Buellt

Oddi ar Wicipedia
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynolgwlad ar un adeg, teyrnas Edit this on Wikidata
GwladwriaethCymru Edit this on Wikidata
Dyma erthygl am y deyrnas a chantref. Am y dref a elwir Builth yn Saesneg (weithiau Buallt yn Gymraeg), gweler Llanfair-ym-Muallt.
Teyrnasoedd Cymru 400-800
(y map gwreiddiol gan William Rees 1959
Atgynhyrchwyd yn 'Hanes Cymru' gan John Davies)
Buellt, 1797

Roedd Buellt (weithiau Buallt) yn deyrnas gynnar a chantref yn ne canolbarth Cymru (deheubarth Powys heddiw), i'r gogledd o fryniau Eppynt. Ystyr yr enw Buellt yw 'porfa gwartheg'.

Gorweddai Buellt yng ngorllewin y rhanbarth canoloesol a elwir Rhwng Gwy a Hafren. Roedd y rhan fwyaf o'i thiriogaeth yn gorwedd ar lannau deheuol Afon Wysg.

Rhywbryd yn yr Oesoedd Canol rhannwyd cantref Buellt yn bedwar cwmwd, sef :

Enwir y cymydau hyn ar ôl eu canolfannau lleyg, a safai yn nyffryn Irfon neu'n agos iddo. Yn yr un ardal ceir canolfannau eglwysig y cantref, sef eglwysi Llanafan Fawr a Maesmynis, mam eglwys Buellt.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae ei hanes cynnar yn dywyll. Ymddengys ei bod yn deyrnas annibynnol yn yr Oesoedd Canol Cynnar. Tua'r flwyddyn 800, cafodd ei chyplysu â Gwerthrynion gan y brenin Ffernfael. Roedd pendefigion Buellt yn credu eu bod yn ddisgynyddion i'r brenin Gwrtheyrn. Ceir cofnod am hyn yn yr Historia Brittonum gan Nennius. Dyna'r cwbl a wyddys am hanes Buellt cyn diwedd yr 11g.

Cipiwyd Buellt yn fuan ar ôl i'r Normaniaid gyrraedd Cymru, tua'r flwyddyn 1095, gan Phillip de Breos (neu Briouze/Brewys), arglwydd Maesyfed. Codwyd Castell Llanfair-ym-Muallt gan y teulu de Braose. Ond diolch i bolisi Llywelyn Fawr o ymgynghreirio a rhai o arglwyddi'r Mers er mwyn cael mur cyfeillgar rhwng ei deyrnas a theyrnas Lloegr, dychwelwyd Buellt i feddiant y Cymry yn 1229 trwy briodas y Dafydd ap Llywelyn ifanc ag Isabella de Breos. Cafodd ei chipio eto yn 1241 ac am gyfnod byr bu ym meddiant Coron Lloegr, ond wedyn daeth i feddiant teulu Mortimer, Ieirll y Mers.

Erys Buellt yn adnabyddus am bennod dywyll yn hanes Cymru pan laddwyd Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru, ger Cilmeri (Pont Irfon) ym Muellt ar 11 Rhagfyr 1282. Enillodd y traddodiad am frad a chynllwyn yn erbyn y tywysog yr enw "bradwyr Buellt" ar drigolion yr ardal.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Wendy Davies, Wales in the Early Middle Ages (Leicester, 1982)
  • J. E. Lloyd, A history of Wales from the earliest times to the Edwardian conquest (Longmans, 3ydd arg., 1939)
  • J. Beverley Smith, Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru (Caerdydd, 1986)