Calgary Stampede
Gwedd
| Enghraifft o: | gŵyl, digwyddiad blynyddol |
|---|---|
| Dechrau/Sefydlu | 1912 |
| Lleoliad | Stampede Park |
![]() | |
| Sylfaenydd | The Big Four |
| Gwladwriaeth | Canada |
| Rhanbarth | Calgary |
| Gwefan | http://calgarystampede.com/ |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/011l65 |
Sioe fawr, rodeo ac arddangosfa yw'r Calgary Stampede, sy'n honni bod "Y Sioe Awyr Agored Fwyaf yn y Byd", a gynhelir yn ninas Calgary, Alberta, Canada am ddeg diwrnod yn yr haf, fel arfer ar ddechrau Gorffennaf, ac sy'n denu tua 1.2 miliwn o ymwelwyr. Mae'n un o ddigwyddiadau blynyddol mwyaf Canada a'r rodeo awyr agored mwyaf yn y byd. Yn ogystal â'r rodeo enwog, mae'n cynnwys sioeau o bob math, cyngherddau, cystadlaethau amaethyddol, rasio chuckwagon, arddgangosfeydd gan Genhedloedd Brodorol Canada, ac atyniadau eraill. Un o'r atyniadau traddodiadol yw Parêd y Stampede ar y diwrnod agoriadol. Mae'n cael ei arwain gan y Calgary Stampede Showband ac yn dilyn llwybr 4.5 km trwy downtown Calgary. Mae tua 350,000 o bobl yn ei wylio.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Gwefan y Calgary Stampede
- (Saesneg) Calgary Stampede Showband Archifwyd 2006-12-06 yn y Peiriant Wayback

