Elfael

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Teyrnasoedd Cymru 400-800
(y map gwreiddiol gan William Rees 1959
Atgynhyrchwyd yn 'Hanes Cymru' gan John Davies)

Roedd Elfael yn gantref yn hen ranbarth Rhwng Gwy a Hafren yn ne-ddwyrain canolbarth Cymru, ar y ffin â Lloegr. Roedd yn gorwedd mewn ardal ar y ffin rhwng teyrnas Powys i'r gogledd a theyrnas Brycheiniog i'r de. Rhed Afon Gwy hyd ymyl ogleddol y cantref.

Roedd y cantref yn ffinio â Swydd Henffordd yn Lloegr i'r dwyrain, Brycheiniog i'r de, cantref Buellt i'r gorllewin, a Maelienydd a chwmwd bychan Llwythyfnwg i'r gogledd. Ardal o fryniau niferus a fuasai'n goediog ac anghysbell yn yr Oesoedd Canol oedd Elfael. Ar ryw bwynt yn yr Oesoedd Canol cafodd ei rhannu yn ddau gwmwd, sef

Canolfan grefyddol ac eglwysig Elfael oedd Glascwm, lle sefydlwyd clas gan Dewi Sant neu un o'i ddisgyblion.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae canolfannau gwleidyddol Elfael yn anhysbys, ond roedd Elfael ym meddiant disgynyddion Elystan Glodrydd, hendaid i'r pumed o Lwythau Brenhinol Cymru. Mae'n bosibl felly fod Elfael yn fân deyrnas neu is-deyrnas yn yr Oesoedd Canol Cynnar. Ymddengys fod Elfael wedi mwynhau cryn elfen o annibyniaeth fel arglwyddiaeth leol hyd cyfnod y Normaniaid.

Yn y 1070au a'r 1080au dioddefodd ymosodiadau gan yr arglwyddi Normanaidd. Erbyn chwarter olaf y 12g roedd Elfael wedi dod dan ddylanwad yr Arglwydd Rhys trwy briodasau brenhinol. Erbyn 1248 daethai Elfael Uwch Mynydd i feddiant yr arglwydd Owain ap Maredudd. Yn 1260 daeth Owain i deyrngarwch Llywelyn ap Gruffudd, a oedd yn ymestyn ei awdurdod yn y rhan honno o'r wlad, ond arosodd cwmwd Elfael Is Mynydd ym meddiant y teulu Normanaidd de Toni. Ond erbyn 1263 roedd deiliad Cymreig de Toni wedi troi at Lywelyn hefyd. Llwyddodd Llywelyn, fel Tywysog Cymru, i ddal ei awdurdod yn yr ardal tan 1276.

Yn 1276, fel rhan o Gytundeb Trefaldwyn, daeth i feddiant y Normaniad Ralph de Toni ac yna trwy ddisgynyddion yr arglwydd hwnnw i feddiant Ieirll Warwick. Codwyd castell Normanaidd yn Llanfair Castell Paun a fu un o gaerau pwysicaf y Mers.

Ffynonellau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • John Davies, Hanes Cymru (Llundain, 1990). D.g. Elfael.
  • J. E. Lloyd, A History of Wales... (Longmans, 3ydd arg., 1939)
  • J. Beverley Smith, Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru (Caerdydd, 1986). Td. 122 et passim.