Neidio i'r cynnwys

Tom Hooson

Oddi ar Wicipedia
Tom Hooson
Ganwyd16 Mawrth 1933 Edit this on Wikidata
Y Rhyl Edit this on Wikidata
Bu farw8 Mai 1985 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 49fed Llywodraeth y DU, Aelod o 48fed Llywodraeth y DU Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Geidwadol Edit this on Wikidata

Roedd Thomas (Tom) Ellis Hooson (16 Mawrth 19338 Mai 1985) yn wleidydd Ceidwadol Cymreig ac yn Aelod Seneddol Brycheiniog a Sir Faesyfed o 1979 i 1985.[1].

Bywyd personol

[golygu | golygu cod]

Ganwyd Hooson yn y Rhyl, Sir Ddinbych, yn fab i David Maelor Hooson, amaethwr, a Ursula (née Ellis) ei wraig.

Cafodd ei addysgu yn Ysgol Ramadeg y Rhyl a Choleg y Brifysgol Rhydychen. Cafodd ei alw i'r Bar yn Gray's Inn.

Roedd yn gefnder i'r Aelod Seneddol Rhyddfrydol Emlyn Hooson; roedd y bardd I. D. Hooson yn hen ewyrth iddo.

Roedd yn ddi-briod.

Bu'n gweithio ym myd y cyfryngau, cyhoeddi, hysbysebu a marchnata ym Mhrydain, UDA a Ffrainc fel cyfarwyddwr yng nghwmnïau Benton & Bowles a'r Periodical Publishers Association.

Bu hefyd yn gweithio i'r Blaid Geidwadol fel cyfarwyddwr cyfathrebu o 1976 i 1978.[2]

Sefydlodd y cylchgrawn Welsh Farm News ym 1957.

Gyrfa Wleidyddol

[golygu | golygu cod]

Safodd yn aflwyddiannus fel yr ymgeisydd Ceidwadol yn etholaeth Caernarfon ym 1959. Safodd ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed yn etholiad 1979 gan gipio'r sedd oddi wrth Caerwyn Roderick a'r Blaid Lafur gan ddal y sedd hyd ei farwolaeth ym 1985

Marwolaeth

[golygu | golygu cod]

Bu farw ar ôl brwydr hir yn erbyn y cancr yn ei gartref yn Llundain ym 1985.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Mr Tom Hooson, MP." Times [London, England] 10 May 1985: 14. The Times Digital Archive, 1785-2009 adalwyd 1 Mai 2015 trwy docyn darllenydd LLGC
  2. ‘HOOSON, Tom (Ellis)’, Who Was Who, A & C Black, an imprint of Bloomsbury Publishing plc, 1920–2015; online edn, Oxford University Press, 2014 ; online edn, April 2014 [1],adalwyd 1 Mai 2015 trwy docyn darllenydd LLGC
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Caerwyn Roderick
Aelod Seneddol Brycheiniog a Sir Faesyfed
19791985
Olynydd:
Richard Livsey