Ystad y Goron Cymru

Oddi ar Wicipedia
Ystad y Goron Cymru

Mae Ystâd y Goron Cymru yn rhan o Ystâd y Goron y Deyrnas Unedig (DU) ac nid yw arwahan. Rheolir yr ystâd gan gomisiynwyr Ystâd y Goron ac mae'r pwerau llywodraethol drosti gan Lywodraeth y DU. Yn wahanol i Ystâd y Goron Yr Alban, nid yw'r ystâd wedi'i datganoli yng Nghymru ac yn 2022 roedd yn werth £603 miliwn.

Perchnogaeth[golygu | golygu cod]

Er fod yr ystad yn perthyn i'r Frehiniaeth, nid yw'n eiddo preifat y Frenhiniaeth. Nid yw'n perthyn chwaith i Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Mae Ystâd y Goron yn cael ei redeg gan Gomisiynwyr Ystâd y Goron ac mae'r ystâd yn ymddwyn fel porthor ar gyfer datblygu gwely'r môr.[1][2]

Gwerth[golygu | golygu cod]

Mae Ystâd y Goron Cymru yn cynnwys gwely'r môr yr arfordir hyd at 12 môr-filltir, tua 65% o flaendraeth yn ogystal a gwely afonydd Cymru a phorthladdoedd a marinas.[1] Mae'r ystâd hefyd yn berchen dros 50,000 o erwau o ucheldiroedd a thir comin Cymreig, sef tir pori garw yn bennaf. Mae dyfroedd o amgylch Cymru yn cynnig cyfle sylweddol i Gymru arwain y newid i sero net yn ôl Ystâ y Goron.[3]

Mae gwerth Ystad y Goron Cymru wedi codi o £49.2m yn 2020 i £549.1m yn 2021, ac yna i £603m yn 2022.[4] Refeniw Ystâd y Goron Cymru yn 2021 oedd £8.7m.[5]

Galwadau dros ddatganoli[golygu | golygu cod]

Galwodd Plaid Cymru am ddatganoli Ystâd y Goron Cymru yn eu maniffesto yn 2011.[2]

Galwodd Liz Saville Roberts am ddatganoli Ystâd y Goron Cymru gan ddweud bod mwyafrif swmpus yn y Senedd yn cefnogi'r datganoli a chael yr un pwerau â’r Alban dros Ystad y Goron. Dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gymru, Simon Hart na fyddai Cymru yn elwa o hyn.[6] Ym mis Mehefin, 2021, Cyflwynodd Saville Roberts fesur yn San Steffan a fyddai'n datganoli Ystâd y Goron Cymru i Lywodraeth Cymru.[7][8] Cafodd gyfnod Senedd y DU 2021-22 ei haddoedi ("prorogued") ac felly ni barhaodd y mesur.[9]

Yn 2022 galwodd Rhys ab Owen am ddatganoli pwerau dros Ystâd y Goron Cymru.[4]

Arolygon barn[golygu | golygu cod]

Yn 2023 dangosodd arolwg barn gan YouGov fod 58% o bobl Cymru yn cefnogi datganoli Ystâd y Goron i'w gymharu â 19% sy'n gwrthwynebu a 23% sydd ddim yn gwybod.[10]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 "Pwy sy'n berchen ar wely'r môr, a pham mae'n bwysig". ymchwil.senedd.cymru. Cyrchwyd 2023-05-06.
  2. 2.0 2.1 "Ystâd y Goron yng Nghymru" (PDF). 2011. t. 1-2.
  3. "Written evidence submitted by the Crown Estate (GRD0028)". committees.parliament.uk.
  4. 4.0 4.1 "Pwyso am ddatganoli Ystâd y Goron i Gymru". Golwg360. 2022-10-13. Cyrchwyd 2023-05-05.
  5. "Wales Highlights 2020/21" (PDF). The Crown Estate.
  6. "Fyddai datganoli Ystâd y Goron ddim yn dod â budd i Gymru, medd Ysgrifennydd Cymru". Golwg360. 2022-01-06. Cyrchwyd 2023-05-05.
  7. "Galw am ddatganoli Ystâd y Goron i ddod â £500 miliwn i Gymru". Golwg360. 2021-10-20. Cyrchwyd 2023-05-06.
  8. "Bil i ddatganoli Ystad y Goron i gadw elw o adnoddau naturiol Cymru yng Nghymru". Plaid Cymru. Cyrchwyd 2023-05-06.
  9. "Crown Estate (Devolution to Wales) Bill".
  10. Hayward, Will (2023-05-05). "Welsh people say the Crown Estate should be devolved to Wales". WalesOnline (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-05-06.