Afon Camarch
Afon ym Mhowys sy'n un o lednentydd Afon Irfon yw Afon Camarch.
Mae'n tarddu fel nifer o nentydd o gwmpas llethrau deheuol Drygarn Fawr, i'r gogledd o Abergwesyn. Mae'n llifo i'r de trwy bentref Beulah a heibio caer Rufeinig Caerau i ymuno ag afon Irfon ger Llangamarch.