Gwenwynwyn ab Owain
| Gwenwynwyn ab Owain | |
|---|---|
| Ganwyd | 12 g |
| Bu farw | 1216 |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | teyrn |
| Swydd | Powys Wenwynwyn |
| Tad | Owain Cyfeiliog |
| Mam | Gwenllian ferch Owain Gwynedd |
| Plant | Gruffudd ap Gwenwynwyn, Madog ap Gwenwynwyn |

Roedd Gwenwynwyn ab Owain Cyfeiliog (bu farw tua 1216) yn dywysgog Powys Wenwynwyn o 1195 ymlaen. Oddi wrtho ef y cymerodd y deyrnas hon, a grewyd pan rannwyd teyrnas Powys yn ddwy, ei henw.
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Daeth Gwenwynwyn yn rheolwr Powys Wenwynwyn ar farwolaeth ei dad, Owain Cyfeiliog. Ym mlynyddoedd olaf y 12g ceisiodd Gwenwynwyn ei sefydlu ei hun fel arweinydd y tywysogion Cymreig, a gosododd warchae ar Gastell Paun yn 1198, ond gorchfygwyd ef gan fyddin Normanaidd dan Geoffrey Fitz Peter.
Yn fuan daeth Gwenwynwyn i wrthdrawiad a Llywelyn Fawr oedd wedi dod yn dywysog Gwynedd. Bwriadodd Llywelyn ymosod ar Bowys Wenwynwyn yn 1202, ond gwnaed heddwch rhyngddynt gan yr eglwys. Ar y dechrau roedd y brenin John o Loegr yn cefnogi Gwenwynwyn, ond yn ddiweddarach gwnaeth Llywelyn gytundeb a John a phriodi ei ferch Siwan.
Yn 1208 aeth pethau'n ddrwg rhwng Gwenwynwyn a John pan ymosododd Gwenwynwyn ar diroedd un o arglwyddi'r Mers. Galwyd Gwenwynwyn i Amwythig i weld y brenin, a phan gyrhaeddodd yno cymerwyd ef yn garcharor. Achubodd Llywelyn y cyfle i feddiannu llawer o'i diroedd.
Rhwng 1212 a 1216 oedd Gwenwynwyn mewn cynghrair a Llywelyn, ond y flwyddyn honno dychwelodd John rai o'i diroedd iddo a gwnaeth gynghrair a'r brenin yn erbyn Llywelyn. Ymateb Llywelyn oedd ymosod ar Bowys Wenwynwyn a gyrru Gwenwynwyn ar ffo. Symudodd ei lys o'r hen lys brenhinol ym Mathrafal i'r Trallwng. Yn ddiweddarach ffoes i Loegr, lle bu farw tua'r flwyddyn 1216.
Dilynwyd Gwenwynwyn gan ei fab Gruffudd ap Gwenwynwyn, ond meddianwyd Powys Wenwynwyn gan Lywelyn.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- J. E. Lloyd, A History of Wales (1911)
| Rhagflaenydd: Owain Cyfeiliog |
Tywysog Powys Wenwynwyn 1195–1216 |
Olynydd: Llywelyn Fawr |