Ednyfed Hudson Davies

Oddi ar Wicipedia
Ednyfed Hudson Davies
Ganwyd4 Rhagfyr 1929 Edit this on Wikidata
Bu farw11 Ionawr 2018 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 48fed Llywodraeth y DU, Aelod o 48fed Llywodraeth y DU, Aelod o 44ydd Llywodraeth y DU Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Lafur Edit this on Wikidata

Roedd Gwilym Ednyfed Hudson Davies a adwaenid fel Ednyfed Hudson Davies (4 Rhagfyr 192911 Ionawr 2018)[1] yn wleidydd Cymreig. Yn fab i'r Parch Curig Davies, defnyddiodd yr enw Ednyfed Curig Davies am gyfnod. Yn y 1960au roedd yn gyflwynydd teledu ar BBC Cymru a TWW.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Addysgwyd Hudson Davies yn Ysgol Ramadeg Dinefwr, Abertawe, Prifysgol Cymru, Abertawe, a Choleg Balliol, Rhydychen. Daeth yn ddarlithydd ar lywodraeth ac yn ddarlledwr.

Ymunodd â'r Blaid Lafur a chafodd ei ethol yn Aelod Seneddol Conwy yn 1966, ond collodd y sedd i'r Ceidwadwr Wyn Roberts yn 1970. Cafodd ei ethol i gynrychioli Caerffili, yn 1979. Yn 1981 yr oedd ymhlith yr ASau Llafur a ymunodd â Phlaid y Democratiaid Cymdeithasol (SDP) newydd.

Yn 1983 safodd fel ymgeisydd yr SDP yn Basingstoke ond collodd. Ers hynny ymddeolodd o wleidyddiaeth plaid a cymerodd sawl swydd gyhoeddus. Daeth yn Gadeirydd ar Fwrdd Croeso Cymru yn 1975 a bu'n Gyfarwyddwyr Awdurdod Twristiaeth Prydain. Roedd yn gyfarwyddwyr cychwynnol ac yn cadeirydd i Ganolfan Fenter Fforest Newydd. Am sawl blwyddyn roedd yn Ymddiriedolwr i Ymddiriedolaeth Treftadaeth Wessex. Roedd hefyd yn Gadeirydd ar Grŵp radio masnachol Lincs FM a Llywydd Canolfan ac Amgueddfa Y Fforest Newydd yn Lyndhurst.[2]

Bu farw'n 2018, yn 88 oed.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Ednyfed Hudson Davies: gwleidydd oedd yn “gwrando ar bobol” , Golwg360.
  2. (Saesneg) Wessex Heritage Trust - Trustees. Wessex Heritage Trust. Adalwyd ar 11 Ionawr 2018.
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Peter Thomas
Aelod Seneddol dros Gonwy
19661970
Olynydd:
Wyn Roberts
Rhagflaenydd:
Fred Evans
Aelod Seneddol dros Gaerffili
19791983
Olynydd:
Ron Davies



Eginyn erthygl sydd uchod am wleidyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.