Betty Williams

Oddi ar Wicipedia
Betty Williams
GanwydBetty Helena Williams Edit this on Wikidata
31 Gorffennaf 1944 Edit this on Wikidata
Bangor Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 54ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 53ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 52ain Senedd y Deyrnas Unedig, Dirprwy Aelod Cynulliad Seneddol Cyngor Ewrop Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Lafur Edit this on Wikidata

Gwleidydd Llafur yw Betty Helena Williams (ganwyd 31 Gorffennaf 1944 ym Mangor). Hi oedd Aelod Senedd y Deyrnas Unedig dros etholaeth Conwy o 1997 hyd 2010.

Bywyd Cynnar[golygu | golygu cod]

Roedd Williams yn ddisgybl yn Ysgol Dyffryn Nantlle ym Mhen-y-groes, gan symud ymlaen i'r Coleg Normal, Bangor. Mae gan Williams BA o Brifysgol Cymru, ac erbyn hyn mae hi'n cymrodwraig anrhydeddus Prifysgol Cymru, Bangor. Gwraig i Evan Williams yw hi, ac mae ganddynt dau fab.

Gyrfa Gwleidyddol[golygu | golygu cod]

Ym 1967 cafodd Williams ei ethol i fod yn maer Cyngor Plwyf Llanllyfni. Aeth ymlaen i fod yn Cynghorwraig Ardal, ac yna Faer Arfon yn 1990. Bu hi'n aflwyddiannus yn cystadlu etholaethau Caernarfon yn 1983, a Chonwy yn 1987 a 1992. Dewisiwyd eto gan y Blaid Lafur i gystadlu etholaeth Conwy yn 1995 ar cofrestru benywaidd yn unig. Rhag y datganiad fod y dull yma yn un anghyfreithlon, bu Williams yn cadw'r hawl i gystadlu'r set. Yn etholiad cyffredinol 1997 cafodd Williams ei ethol gyda mwyafrif o 1,596.

Heddiw, mae Williams yn aelod ar pwyllgorau addysg a chyflogaeth, Iechyd a Nawdd Cymdeithasol, a Diwylliant, Y Cyfryngau a Chwaraeon dros y Blaid Lafur y Senedd. Cydnabyddwyd Williams fel aelod teyrngar i'r blaid ac i Brif Weinidog y DU, Gordon Brown.

Ym Medi 2008, datganodd Williams na fyddai'n cystadlu ei set yn yr etholiad nesaf yn 2010 i'w galluogi i fedru newid cydbwysedd ei gwaith.[angen ffynhonnell]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Wyn Roberts
Aelod Seneddol dros Gonwy
19972010
Olynydd:
dilewyd yr etholaeth