Madam Bevan, Griffith Jones Llanddowror ac eraill yn sefydlu'r ysgolion cylchynol.

Ond cynhyrchiodd y ganrif rhai o awduron rhyddiaith gorau'r iaith Gymraeg, yn cynnwys Iaco ab Dewi, yr eglwyswr pybyr Ellis Wynne, awdur y gwaith dychanol Gweledigaethau y Bardd Cwsc, yr hanesydd traddodiadol Theophilus Evans a ysgrifennodd y gyfrol ddylanwadol Drych y Prif Oesoedd, Edward Samuel (person Betws Gwerful Goch), Hugh Jones o Faesglasau, a Thomas Roberts, Llwynrhudol.

Yn sefyll allan ar ben ei hun y mae'r gyfres o lythyrau a ysgrifennwyd gan y Morrisiaid a'r enghreifftiau prin ond gwerthfawr o ryddiaith fwrlesg gan Lewis Morris.

Sefydlwyd sawl cylchgrawn Cymraeg yn ogystal, a gellir dadlau fod y wasg Gymraeg wedi'i geni yn chwarter olaf y ganrif gydag ymddangosiad cyhoeddiadau fel Seren Gomer, Y Cylch-grawn Cynmraeg gan Morgan John Rhys a'r Trysorfa Ysbrydol gan Thomas Charles o'r Bala ar fin y ganrif newydd yn 1799.

Rhai cerrig milltir[golygu | golygu cod]

Darllen pellach[golygu | golygu cod]

  • J. J. Evans, Cymry enwog y ddeunawfed ganrif (Aberystwyth, 1937)
  • Idris Foster (gol.), Twf yr Eisteddfod (Llys yr Eisteddfod Genedlaethol, 1968)
  • W. J. Gruffydd, Y Morrysiaid (Caerdydd, 1939)
  • D. Gwenallt Jones (gol.), Blodeugerdd o'r Ddeunawfed Ganrif (Caerdydd, 1953)
  • A. Cynfael Lake (gol.), ''Blodeugerdd Barddas o Gerddi Caeth y 18g (Cyhoeddiadau Barddas, 1992)
  • Aneirin Lewis, Dysg a Dawn: Cyfrol Goffa Aneirin Lewis, gol. W. Alun Mathias ac E. Wyn James (Cylch Llyfryddol Caerdydd, 1992)
  • E. G. Millward (gol.), Blodeugerdd Barddas o Gerddi Rhydd y 18g (Cyhoeddiadau Barddas, 1991)
  • Dyfnallt Morgan (gol.), Gwŷr Llên y 18g (Llyfrau'r Dryw, 1966)
  • Prys Morgan, The Eighteenth Century Renaissance (Abertawe, 1981). Astudiaeth dda o'r cefndir diwylliannol a gwaith yr hynafiaethwyr.
  • Thomas Parry, Hanes Llenyddiaeth Gymraeg hyd 1900 (Caerdydd, 1944; sawl argraffiad ers hynny). Pennod X: y 18g.
  • Tom Parry, Baledi'r Ddeunawfed Ganrif (Caerdydd, 1935)
  • Saunders Lewis, A School of Welsh Augustans (1924; argraffiad newydd, 1969)

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]