Cwmwd Deuddwr

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Erthygl am y cwmwd ym Maesyfed yw hon. Gweler hefyd Deuddwr (Teyrnas Powys) a Deuddwr (gwahaniaethu).

Cwmwd yn ardal Rhwng Gwy a Hafren, yng nghanolbarth Cymru, oedd Cwmwd Deuddwr. Roedd yn gwmwd "annibynnol", heb fod yn rhan o gantref.

Gorweddai'r cwmwd yng nganolbarth Cymru ar y ffin â Phowys (Powys Wenwynwyn) i'r gogledd a Cheredigion i'r gorllewin. Ffiniai ag Arwystli Uwch Coed (Arwystli) ym Mhowys, Gwerthrynion a Buellt i'r dwyrain a'r de yn Rhwng Gwy a Hafren, a Mefenydd a rhan o gwmwd Penardd (Uwch Aeron) yng Ngheredigion.

Roedd yn gwmwd mynyddig gyda bryniau Elenydd yn llenwi llawer o'r tir, yn enwedig yn y gorllewin i gyfeiriad Ceredigion.

Ychydig iawn a wyddys am ei hanes cynnar, cyn cyfnod y Normaniaid. Er i'r cwmwd fwynhau cyfnodau o annibyniaeth daeth yn destun ymgiprys am reolaeth arno rhwng Deheubarth ac arglwyddi Normanaidd y Mers o ddiwedd yr 11g. Rhwng tua 1100 a 1377 roedd teulu'r Mortimeriaid yn ei reoli am gyfnodau sylweddol. Yn ddiweddarach daeth yn rhan o Sir Faesyfed ac wedyn sir Powys.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Baner CymruEicon awrwydr   Eginyn erthygl sydd uchod am hanes Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
CymruPowys.png Eginyn erthygl sydd uchod am Bowys. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.