Andrew Vicari

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Andrew Vicari ac un o'i weithiau yn y Celtic Manor yn 2007.

Arlunydd Cymreig oedd Andrew Vicari (20 Ebrill 19383 Hydref 2016).

Ganwyd ym Mhort Talbot, yn fab i'r perchennog bwyty Vittorio a'i wraig Italia a ymfudodd i Gymru o ddinas Parma yng ngogledd yr Eidal. Cafodd Vittorio ei gaethiwo yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Mynychodd Andrew Ysgol Ramadeg Castell-nedd, ac yn oed 12 fe enillodd y fedal aur am baentio yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Aeth i Lundain ym 1951 i astudio yn y Slade, ysgol gelfyddyd Coleg Prifysgol Llundain, o dan Francis Bacon, Syr William Coldstream, a Lucian Freud. Cynhaliwyd ei arddangosfa gyhoeddus gyntaf yn Oriel Redfern ym 1956. Ymsefydlodd yn Soho a phaentiodd bortreadau o Augustus John a Norman Wisdom. Am gyfnod fe drigai yn Rhufain ac roedd yn gyfaill i Truman Capote.

Ym 1974, aeth i Riyadh ar gyngor cyfaill o'r Swyddfa Dramor, a chafodd waith yng Nghanolfan Islamaidd y Brenin Faisal. Penodwyd Vicari yn arlunydd swyddogol y brenin a llywodraeth Sawdi Arabia, a fe gafodd effaith drawsffurfiol ar gelfyddyd Islamaidd gan iddo ailgyflwyno darluniadau ffigurol i'r wlad. Paentiodd nifer fawr o bortreadau o'r teulu brenhinol a phenaduriaid y wlad. Ei brif noddwr oedd y Tywysog Khalid bin Sultan bin Abdelaziz, cadlywydd y lluoedd Arabaidd yn Rhyfel y Gwlff, ac efe benododd Vicari yn arlunydd rhyfel swyddogol Sawdi Arabia. Arluniodd 225 o baentiadau olew, mewn cyfres a elwir From War to Peace in the Gulf: The Liberation of Kuwait. Cafodd fygythion i'w ladd a chynigodd Iran i brynu'r casgliad er mwyn ei ddinistrio. O'r diwedd, cytunodd Khalid i brynu 125 o'r paentiadau yn 2001 a'u harddangos mewn amgueddfa sy'n coffáu'r rhyfel. Pan fu farw yn 2016, roedd tair amgueddfa yn Sawdi Arabia a neilltuir yn arbennig i'w waith.

Roedd Vicari yn hynod o falch yn ei fedr ac yn hysbysebu ei waith yn ddi-baid. Fe alwodd ei hunan yn "frenin yr arlunwyr ac arlunydd y brenhinoedd" a honodd ei fod yn "y paentiwr olew olaf yn llinach Goya, Rubens, Velazquez, a Raphael". Nid oedd y beirniaid yn hoff o'i waith. Dyfarniad John Berger oedd ei fod "o ddiddordeb cymdeithasegol, fel dadansoddiad o hyrwyddo gyrfa eich hunan, ond yn bendant nid o ddiddordeb celfyddydol". Er ei gyfoeth, nid oedd Vicari yn enw cyfarwydd gan y cyhoedd yn ei wlad enedigol. Datganodd yr arlunydd nad oedd ef yn poeni am ei statws anamlwg ym Mhrydain: "Myfi yw un o'r arlunwyr ffiguraidd mawr, un o'r dylunwyr gorau. Does dim ots gen i (why should I give a toss) beth yr ydynt yn meddwl amdanaf yn y wlad ynysig hon."[1]

Enillodd Vicari miliynau o bunnoedd o'i waith i'r Sawdïaid. Bu'n treulio'i amser yn ei randy yn Riyadh, ei stiwdio yn Nice, a'i benty ym Monte Carlo. Yn 2006, tybir ei fod yn werth £92 miliwn, ac yn 2013 fe rhoddwyd yn y trydydd safle mewn rhestr o artistiaid cyfoethocaf y byd, o dan Damien Hirst a Jasper Johns ond yn gyfoethocach na Jeff Koons. Erbyn 2014 roedd problemau ariannol ganddo a bu rhaid iddo ddychwelyd i Gymru. Bu farw yn 84 oed, heb briodi, yn Ysbyty Treforys, Abertawe.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. (Saesneg) Obituary: Andrew Vicari, millionaire Welsh artist, The Daily Telegraph (7 Hydref 2016). Adalwyd ar 3 Mehefin 2017.
  2. Yr artist o Bort Talbot, Andrew Vicari, wedi marw yn 84, BBC (3 Hydref 2016). Adalwyd ar 3 Mehefin 2017.