Neidio i'r cynnwys

Arfbeisiau Cymru

Oddi ar Wicipedia
Arfbais Llywelyn ap Gruffudd, yn y Chronica Majora

Mae'r erthygl hon yn rhestru rhai o arfbeisiau hanesyddol Cymru. Am restr o faneri Cymreig, gweler yma.

Ceir dau fath o arfbais, arfbais personol yr unigolyn (arglwydd neu uchelwr fel arfer) ac arfbais a oedd yn perthyn i deyrnas neu ran o'r wlad.

Arfbeisiau personol Tywysogion Cymru

[golygu | golygu cod]
BanerDyddiadDefnyddDisgrifiad
1267-83, 1400auArfbais bersonol, gwreiddiol Tywysog Cymru. Daeth yn faner Tywysogaeth Cymru yn nheyrnasiad Llywelyn Fawr.Llewod coch drithroed (passant) yn y corneli chwith uchaf a de gwaelod ar faes melyn gyda'r lliwiau wedi eu cyfnewid yn y corneli eraill.
c. 1223 – 11 Rhagfyr 1282Arfbais bersonol Llywelyn ap GruffuddTri llew coch ar drithroed ar faes llwyd. Flynyddoedd yn ddiweddarach, mabwysiadwyd yr arfbais gan dîm pêl-droed Lloegr!
13gBaner Dafydd ap Gruffudd, brawd Llywelyn II.Y llewod yn sefyll ar drithroed (passant).
14g - 15gArfbais GlyndŵrArfau Gwynedd: llewod yn sefyll ar undroed (regardant), gydag arfau Owain Lawgoch ac Owain Glyndŵr
1100 - 1170Arfbais Owain Gwynedd (priodolwyd)Tri eryr aur ar faes gwyrdd. Roedd yr arfbais hon hefyd yn cael ei ddefnyddio gan ddisgynyddion Owain sef y teulu Anwyl o Dywyn.
c.1055–1137Arfbais bersonol Gruffudd ap Cynan. (priodolwyd, heb ffynhonnell)Tri llew llwyd ar drithroed (passant), ar faes coch.

Arfbeisiau Teyrnasoedd Cymru

[golygu | golygu cod]
BanerDyddiadDefnyddDisgrifiad
c. 1200 - heddiwArfbais Teyrnas Gwynedd ac arfbais draddodiadol Aberffraw a Llywelyn Fawr.Llewod coch drithroed (passant) yn y corneli chwith uchaf a de gwaelod ar faes melyn gyda'r lliwiau wedi eu cyfnewid yn y corneli eraill.
?Teyrnas Powys ac yn ddiweddarach: Powys Wenwynwyn. Yn draddodiadol, hon oedd arfbais Llŷs Mathrafal.Llew coch tywyll yn sefyll ar undroed (regardant), ar gefndir melyn.
1191-1236Arfbais Powys Fadog sef y rhan ogleddol o Deyrnas Powys; yn wreiddiol: arfbais Madog ap Gruffydd Maelor. Argent, a lion Sable armed and langed Gules.Llew du yn sefyll ar undroed (regardant), ar gefndir gwyn.
?Cysylltir yr arfbais hon gyda Theyrnas Deheubarth.Llew aur yn sefyll ar undroed (regardant), ar gefndir coch, gydag ymyl pigog, melyn.
?Arfbais Teyrnas GwentHanner chwith glas, hanner dde yn ddu, gyda thair Fleurs-de-Lis aur.
975 - 1010Teyrnas Rhwng Gwy a Hafren gan gynnwys: Maelienydd, Elfael, Ceri, Gwerthrynion, Cwmwd Deuddwr a Buellt). Arfbais Elystan Glodrydd, sylfaenydd 5ed Llinach Frenhinol Cymru.Gules, a lion rampant regardant Or.
1010 ->Teyrnas Rhwng Gwy a Hafren. Arfbais Cadwgan ap Elystan GlodryddTri mochyn gwyllt
?Arfbais Teyrnas CeredigionLlew aur yn sefyll ar undroed (regardant) yn edrych yn ôl, ar gefndir gwyn.
o 1045 ymlaenArfbais Teyrnas Morgannwg a'u sefydlydd, sef Iestyn ap Gwrgant.Tri chevronels argent gwyn ar faes coch.
hyd at 920Arfbais Teyrnas DyfedLlew aur yn sefyll ar undroed (regardant), gyda phedwar rhosyn aur o'i ddeutu, ar gefndir glas.

