Neidio i'r cynnwys

Llaeth

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriwyd o Bwrdd Marchnata Llaeth)
Llaeth
Enghraifft o:dosbarth o endidau anatomegol Edit this on Wikidata
Mathbwyd, cynhwysyn bwyd, hylifau corfforol, emylsiwn, secretiad, endid anatomegol arbennig, diod o laeth buwch, diod ddialcohol Edit this on Wikidata
Lliw/iaugwyn Edit this on Wikidata
Rhan oiogwrt, cwarc Edit this on Wikidata
Yn cynnwysdŵr ar ffurf hylif, protein, braster, sodiwm clorid, calsiwm, fat-soluble vitamin, ffosfforws, carbohydrad, Q6164057, potasiwm, magnesiwm Edit this on Wikidata
Cynnyrchmamal, milk yielding animal Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/04zpv edit this on wikidata
Thesawrws y BNCF12092 edit this on wikidata
UMLS CUIC0026131 edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Babi'n sugno llaeth ei fam
Myn yn sugno llaeth ei fam

Mae mamalau yn cynhyrchu llaeth (neu'n y Gogledd llefrith) i fwydo eu rhai bach. Mae llaeth yn cynnwys llawer o faetholynnau sydd yn addas i anifeiliaid bach sydd ddim yn gallu treulio bwyd caled.

Mae llaeth pob rhywogaeth yn arbennig ac yn addas i'w anghenion. Er enghraifft mae llaeth merch yn cynnwys llawer o lactos, math o siwgr, ond does dim cymaint o siwgr ond llawer o brotein mewn llaeth buwch. Mae llaeth buwch yn cynnwys braster llaeth (3.5 %), soledau llaeth (8.5 %) a dŵr (88 %). Y protein pennaf yw casein.

Mae pobl yn defnyddio llaeth rhai anifeiliaid, yn bennaf llaeth buwch, gafr, ceffyl, dafad a byfflo dŵr, i wneud hufen, menyn, caws, iogwrt a hufen iâ.

Cofnodion Cymreig

[golygu | golygu cod]

Taliadau'r Bwrdd Marchnata Llaeth: cynnyrch llaeth Trosglwyn, Carmel, 1950au cynnar

[golygu | golygu cod]

Tudalennau o lyfr cownts buches laeth tua 8 buwch ar fferm fynyddig Trosglwyn yng Ngharmel (Arfon). Mae'r ddogfen yn un hanesyddol bellach - mae gwartheg blith (dairy herds) yn gyfyngedig i ffermydd yr iseldir erbyn hyn (2025) ac yn llawer mwy o faint. Pwy glywodd am fuches laeth yn ucheldir Arfon heddiw?

Dyma lunio graff o'r data i ddangos enillion gwerthu llefrith i'r Bwrdd Marchnata Llaeth, Trosglwyn, Carmel 1952-5:

Graff wedi'i seilio ar gyfrif o daliadau misol BMLl am laeth o dyddyn yng Ngharmel, Arfon 1952-55

Beth sydd i gyfrif am y taliadau mwy ddechrau'r flwyddyn?

  • Roedd llawer o fuchesau'n lloia yn y gwanwyn er mwyn manteisio ar borfa i gynhyrchu llaeth yn hytrach na gorfod prynu dwysfwyd. Felly roedd llawer o wartheg yn hesb yn ystod misoedd cyntaf y flwyddyn a byddai'r MMB [Milk Marketing Board] yn talu mwy er mwyn perswadio digon o ffermwyr igynhyrchu llaeth pryd hynny a sicrhau cyflenwad digonol. – Jackie Wilmington
  • Wedi fy magu ar dyddyn 18 acer hefo buches 7 buwch yn y '60 degau a'r '70 degau cynnar. Nhad yn gorfod rhoi gorau i gynhyrchu llaeth tua 1975 wrth i'r casgliad caniau llaeth ddod i ben a gorfodi cynhyrchwyr i ddefnyddio "bulk tank". Roedd y ffordd acw yn rhy gul i dancer llaeth. Tarw potel i reoli lloia i sicrhau llaeth drwy'r flwyddyn. Tyfu ychydig o geirch a mangs (mangolds) yn ogystal a gwair i borthi dros y gaeaf. Prynu blawd i fwydo'n ddyddiol hefyd. Taliad yn dibynnu ar ansawdd y llaeth, ac fe brynwyd buwch Guernsey i gynyddu'r hufen yn y llaeth. Dyddiau difyr. Dim modd gwneud elw o dyddyn 18 acer bellach gwaetha'r modd. – Greta Hughes (Penllŷn)
  • Yn y pumdegau mi dybiwn i fod llai o lefrith o gwmpas dros y gaeaf, gyda gwartheg yn dirwyn i ben a Ilaethiad blynyddol, gan arwain at gynnydd yn y galw - supply and demand - felly, gyda'r maeth hefyd yn salach iddynt dros y gaeaf. Digon o borfa wedyn i'r gwartheg newydd loi (sic. lloia) o Fai i Awst, mwy o gyflenwad yn gwasgu'r pris i lawr... felna fu hi erioed a felna ma hi wrth ddelio â chyfnewidioldeb y farchnad! Erbyn heddiw, cysondeb yw popeth, ac mae proseswyr yn defnyddio cymhellion pris i geisio annog cyflenwad gwastad, dwn iddim a fydda hynny'n wir adeg hynny, ond roedd yna'n sicr gadwyn o gyflogaeth yn dibynnu ar gyflenwad dibynadwy o laeth i'w cadw'n brysur yn yr amrywiol laethdai bach fydda'n dotio'r wlad adeg hynny, fydda'n cyflogi llawer o wragedd ffarm, gyrrwyr loriau'n casglu churns o standiau Ilaeth ag ati. Roedd y ffatri laeth leol yn dilyn yr ail ryfel byd yn cynnig incwm wythnosol gweddol gyson i lawer ffarmwr am y tro cynta, gyda'r Bwrdd Marchnata'n gyfrifol am hyrwyddo gwerthiant. Mae'n ddifyr gweld cymaint o gynnydd sydd ym mhris llaeth yn nhair blynedd y graff! – Alun Elidir[1]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
Eginyn erthygl sydd uchod am fwyd neu ddiod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.