Archwilydd Cyffredinol Cymru

Oddi ar Wicipedia
Archwilydd Cyffredinol Cymru
Enghraifft o'r canlynolawdurdod statudol Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.audit.wales/about-us/auditor-general-wales Edit this on Wikidata

Archwilydd Cyffredinol Cymru yw'r swyddog cyhoeddus sy'n gyfrifol am Swyddfa Archwilio Cymru, y corff sy'n gyfrifol am archwilio Llywodraeth Cymru, ei gyrff cyhoeddus, cyrff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a llywodraeth leol yng Nghymru. Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru yn gyfrifol am archwilio dros £20 biliwn o arian y trethdalwyr bob blwyddyn.

Mae'n benodiad statudol wedi ei wneud gan Ei Mawrhydi'r Frenhines, yn unol â threfniadau Atodlen 8 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

Yr Archwilydd Cyffredinol cyntaf i Gymru oedd Jeremy Colman, a fe'i hapwyntiwyd ar 1 Ebrill 2005 am dymor o 5 mlynedd a ymestynnwyd yn 2009 am dair blynedd yn ychwanegol. Ymddiswyddodd Colman ar 3 Chwefror 2010 ar ôl ymchwiliad mewnol yn Swyddfa Archwilio Cymru[1] ac yn ddiweddarach plediodd yn euog i fod a delweddau anweddus o blant yn ei feddiant.[2]

Apwyntiwyd Gillian Body yn Archwilydd Cyffredinol dros dro ar 10 Chwefror 2010[3] cyn apwyntiad Huw Vaughan Thomas ar 1 Hydref 2010.[4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Archwilydd Cyffredinol yn gadael , BBC Newyddion Cymru, 3 Chwefror 2010. Cyrchwyd ar 9 Mawrth 2016.
  2. Cyn-archwilydd yn pledio'n euog , Newyddion BBC Cymru, 1 Tachwedd 2010. Cyrchwyd ar 9 Mawrth 2016.
  3. Penodi Archwilydd dros dro i Gymru , Newyddion BBC Cymru, 10 Chwefror 2010. Cyrchwyd ar 9 Mawrth 2016.
  4. Cyn brif weithredwr yn archwilydd newydd , Newyddion BBC Cymru, 22 Mehefin 2010. Cyrchwyd ar 9 Mawrth 2016.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.