Pymtheg Llwyth Gwynedd

[golygu | golygu cod]

Mae'r arfbeisiau canlynol i'w gweld mewn ystafell arbennig yn Erddig wedi'u creu ar gyfer perchennog y tŷ, Philip Yorke (1743 - 1804) a oedd hefyd yn gyfrifol am gyhoeddi llyfr ar arfbeisiau Cymru.[1][2]

Unigolion eraill

[golygu | golygu cod]
BanerDyddiadDefnyddDisgrifiad
bu farw 1160Arfbais Madog ap MareduddMadog ap Maredudd oedd y brenin olaf i deyrnasu dros y cyfan o Deyrnas Powys
c. 1320 - 1380Arfbais Ifor ap Llywelyn (Ifor Hael)Tri tharw du ar gefndir gwyn
?Arglwyddes CrogenLlew du ar ei sefyll ar gefndir gwyn
6gArfbais Brochwel Ysgithrog, Teyrnas PowysTri pen ceffyl arian ar gefndir du.
diwedd y 12g a dechrau'r 13gArfau Gwenwynwyn ab OwainPawen goch ar gefndir melyn.
dechrau'r 12gArfau Iarll PenfroTri llew gwyn ar untroed ar gefndir glas (chwith) a coch (dde).
1160 – 1191Arfbais Gruffudd Maelor ILlew du ar gefndir gwyn.
1802 – 1896Arfbais Arglwyddes LlanoferGweler yma am ddisgrifiad llawn.
1820 – 9 Mai 1885Arfbais Syr Watkin Williams-Wynn, 6ed BarwnigGweler yma am ddisgrifiad llawn.
?Arfau Hywel ap Meurig, Arglwydd NaddauLlew glas ar gefndir melyn
12g?Arfau Hywel o Gaerleon
(Hywel ap Iorwerth g. 1130?)
Tri chastell gwyn ar gefndir coch
?Arfau Llywelyn ap Gwilym5 lleuad ar groes melyn ar gefndir glas a choch
ganwyd tua 1018Arfau Llewelyn Eurdorchog (Aurdorchog) ap COEL Arglwydd IâlLlew melyn ar ei sefyll ar gefndir glas
13gArfau Llywelyn ap Ifor, Arglwydd Sanclêr a Gwynfe; tad Ifor HaelDraig ddu ar ei sefyll ar gefndir gwinau

Yr Eglwys yng Nghymru

[golygu | golygu cod]

Siroedd

[golygu | golygu cod]
ArfbaisDyddiadDefnyddDisgrifiad
Mawrth 2014Baner Sir FônTri llew aur ar ddwy goes, ar gefndir coch gyda chevronel aur
2012Tarian Sir GaernarfonTair eryr aur mewn rhes ar gefndir gwyrdd.
Heb ei chofrestruTarian CeredigionLlew aur ar ddwy goes, ar gefndir du.
2013Tarian De MorgannwgTair chevronel wen ar gefndir coch
?Tarian Sir Forgannwg (traddodiadol)Tair chevron goch ar gefndir melyn a thair rhosyn coch.
2015Tarian Sir FeirionnyddTair gafr arian ar ddwy goes, gyda haul aur ar gefndir glas.
2011Tarian Sir FynwyTair Fleur-de-Lis aur ar gefndir glas a du.
Heb ei chofrestruTarian Sir DrefaldwynTri phen mul arian ar gefndir du.
2015Tarian Sir y FflintCroes ddu arf gefndir arian gyda phedwar Brân Goesgoch, un ym mhob cornel.
1988Tarian Sir BenfroCroes aur ar gefndir glas, gyda rhosyn Tuduraidd coch a gwyn yn y canol.
-Tarian Sir FaesyfedPen baedd ar gefndir glas a melyn (streips llorweddol).
-Tarian Sir ClwydLlew du ar ddwy goes, gyda dwy streipen donnog uwch ei ben a dwy frân uwch y rhain.
-Tarian Ddir DdinbychLlew du ar ddwy goes; uwch ei ben ceir dwy streipen las a hanner
-Tarian Sir GaerfyrddinDau lew melyn ar gefndir coch, gyferbyn â'i gilydd a dwy ddraig goch ar gefndir melyn gyferbyn â'i gilydd.
-Tarian Sir DyfedTri llew melyn ym mhob cornel ar gefndiroedd gwahanol: du, coch a glas.
hyd at 1996Tarian GwyneddGafr wen ar gefndir glas ac uwch ei phen, ceir dau lew yn sefyll ac un yn y canol ar ddwy goes.

Arfbeisiau Saeson a Normaniaid yng Nghymru

[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. ↑ The Royal Tribes of Wales, Philip Yorke (1743 ~1804) (cyhoeddwyd yn 1887 yn Wrecsam)
  2. ↑ A Pedigree of the Royal Tribes of Wales, Roderick D. Davies (1999); gweler fersiwn ar-lein ar wefan archive.org: yma

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]