Rodeo

Oddi ar Wicipedia
Cowboi yn marchogaeth tarw mewn rodeo.

Camp ydy rodeo a ddatblygodd allan o waith dynion yn hel gwartheg yn y maes yn Sbaen, Mecsico ac, yn nes ymlaen, yn yr Unol Daleithiau, Canada, De America ac Awstralia. Roedd wedi'i sylfaenu ar y sgiliau ymarferol gan y vaqueros ac, yn nes ymlaen, y cowbois, yn yr hyn sydd erbyn heddiw yn orllewin yr Unol Daleithiau, gorllewin Canada, a gogledd Mecsico. Heddiw mae'n ddigwyddiad sy'n cynnwys campau sy'n ymwneud â cheffylau a da byw, sy'n profi dawn a chyflymder y cowbois (chwaraewyr gwrywaidd a benywaidd) sy'n cymryd rhan. Mewn rodeos proffesiynol ceir y campau canlynol fel rheol: clymu i lawr gyda rhaff (tie-down roping), rhaffio tîm (team roping), ymgodymu gyda bustach (steer wrestling), marchogaeth cyfrwy bronc (saddle bronc riding), marchogaeth bronc cefn-noeth (bareback bronc riding), marchogaeth teirw (bull riding) a rasio casgen (barrel racing). Ceir dau gategori sylfaenol: campau "rough stock" agored a champau a amserir.

Daw'r gair rodeo o'r gair Sbaeneg rodeo sy'n golygu "hel (anifeiliaid)".

Rodeo yw camp daleithiol swyddogol Wyoming a Texas yn UDA. Mae cynigion yn ceisio ei wneud yn gamp swyddogol Alberta, Canada hefyd, lle cynhelir y Calgary Stampede enwog.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
Eginyn erthygl sydd uchod am chwaraeon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.