Deddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) 2012

Oddi ar Wicipedia

Deddf gyntaf Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw Deddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) 2012 (Saesneg: National Assembly for Wales (Official Languages) Act 2012)

Mae'r Ddeddf yn cynnwys diwygiadau i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, gan nodi yn arbennig y dylai Cynulliad Cenedlaethol Cymru gael dwy iaith swyddogol - Cymraeg a Saesneg - ac y dylent gael eu trin yn gyfartal.

Daeth y Ddeddf i rym yn dilyn y pwerau deddfu ychwanegol a roddwyd i Gynulliad Cendlaethol Cymru yn dilyn Refferendwm ar bwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2011. Rhoddwyd cydsyniad brenhinol i’r Ddeddf ar 12 Tachwedd 2012.[1]

Mae'r Ddeddf hon yn arwyddocaol iawn gan mai dyma’r Ddeddf gyntaf i ddod yn gyfraith yng Nghymru mewn dros 600 mlynedd[1][2], pan ddiddymwyd sustem gyfreithiol wreiddiol Cymru gan Harri VIII yn ei ymgais i ddileu Cymru fel Gwlad a’r Gymraeg fel Iaith yn ystod Y Deddfau Uno 1536 a 1543.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 BBC Cymru Deddf gyntaf: Cydsyniad Brenhinol
  2. "Caerphilly Observer". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-11-16. Cyrchwyd 2016-01-20.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]