Llwythyfnwg
Gwedd
Cwmwd bychan canoloesol yng nghanolbarth Cymru oedd Llwythyfnwg (amrywiadau: Llythyfnwg, Llythynwg). Gorweddai yn rhanbarth Rhwng Gwy a Hafren ar y ffin â Swydd Henffordd yn Lloegr.
Yng Nghymru, ffiniai'r cwmwd â chantrefi Elfael a Maelienydd. Roedd yn cynnwys Fforest Maesyfed. Roedd ei brif ganolfannau yn cynnwys Llanandras, Maesyfed, Llanfihangel Nant Melan a Llanfair Llythynwg.
Mae ei statws cynnar yn ansicr. Am y rhan fwyaf o'r Oesoedd Canol bu ym meddiant y Normaniaid ac arglwyddi'r Mers fel arglwyddiaeth Maesyfed. Yn 1536, daeth yn rhan o'r Sir Faesyfed newydd. Heddiw mae'r ardal yn gorwedd yn sir Powys.