Gregynog
| Math | plasty gwledig, gardd |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Ystâd Gregynog |
| Lleoliad | Y Drenewydd, Tregynon |
| Sir | Tregynon |
| Gwlad | |
| Uwch y môr | 201 metr |
| Cyfesurynnau | 52.5675°N 3.3522°W |
| Cod post | SY16 3PW |
![]() | |
| Perchnogaeth | Prifysgol Cymru, Ymddiriedaeth Gregynog |
| Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II*, Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, Henebion Cenedlaethol Cymru |
| Manylion | |
Plasdy hanesyddol yw Gregynog, a leolir yng nghymuned Tregynon, Powys. Mae'n cael ei redeg heddiw fel canolfan cynadleddau gan Brifysgol Cymru. Roedd yn rhodd i'r brifysgol ym 1963 gan y chwiorydd Margaret a Gwendoline Davies, wyresau'r gŵr busnes llwyddiannus, David Davies Llandinam. Mae'n gartref i Wasg Gregynog sy'n argraffu llyfrau cain mewn argraffiadau cyfyngedig.
Hyd at 1914 roedd y rhan fwyaf o dir a ffermydd Tregynon, Betws Cedewain a'r cylch yn rhan o ystâd Gregynog.
Er 1932, cynhelir Gŵyl Gerddoriaeth Gregynog yno, sydd wedi denu rhai o enwau mawr y byd cerddorol fel Ralph Vaughan Williams, Gustav Holst, Benjamin Britten ac Edward Elgar.

Hanes cychwynnol
[golygu | golygu cod]Mewn cerdd gan Gynddelw Brydydd Mawr (1150-1200) y mae’r sôn cyntaf am yr enw Gregynog (ar y ffurf Grugunawg) fel llys neu enw ardal o bosibl: Grugunawg eryr Grugunan gynneddf ‘Arwr Grugynog a chanddo gynneddf [yr arwr] Gruganan’. Daeth yr enw lle Grugunawg o enw dyn Grugun, a’r enw hwnnw’n cynnwys yr elfen grug ‘heather’.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Tegai Hughes, Glyn; Morgan, Prys; Thomas, J. Gareth (1977). Gregynog. Gwasg Prifysgol Cymru.
