Neidio i'r cynnwys

Diwydiant copr Cymru

Oddi ar Wicipedia
Mwyngloddiau Copr y Gogarth
Mynydd Parys
Adnoddau Dysgu
Rhestr o adnoddau dysgu ar gyfer y pwnc yma
HWB
Y Chwyldro Diwydiannol yng Nghymru
Adolygwyd testun yr erthygl hon gan arbenigwyr pwnc ac mae'n addas i'w ddefnyddio mewn addysg

Mae hanes diwydiant copr Cymru yn mynd yn ôl i'r Oes Efydd. Mae olion cloddfeydd copr o'r cyfnod hwn wedi eu darganfod yng Nghwmystwyth, Mynydd Parys ar Ynys Môn ac yn arbennig ar Ben y Gogarth ger Llandudno, lle'r oedd siafftiau hyd at ddyfnder o 70 metr. Dechreuwyd mwyngloddio copr ar Ben y Gogarth tua 4000 o flynyddoedd yn ôl, a chafodd mwy na phedair milltir o dwneli ac ogofâu eu cloddio yn ystod yr Oes Efydd, pan ddefnyddiwyd cerrig igneaidd yn ogystal ag esgyrn gwartheg, defaid, geifr ac ati fel offer cloddio. Mae'n bosibl bod copr wedi cael ei allforio o Ben y Gogarth i gyfandir Ewrop, hyd yn oed, yn ystod yr Oes Efydd.

Bu'r Rhufeiniaid hefyd yn cloddio am gopr yng Nghymru - er enghraifft, ar Fynydd Parys a Phen y Gogarth. Yn ogystal, roedd nifer o fwyngloddiau copr yn Eryri - er enghraifft, Drws-y-coed a Sygun, ger Beddgelert, ac yn Nyffryn Conwy. Roedd mwyngloddiau pur gynhyrchiol ym Meirionnydd hefyd, e.e. ger Llanfachreth. Un o'r mwyngloddiau hyn oedd Glasdir, a weithiwyd rhwng 1852 a 1914, lle dyfeisiodd y perchennog Alexander Elmore ddull o dynnu copr o'r mwyn drwy ddefnyddio arnofiad olew.[1]

Hanes cynnar

[golygu | golygu cod]

Tua 4000 o flynyddoedd yn ôl, dechreuodd y Brythoniaid, neu Geltiaid brodorol ynysoedd Prydain, gloddio am gopr mewn safleoedd yng nghanolbarth a gogledd Cymru. Ymhlith y safleoedd hyn roedd Mynydd Parys ar Ynys Môn a Chwmystwyth yng Ngheredigion. Defnyddiai mwynwyr offer cyntefig a wnaed o gerrig, pren ac asgwrn. O tua 2200CC ymlaen cymysgwyd copr gyda phlwm a thun er mwyn cynhyrchu offer, gemwaith ac arfau efydd.[2]

Parhawyd i gloddio’n eang am gopr yn ystod cyfnod y Rhufeiniaid, ac roedd presenoldeb copr ar Ynys Môn yn un o’r prif resymau pam penderfynodd y fyddin Rufeinig lansio ymosodiadau ar yr ynys yn 60 O.C. Yn ystod y goresgyniad hwn lladdwyd derwyddon yr ynys a sefydlwyd caer yng Nghaergybi er mwyn amddiffyn y cloddfeydd copr yn Amlwch.[3][4]

Erbyn diwedd y Canol Oesoedd roedd y diwydiant copr yng Nghymru wedi dirywio’n sylweddol ac roedd yr wybodaeth am lawer o’r mwynfeydd copr hynafol wedi ei cholli.[5]

Sefydlwyd y gweithfeydd smeltio copr cyntaf yng Nghymru yn Aberdulais yn 1584 ac roedd hwn yn dynodi cychwyn y chwyldro copr yng Nghymru. Yn ystod y ganrif nesaf agorwyd nifer o weithfeydd copr yn ne Cymru, gan gychwyn y broses o sefydlu diwydiant copr yng Nghymru.[2]

Yn 1786 fe wnaeth mwynwr o’r enw Rowland Pugh ailddarganfod hen wythiennau Mynydd Parys ac unwaith eto dechreuodd Cymru gloddio am gopr ar raddfa fawr yn ogystal â’i brosesu hefyd.

Mynydd Parys

[golygu | golygu cod]
Mwynglawdd y Gogarth

Dechreuodd mwyngloddio ar raddfa fawr ym Mynydd Parys yn 1768, pan ddarganfuwyd gwythïen fawr o gopr yno. Erbyn y 1780au Mynydd Parys oedd yn cynhyrchu'r mwyafrif o gopr y byd. Erbyn 1778 roedd y cwmni'n cael ei redeg gan Thomas Williams, Llanidan, a ddaeth yn un o ddiwydianwyr mwyaf ei gyfnod.

