Heddlu Dyfed-Powys
Gwedd
| Enghraifft o: | heddlu tiriogaethol |
|---|---|
| Dechrau/Sefydlu | 1968 |
| Pencadlys | Caerfyrddin |
| Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
| Gwefan | https://www.dyfed-powys.police.uk/ |
| Dynodwyr | |
Un o bedwar heddlu Cymru yw Heddlu Dyfed-Powys (Saesneg: Dyfed-Powys Police). Mae ei ardal yn cynnwys siroedd cadwedig Powys a Dyfed yng Nghanolbarth Cymru. Mae'n gwasanaethu awdurdodau unedol Ceredigion, Sir Gâr, Sir Benfro a Phowys. Mae ei bencadlys yng Nghaerfyrddin.

Fe'i sefydlwyd yn 1968 pan unwyd heddlu Sir Gaerfyrddin a Sir Aberteifi â heddlu Sir Benfro a heddlu Canol Cymru.