Buwch

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Gwartheg
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Mammalia
Urdd: Artiodactyla
Teulu: Bovidae
Is-deulu: Bovinae
Genws: Bos
Rhywogaeth: B. taurus
Enw deuenwol
Bos taurus
Linnaeus, 1758
Tarw tua 1885; rhywle ym Mhowys o bosibl.

Anifail dof yw buwch (lluosog buchod). Maent yn cael eu magu am eu llefrith a'u cig. Tarw yw enw'r gwryw, a llo yw'r epil. Gelwir anifail gwryw sydd wedi ei ysbaddu yn fustach. Mae'r enw lluosog gwartheg yn cwmpasu'r cwbl, yn wryw, benyw ac epil a'r term am dorf ydy 'buches o wartheg'.

Hanes y fuwch[golygu | golygu cod y dudalen]

Defnyddid gwartheg i aredig cyn gynhared â'r Oes Efydd ac erbyn yr Oes Haearn ceid amryw o fathau, yn cynnwys y fuwch Geltaidd fechan fyrgorn; o'r hon y tarddodd y rhan fwyaf o'r bridiau llaethog modern. Yng Nghyfraith Hywel disgrifir gweddoedd o 2, 4, 6 neu 8 ychen yn tynnu aradr. Roedd gwartheg yn unedau ariannol a thardda'r gair 'cyfalaf' o 'alaf' sef y gair am yrr o wartheg.

Tan y 16 - 17g symudid gwartheg yn dymhorol rhwng hafod a hendre ynghyd â geifr ac ychydig ddefaid, ond erbyn y 18g porid y mynydd-dir bellach gan ddefaid yn unig. Cynyddodd y farchnad i wartheg Cymreig yn Lloegr yn sylweddol wrth i boblogaeth y dinasoedd dyfu'n gyflym trwy'r 18 - 19g. Fe'u cerddwyd gan borthmyn i ffeiriau Canolbarth a De-ddwyrain Lloegr.

Ceid amryw o fridiau Cymreig, e.e. gwartheg Morgannwg, Maldwyn, Môn, Penfro a llawer o amrywiaethau lleol. Hefyd gwartheg gwynion hanner gwylltion Dinefwr a'r Faenol. O'r 1850au, trosglwyddid anifeiliaid yn bennaf ar y rheilffyrdd a newidiodd y galw am anifeiliaid bychan caled i rai mwy a gwell eu cyflwr. Yn raddol, disodlwyd y ffeiriau pentref gan y martiau - a leolid ar fin y rheilffyrdd.

Sefydlwyd Cofrestrau Pedigri i wartheg Penfro yn 1874, a Môn yn 1883, a'u cyfuno yn 1905 i ffurfio Bucheslyfr y Gwartheg Duon Cymreig, sy'n frîd rhyngwladol-bwysig erbyn hyn. Diflannodd gwartheg Morgannwg a Maldwyn ddiwedd y 19g. Trwy'r 20g gwellhaodd ansawdd a chynnyrch bridiau yn sylweddol pan sefydlwyd Cymdeithasau Teirw o 1914, y Bwrdd Marchnata Llaeth yn 1933, ffrwythloni artiffisial o'r 1950au a throsglwyddo embryonau o'r 1990au.

Yn y 1950au gwartheg duon Cymreig gynhyrchai'r rhan fwyaf o'r llaeth ar yr ucheldir a buchesi Byrgorn neu Ayrshire ar dir gwaelod. Cynhyrchid cig yn bennaf trwy groesi'r gwartheg â theirw Henffordd. Erbyn y 1960au roedd buchesi bychain y beudy wedi eu newid am fuchesi mwy o wartheg Friesian-Holstein mewn parlyrau godro, i'w croesi â theirw cyfandirol am gig. Aeth ffermydd yr ucheldir i arbenigo mewn cig eidion a defaid a disodlwyd y tarw Henffordd i groesi gan y Charolais a'r Limousin yn y 1970au - 80au.

Ych[golygu | golygu cod y dudalen]

Arferai gwartheg (gwrywaidd gan amlaf) dynnu cerbydau neu erydr ar ffermydd, er bod yr arfer hwn bellach wedi dod i ben yng Nghymru a gwledydd datblygedig eraill yn sgil dyfodiad y tractor. Gelwir bustach sydd wedi ei fagu at waith tynnu yn ych. Fe ddefnyddir ychen i aredig, i dynnu trol, cert, coed neu lwyth arall ac i weithio pwmp dŵr i ddyfrhau. Yr enw torfol yw 'gyrr o wartheg'.

Gan amlaf defnyddir dau ych i weithio ar y cyd a rhoddid iau ar eu gwarrau fel bod y gwaith tynnu yn cael ei rannu ar draws eu hysgwyddau. Dewisir ychen â chyrn ganddynt at y gwaith fel bod modd defnyddio’r cyrn i gadw’r iau yn ei le pan fydd yr ychen yn arafu, yn cerdded am yn ôl neu yn gostwng eu pennau.

