Wyn Roberts

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Arglwydd Roberts o Gonwy
Aelod o Senedd y Deyrnas Unedig
dros Gonwy
Yn ei swydd
1970–1997
Rhagflaenydd Ednyfed Hudson Davies
Olynydd Betty Williams
Manylion personol
Ganwyd (1930-07-10)10 Gorffennaf 1930
Llansadwrn, Ynys Môn, Cymru
Marw 14 Rhagfyr 2013(2013-12-14) (83 oed)
Rowen, Conwy, Cymru
Cenedligrwydd Cymro
Plaid wleidyddol Ceidwadol

Gwleidydd Ceidwadol o Gymro oedd Ieuan Wyn Pritchard Roberts, Arglwydd Roberts o Gonwy (10 Gorffennaf 193013 Rhagfyr 2013).[1][2]

Fe'i ganwyd yn Llansadwrn, yn fab i'r Parchedig E.P. Roberts, gweinidog Methodist Calfinaidd ac awdur. Roedd ganddo frawd hŷn, Eifion Roberts. Enillodd ysgoloriaeth i Ysgol Harrow pan oedd yn 14 oed. Ef oedd yr unig Gymro yno yr ysgol ar y pryd a gwnaeth enw iddo'i hun yn actio mewn dramâu. Enillodd ysgoloriaeth pellach i Goleg y Brifysgol, Rhydychen a chymerodd radd anrhydedd mewn hanes. Yn ystod ei wasanaeth milwrol bu'n gwasanaethu gyda'r "Special Intelligence" yn Awstria.[3] Yn 1964 roedd rhaid i TWW gymryd dros masnachfraint Teledu Cymru a daeth Wyn yn reolwr Cymru i TWW.

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Darlledu[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn ei yrfa cynnar hyfforddodd fel newyddiadurwr ar y Liverpool Daily Post. Ymunodd a'r BBC yn 1954 fel cynorthwyydd newyddion. Yn 1958 ymunodd a gorsaf newydd TWW fel cynhyrchydd a gweithiodd ar y rhaglen gyntaf y gyfres Amser Te a ddarlledwyd ar noson agoriadol y sianel.[4] Erbyn 1960 roedd yn rheolwr cynhyrchu y rhaglenni Cymraeg ar TWW, ac yn un o brif swyddogion ieuengaf y sianel.[3] Bu hefyd yn cyflwyno y rhaglen Pwy Fase’n Meddwl.[5]

Gwleidyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Enillodd sedd ymylol Conwy yn 1970 gan ei chipio o'r Blaid Lafur. Parhaodd fel Aelod Seneddol yr etholaeth am 27 mlynedd cyn iddo sefyll lawr cyn etholiad 1997. Yn 1998 cafodd ei wneud yn arglwydd am oes fel Barwn Roberts o Gonwy a bu'n llefarydd y Ceidwadwyr ar Gymru yn yr ail siambr tan 2007.[4] Am gyfnod hir gwasanaethodd fel Is-Ysgrifennydd Cymru yn y Swyddfa Gymreig. Er waetha' ei deyrngarwch i Mrs Thatcher, chafodd e ddim ei ddyrchafu i'r cabinet. Ef oedd yn bennaf gyfrifol am gyflwyno Deddf yr Iaith Gymraeg 1993.

Bu'n lefarydd y Ceidwadwyr ar faterion Cymreig yn yr Ail Siambr o 1997 tan y 27 Mehefin 2007.

Bywyd personol[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd yn briod ag Enid a cawsant tri mab, Huw a Geraint a Rhys (bu farw yn 2004).[4]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. BBC Wales News. Adalwyd 14 Rhagfyr 2013
  2. Lord Roberts of Conwy , theguardian.com, 16 Rhagfyr 2013.
  3. 3.0 3.1  Bywgraffiad Wyn Roberts - TWW, 1961. 'Teledu', TWW (Awst 1961). Adalwyd ar 3 Hydref 2019.
  4. 4.0 4.1 4.2 Edrych yn ôl ar fywyd Syr Wyn , BBC Cymru Fyw, 14 Rhagfyr 2013. Cyrchwyd ar 3 Hydref 2019.
  5.  Nodi 60 mlynedd ers sefydlu TWW – Television Wales and the West. Prifysgol Aberystwyth (12 Ionawr 2018). Adalwyd ar 3 Hydref 2019.
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Ednyfed Hudson Davies
Aelod Seneddol dros Gonwy
19701997
Olynydd:
Betty Williams