Trosedd yng Nghymru

Oddi ar Wicipedia

Cyfraith Lloegr yw cyfundrefn gyfreithiol Cymru (gweler Cymru a Lloegr), ac fe gwasanaethir Cymru gan bedwar heddlu rhanbarthol: Heddlu Dyfed-Powys, Heddlu Gwent, Heddlu Gogledd Cymru, a Heddlu De Cymru.

Mae'r tabl isod yn dangos ystadegau ar gyfer y troseddau a gofnodwyd yn ardaloedd heddlu Cymru, Cymru i gyd, a Chymru a Lloegr o 2003 i 2007:[1]

Ardal Nifer y troseddau 2003/04 Nifer y troseddau 2004/05 Nifer y troseddau 2005/06 Nifer y troseddau 2006/07 Newid 03/04 i 06/07 (%) Newid 05/06 i 06/07 (%)
Dyfed-Powys 16,612 18,189 16,400 16,578 0 1
Gwent 36,746 35,711 33,794 33,140 -10 -2
Gogledd Cymru 38,332 33,440 30,363 31,838 -17 5
De Cymru 86,211 78,220 80,389 78,749 -9 -2
Cymru 177,901 165,560 160,946 160,305 -10 0
Cymru a Lloegr 3,612,887 3,356,075 3,303,344 3,243,372 -10 -2

Mae lefelau pryder am drosedd yng Nghymru yn debyg i lefelau pryder dros Gymru a Lloegr. Yn 2006/07, dywedodd 11% o ymatebwyr i'r Arolwg Troseddau Prydeinig (BCS) yng Nghymru eu bod yn hynod o bryderus am fyrgleriaeth (i gymharu â 13% dros Gymru a Lloegr); dywedodd 13% eu bod yn hynod o bryderus am droseddau ceir, sef rhywun yn dwyn car neu rhywun yn dwyn pethau o gar (yr un ganran â Chymru a Lloegr); ac roedd gan 12% bryder uchel am droseddau treisgar, yn cynnwys mygio, trais rhywiol, ymosodiad corfforol gan ddieithryn ac ymosodiad oherwydd hil (llai na'r ffigur o 17% ar gyfer Cymru a Lloegr i gyd).[1]

Darganfu y BCS bod gan 48% o bobl yng Nghymru hyder yn eu heddlu lleol (llai na'r cyfartaledd o 51% ar gyfer Cymru a Lloegr), a theimlai 41% o ymatebwyr bod y system cyfiawnder troseddol yn effeithiol wrth ddwyn drwgweithredwyr i gyfrif (yr un ffigur â Chymru a Lloegr). Teimlai 17% o ymatebwyr yng Nghymru bod lefel uchel amlwg o ymddygiad gwrth-gymdeithasol (i gymharu â 18% dros Gymru a Lloegr), a theimlai 31% bod lefel uchel amlwg o ddefnyddio neu ddelio â chyffuriau yn eu hardal (i gymharu â 28% ar gyfer Cymru a Lloegr i gyd).[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2  Sarah Kirwan, Charlotte Wood ac Alison Patterson. Trosedd yng Nghymru a Lloegr 2006/07: Cymru. Y Swyddfa Gartref. Adalwyd ar 28 Mai, 2008.