Map o'r ymadroddiadon a ddefnyddir i ddisgrifio ysfa buwch i genhedlu.

Cynhyrchu modern[golygu | golygu cod y dudalen]

Llaeth - Caiff buchod eu godro â pheiriant mewn parlwr godro ddwywaith y dydd a chedwir y llaeth i'w gasglu gan dancer - lori o hufenfa leol yn ddyddiol neu bob yn eilddydd. Yn y parlwr herringbôn arferol gellir godro oddeutu 20 o wartheg ar unwaith a thros 100 mewn awr. Cyrhaedda cynnyrch llaeth uchafbwynt o tua 40 litr y fuwch y dydd am tua deufis, cyn lleihau'n raddol nes i'r fuwch gael ei hesbio wedi 10 mis, iddi gryfhau cyn dechrau llaetha eto ar enedigaeth ei llo nesa.

Yn y gaeaf cedwir buchod llaeth dan do a'u bwydo â gwair, silwair a dwysfwyd. Dros yr haf byddant yn pori allan a derbyn dwysfwyd wrth odro. Ond erbyn yr 20g ceid ffermydd yng Nghymru lle cedwir y gwartheg dan do drwy gydol y flwyddyn, heb i'r fuwch weld blewyn o laswellt Er mwyn cael llo bob blwyddyn i laetha defnyddir tarw potel o frîd pur neu o frîd cig. Maint y buchesi llaeth yw 60 - 80, gyda dros 80% yn Friesian-Holstein a'r gweddill yn Ayrshire, Jersey a Guernsey.

Cig - O'r 4 - 6 llo gynhyrcha buwch laeth dim ond un, o frîd pur, fydd ei angen i gymryd lle'r fuwch. Felly gall y gweddill fod yn groesiadau â bridiau eraill ar gyfer eu cig. Daw y rhan fwyaf o'r cig a fwytawn felly o'r fuches laeth.

Erbyn y 21g, y bridiau cig pwysicaf yng Nghymru oedd y Du Cymreig, Henffordd, Byrgorn, Aberdeen Angus a'r Charolais, Limousin a Simental cyfandirol. Ceir cig eidion o'r ansawdd orau o'r bridiau cig pur, a cheir sawl dull o'i gynhyrchu. Ar ucheldir Cymru cedwir yr anifeiliaid dan do dros y gaeaf fel arfer, a'u bwydo ar wair neu silwair. Pori allan wnânt dros yr haf a bydd y bustych a'r heffrod yn barod i'w lladd pan fyddant bron yn 300 kg.

Cymru[golygu | golygu cod y dudalen]

Gofyn tarw ac ymadroddion eraill[golygu | golygu cod y dudalen]

Drwy Ogledd Cymru, hyd at Machynlleth, a ffin afon Dyfi, 'gofyn tarw' yw'r ymadrodd mwyaf cyffredin a cheir ymadrodd ddigon tebyg ym Morgannwg: 'mofyn tarw'. Yng Ngheredigion dywedir fod y fuwch yn 'wasod'.[1] Sonia Cyfraith Hywel Dda (14g) am "weithred tarw gra geisso gwartheg gwasawt o galan Mei hyd galan gaeaf." Mae dwy ardal ar wahân yn defnyddio'r un term, 'eisiau tarw', sef yr hen Sir Fflint a chanol Powys.

Ym Morgannwg hefyd arferid defnyddio: 'yn erlid' ac 'yn ysu'.[2]

Ar Ynys Môn, ar whân i'r arfordir dwyreiniol, defnyddir: 'tryfenydd', 'tyrfenydd' neu 'derefnydd' am fuwch yn ei gwres. Cofnodir hyn gyntaf yn Llyfr Iorwerth yn y 13g: "Ny deleyr dale y teyru o hanner haf hyt Aust nac ar yt nac ar wellt, canys en er amser hunnu y byd teruenyd e guarthec prouadwy..." Dywedir ‘Mae’r terfenydd arni’ a defnyddir y termau hyn mewn mannau yn Arfon.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Daw'r term yma o 'gosod', mae'n debyg hy gosodir y tarw ar gefn y fuwch sydd mewn gwres.Geiriadur Prifysgol Cymru; adalwyd Medi 2015
  2. Fferm a Thyddyn; golygydd Twm Elias; Rhif 54, 2014.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun a sgwennwyd ac a briodolir i Twm Elias ac a uwchlwythwyd ar Wicipedia gan Defnyddiwr:Twm Elias. Cyhoeddwyd y gwaith yn gyntaf yn : Gwyddoniadur Cymru (Gwasg y Brifysgol).


Wiktionary-logo-cy.png
Chwiliwch am buwch
yn Wiciadur.