Erddig
Gwedd
| Math | plasty gwledig |
|---|---|
| Sefydlwyd | |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol |
| Lleoliad | Marchwiail |
| Sir | Bwrdeistref Sirol Wrecsam |
| Gwlad | |
| Uwch y môr | 88.9 metr |
| Cyfesurynnau | 53.0272°N 3.0066°W |
| Rheolir gan | yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol |
![]() | |
| Perchnogaeth | John Meller, Philip Yorke, Simon Yorke, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Philip Scott Yorke, teulu York |
| Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I, Henebion Cenedlaethol Cymru |
| Manylion | |
Plasdy ac ystâd yng nghymuned Marchwiail, Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Cymru yw Erddig. Saif rhyw ddwy filltir i'r de o ganol dinas Wrecsam. Mae yn awr yng ngofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Fe'i adeiladwyd yn 1684–1687 ar gyfer Joshua Edisbury, uchel siryf Sir Ddinbych, a'i gynllunio gan Thomas Webb. Fe'i gwerthwyd i John Meller yn 1718, ac ehangwyd yr adeilad ganddo ef. Ar ei farwolaeth ef yn ddi-blant yn 1733, etifeddwyd y plasdy gan ei nai Simon Yorke. Bu yn eiddo i deulu Yorke hyd 1973, pan roddwyd ef i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Y mwyaf adnabyddus o'r teulu oedd Philip Yorke (1743–1804), awdur The Royal Tribes of Wales.
Mae ystâd Erddig yn cynnwys gerddi, coedwigoedd a pharcdir eang gyda sawl nodwedd bensaernïol.

