Gruffudd Maelor I
| Gruffudd Maelor I | |
|---|---|
| Ganwyd | 12 g |
| Bu farw | 1191 |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | teyrn |
| Swydd | Powys Fadog |
| Tad | Madog ap Maredudd |
| Mam | Siwsana ferch Gruffudd |
| Priod | Angharad ferch Owain Gwynedd |
| Plant | Madog ap Gruffudd Maelor, Cristin ferch Gruffudd Maelor ap Madog ap Maredudd |

Gruffudd Maelor I neu Gruffudd ap Madog ap Maredudd (bu farw 1191) oedd tywysog cyntaf Powys Fadog.
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Pan fu farw ei dad, Madog ap Maredudd yn 1160 rhannwyd Teyrnas Powys. Derbyniodd Gruffudd gantrefi Maelor ac Iâl, ac yn ddiweddarach ychwanegodd Nanheudwy, Cynllaith Owain a Mochnant pan fu farw ei hanner brawd Owain Fychan yn 1187. Yn nes ymlaen gallodd gipio Cyfeiliog oddi ar ei neiaint Owain a Meurig.
Priododd Angharad, merch Owain Gwynedd. Mae Gerallt Gymro yn cofnodi ei fod wedi cael ei berswadio gan yr eglwys i ysgaru Angharad yn 1188; gan fod Owain Gwynedd yn frawd i fam Gruffudd roedd y berthynas rhyngddynt yn rhy agos i ganiatau priodas yn ôl rheolau'r eglwys. Mae Brut y Tywysogion yn ei ddisgrifio fel Yr haelaf o holl tywyssogion kymry. Gadawodd ddau fab, Madog ac Owain.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- John Edward Lloyd (1911) A history of Wales: from the earliest times to the Edwardian conquest (Longmans, Green & Co.)