Awdurdod Cyllid Cymru

Oddi ar Wicipedia
Awdurdod Cyllid Cymru
Welsh Revenue Authority
Logo Awdurdod Cyllid Cymru.png
Dyfed Alsop CEO of the WRA.jpg
Dyfed Alsop, Prif Weithredwr
Gorolwg Adran llywodraeth anweinidogol
Ffurfiwyd1 Hydref 2017 (2017-10-01)
AwdurdodaethCymru Cymru
PencadlysTrefforest, Pontypridd
Gweithwyr50 (2017)
Gweinidog cyfrifol
Swyddogion Adran llywodraeth anweinidogol
  • Dyfed Alsop, Prif Weithredwr
  • Kathryn Bishop, Cadeirydd
  • Dyfed Edwards, Is-gadeirydd
Dogfen allweddol
  • Deddf Cymru 2017 & Deddf Cymru 2017
Gwefanbeta.llyw.cymru/awdurdod-cyllid-cymru/awdurdod-cyllid-cymru

Corff cyhoeddus yw Awdurdod Cyllid Cymru (Saesneg: Welsh Revenue Authority), sy'n gyfrifol am gasglu trethi datganoledig Cymru. Sefydlwyd y pwerau ar gyfer creu trefniant i gasglu trethi datganoledig yn Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016. [1]

Mae pencadlys yr awdurdod yn Nhrefforest ger Pontypridd gyda rhyw 50 o aelodau staff.[2] Cafodd aelodau bwrdd yr awdurdod eu penodi yn Haf 2017 a cyfarfu'r awdurdod am y tro cyntaf ar 18 Hydref 2017.[3] Daeth yr awdurdod yn gwbl weithredol yn Ebrill 2018, ac o'r dyddiad hwn roedd Cymru'n casglu peth o'i threthi am y tro cyntaf ers 800 mlynedd. Mae'r corff yn gyfrifol am gasglu Treth Trafodiadau Tir a'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi a threth incwm (Cyfradd Treth Incwm Cymru (CTIC)) ers 2019.

Penodwyd Kathryn Bishop yn gadeirydd gyntaf yr awdurdod ar 20 Chwefror 2017 yn dilyn pleidlais gan Bwyllgor y Cynulliad, y tro cyntaf i wrandawiad gael ei gynnal cyn penodiad Gweinidogol.[4] Penodwyd Dyfed Edwards, cyn-arweinydd Cyngor Gwynedd, fel is-gadeirydd yn Medi 2018.[5]

Cyfrifoldebau[golygu | golygu cod]

Mark Drakeford yn esbonio'r drefn newydd yn 2017

Yn ogystal â chasglu trethi, mae'r Awdurdod yn gwneud y canlynol:

  • darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth ynghylch y trethi i’r trethdalwyr
  • datrys cwynion ac anghydfodau
  • hyrwyddo cydymffurfiaeth â’r trethi
  • lleihau achosion o efadu ac osgoi trethi
  • cefnogi datblygiad polisi Llywodraeth Cymru ar drethi

Trethi datganoledig[golygu | golygu cod]

Mae Deddfau Cymru 2014 a 2017 yn datganoli y trethi canlynol i'r Cynulliad Cenedlaethol:[6]

  • Ardrethi Annomestig (trethi busnes) - o 1 Ebrill 2015
  • Treth Trafodiadau Tir - o 1 Ebrill 2018
  • Treth Tirlenwi - o 1 Ebrill 2018
  • Treth Incwm (rhannol) - o 1 Ebrill 2019

Y ddeddfwriaeth perthnasol sy'n llywodraeth Awdurdod Cyllid Cymru a trethi Cymru yw:

  • Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) (2016)
  • Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017
  • Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Awdurdod Cyllid Cymru. Cynulliad Cenedlaethol Cymru (2 Chwefror 2017). Adalwyd ar 14 Chwefror 2017.
  2. Llywodraeth yn 'anwybyddu'r gogledd', medd AC .
  3. Trethi newydd – Awdurdod yn cwrdd am y tro cyntaf , Golwg360, 18 Hydref 2017. Cyrchwyd ar 19 Hydref 2017.
  4. Penodi Cadeirydd cyntaf Awdurdod Cyllid Cymru , Golwg360, 20 Chwefror 2017. Cyrchwyd ar 21 Chwefror 2017.
  5. Penodi Dyfed Edwards yn is-gadeirydd corff trethi Cymru , BBC Cymru Fyw, 12 Medi 2018.
  6. "Trysorlys Cymru a diwygio cyllidol". Llywodraeth Cymru. 2 Chwefror 2017. Cyrchwyd 7 Ionawr 2018.