Yn y blynyddoedd cynnar, roedd y copr yn cael ei weithio oddi ar yr wyneb, ond yn ddiweddarach o siafftiau. Roedd y darnau o graig a oedd yn cynnwys y copr wedyn yn cael eu malu'n ddarnau llai â morthwyl gan ferched, y "Copr Ladis", cyn cael eu gyrru o borthladd Amlwch i borthladd Abertawe i'w smeltio, neu i Swydd Gaerhirfryn ar adegau. Erbyn diwedd y 18g roedd poblogaeth Amlwch wedi cynyddu i tua 10,000, gan ei gwneud yr ail dref fwyaf yng Nghymru ar ôl Merthyr Tudful. Estynnwyd yr harbwr gwreiddiol i wneud lle i longau mwy ar gyfer y fasnach cludo mwyn copr. O ganlyniad, datblygodd diwydiant llongau llwyddiannus yn yr harbwr. Erbyn 1800 roedd 8 siop gigydd, 13 siop deiliwr, 6 haearnwerthwr a 60 o dai tafarn![6]

Gwaith y Friars Coat

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriodd Elizabeth Baker yn ei dyddiadur ar gyfer 3 Rhagfyr 1770 fel a ganlyn:

...work [on?] the upper part is from the bottom of the level where the Friars Coat was got - but as I told you in my last [letter], the snow and the winds are such that the men cannot work there yet - so high on the mountain.[7]

Roedd Elizabeth Baker yn berchen ar fwynfeydd yn ardal Dolgellau. Tybed beth yw “friar’s coat”? Cyfeiriad at Frodyr Gwynion Abaty Cymer, efallai?

Dywed yr hanesydd Steffan ab Owain mai enw ar waith copr, ac o bosib yr un lle â “Thyllau Mwyn” (SH844205 ar y map) oedd y 'Friar's coat'. Dyma gyfeiriad ato oddi ar y we:

A remote location marked on old OS maps as Tyllau mwyn (mine shafts). Thought to be the site of an unsuccessful trial referred to under the name of Friar's Coat in 1770. According to the Geological Survey, iron ore (bedded oolitic ironstone with magnetite) was raised here in about 1878, 1910 and 1920.[8]

Mae cyfeiriad Elizabeth Baker ato yn 1770 fel ymgais (aflwyddiannus) i godi copr yn mynd â hanes y safle ymhellach yn ôl, felly, o bosibl.

Abertawe a Llanelli

[golygu | golygu cod]

Datblygodd nifer o weithfeydd toddi copr yn ardal Abertawe, Castell-nedd a Llanelli, yn defnyddio'r glo lleol i doddi mwynau o Gernyw a Mynydd Parys. Agorwyd y gwaith copr cyntaf yn Abertawe yn 1717. Sefydlwyd nifer o'r cwmnïau gyda chyfalaf o Gernyw, yn cynnwys y mwyaf, sef Vivian & Sons. Am gyfnod cafodd Abertawe yr enw Copperopolis, ac roedd yn allforio copr i bob rhan o'r byd. O 1843 ymlaen, dechreuwyd mewnforio mwy o fwyn tramor i Abertawe. Daliodd y diwydiant i dyfu, gan gyrraedd ei anterth rhwng 1860 a 1875. Dirywiodd y diwydiant yn ne Cymru yn chwarter olaf y 19 ganrif, pan adeiladwyd gweithfeydd yn nes at y mwyngloddiau copr.

Dirywiad y diwydiant copr

[golygu | golygu cod]

Dirywiodd diwydiant copr Cymru tua chanol y 1850au, gyda'r copr yn rhai o'r cloddfeydd yn darfod a datblygu mwyngloddiau mewn rhannau eraill o'r byd, yn enwedig yn Tsile ac Awstralia. Yn 1914 cloddiwyd tua 1,500 tunnell o gopr yng Nghymru (885 tunnell ohono ym Meirionnydd, 172 yn Sir Gaernarfon). Caewyd Mynydd Parys ar ddechrau'r 20g, a chaewyd nifer o'r gweithfeydd llai tua'r un adeg. Ail-agorwyd cloddfeydd copr Pen y Gogarth a Sygun yn ddiweddar fel atyniad i dwristiaid.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Y Chwyldro Diwydiannol yng Nghymru". hwb.gov.wales. Cyrchwyd 2020-09-17.
  2. 2.0 2.1 "Welsh Copper | Copper in Wales". www.welshcopper.org.uk. Cyrchwyd 2020-09-17.
  3. "How the Romans defeated the awe-inspiring Druids of Anglesey". Anglesey Hidden Gem. Cyrchwyd 2020-09-17.
  4. Brown, Debra (2014-01-29). "English Historical Fiction Authors: The Menai Massacre & the Last Outpost of the Druids". English Historical Fiction Authors. Cyrchwyd 2020-09-17.
  5. "Copper kingdom at Parys Mountain". www.bbc.co.uk. Cyrchwyd 2020-09-17.
  6. Y Deyrnas Gopr; Archifwyd 2018-04-15 yn y Peiriant Wayback adalwyd 7 Mawrth 2018.
  7. Dyddiadur Elizabeth Baker (Llyfrgell Genedlaethol)
  8. Steffan ab Owain

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]
  • David E. Bick, The old copper mines of Snowdonia (Newent: Pound House, 1982)
  • J. R. Harris, The Copper King: A biography of Thomas Williams of Llanidan (Gwasg Prifysgol Lerpwl, 1964).
  • John Rowlands, Copper mountain (Cymdeithas Hynafiaethwyr Môn, 1966)
  • Don Smith, The Great Orme copper mines (Llandudno: Creuddyn Publications, 1988)
  • Ben Bowen Thomas, Braslun o hanes economaidd Cymru (Caerdydd, 1941)