Swyddfa Archwilio Cymru
Swyddfa Archwilio Cymru Saesneg: Wales Audit Office | |
Pennaeth | Archwilydd Cyffredinol Cymru |
---|---|
Sefydlwyd | 2005 |
Math | Corff cyhoeddus annibynnol |
Gweithwyr | 240 |
Gwefan | www.archwilio.cymru/cy |
Sefydlwyd Swyddfa Archwilio Cymru (Saesneg: Wales Audit Office) gan Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 1 Ebrill 2005 er mwyn arolygu y modd y mae cyrff cyhoeddus yn gweithio yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys sectorau llywodraeth leol (ac eithrio y rhai hynny sydd wedi eu neilltuo i lywodraeth y DU), Cynulliad Cenedlaethol Cymru a GIG Cymru. Pennaeth y Swyddfa yw Archwilydd Cyffredinol Cymru sy'n cael ei benodi am dymor nid hirach nac wyth mlynedd. Lleolir y pencadlys yn Heol y Gadeirlan, Caerdydd.
Caiff yr Archwilydd Cyffredinol archwilio rhai cyrff yn uniongyrchol, megis Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Yn achos llywodraeth leol mae'n apwyntio archwilwyr i wneud hyn, fel y gwnaethpwyd yn 2009 yn achos Cyngor Sir Ynys Môn.[1]
Yn ôl y Swyddfa, ei gwaith yw "hyrwyddo gwelliant, fel bod pobl Cymru yn medru cael budd o wasanaethau cyhoeddus atebol, wedi eu rheoli'n dda, sy'n cynnig y gwerth gorau posibl am arian".
Diffinnir meysydd archwilio a chyfrifoldebau'r Swyddfa yn yr adroddiad Rheoleiddio ac Arolygu Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Auditor urged to inspect council (en) , 20 Ionawr 2009.