Afon Irfon

Oddi ar Wicipedia
Afon Irfon
Ynys ar afon Irfon ger Llangamarch
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.237°N 3.715°W, 52.15°N 3.4167°W, 52.131622°N 3.669907°W Edit this on Wikidata
LlednentyddAfon Camarch Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethSafle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Edit this on Wikidata
Manylion

Afon ym Mhowys yw Afon Irfon. Ei hyd yw tua 20 milltir.

Mae'n tarddu ym mryniau de Powys rhwng Bryn Garw (1827') a Drum yr Eira (1968'), tua 7 milltir i'r dwyrain o Abaty Ystrad Fflur. Yna mae'n llifo i'r de trwy bentref Abergwesyn a thrwy Gwm Irfon i Lanwrtyd. Mae'n troi i gyfeiriad y dwyrain wedyn ac yn llifo trwy Langamarch. Ger Llanfair-ym-Muallt mae hi'n llifo i Afon Gwy.

Mae'r afon yn adnabyddus yn hanes Cymru am fod Llywelyn Ein Llyw Olaf, Tywysog Cymru, wedi ei ladd ar ei lannau ar 11 Rhagfyr 1282. Digwyddodd hyn yng nghyffiniau Cilmeri.

Eginyn erthygl sydd uchod am Bowys. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.