Dafad

Oddi ar Wicipedia
Dafad
Dafad Gymreig
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Mammalia
Urdd: Artiodactyla
Teulu: Bovidae
Is-deulu: Caprinae
Genws: Ovis
Rhywogaeth: O. aries
Enw deuenwol
Ovis aries
Linnaeus, 1758

Mae defaid (unigol: dafad; Ovis aries) yn gilfilod pori heidiol corniog canolig ei faint, ac yn anifeiliaid fferm a gedwir yn aml er mwyn eu cig a’u cnu. Er bod y term dafad yn gallu sôn am rywogaethau eraill yn y genws Ovis, wrth ei ddefnydd cyffredin mae bron bob amser yn cyfeirio at ddefaid dof. Gelwir grŵp o ddefaid yn braidd neu'n ddiadell. Fel cilfil, mae defaid yn garnolion o urdd yr Artiodactyla. Ceir dros biliwn o ddefaid dof. Cyfeirir at fenyw lawndwf fel mamog a'r gwryw fel hwrdd, neu faharen; yr enw ar wryw ysbaddedig yw gwedder neu folltyn a dafad ifanc yw oen.

Ceir defaid gwyllt mewn sawl rhan o Ewrasia, megis yr argali (O. ammon), dafad yr eira (O. nivicola) a'r wrial (O. vignei), yn ogystal â'r ddafad hirgorn (O. canadensis) o Ogledd America, ond anifeiliaid dof a fegir am eu gwlân a'u cig yw defaid yn bennaf, a hynny ers canrifoedd lawer. Tan y 19g roedd mwy o eifr yng Nghymru nag o ddefaid, ond mae'n sicr fod y ddafad wedi chwarae rhan fawr yn economi Cymru gan ddarparu llaeth, cig, crwyn a gwlân. Yr enw a roddir ar ddafad ifanc ydy oen.

Gwryw'r ddafad yw hwrdd, ac mae'r paru'n digwydd yn yr hydref. Mae'r cyfnod ŵyna (sef bwrw ŵyn) yn digwydd am gyfnod o fis, ar y fferm, a hynny rhwng Ionawr ac Ebrill. Un oen mae'r ddafad fynydd yn bwrw fel arfer, er bod defaid llawr gwlad yn ŵyna dau neu ragor. Gan fwyaf, mae'r erthygl hon yn sôn am ddefaid yng Nghymru. Ar ddiwedd y gwanwyn rhoddir nodau clust i'r defaid a thorrir ŵyn gwryw ((y)sbaddiad). Yn yr haf caiff y defaid eu cneifio a'u dipio er mwyn lladd parasitiaid.

Y tebygrwydd yw fod defaid yn hanu o'r mwfflon gwyllt (Ovis gmelini) sy'n frodorol i ranbarth Caspiaidd o ddwyrain Twrci, Armenia, Aserbaijan ac Iran.[1] Dyma un o'r anifeiliaid cynharaf i gael ei dofi at ddibenion amaethyddol, a chant eu magu ar gyfer eu cnu (gwlan), eu cig (cig oen, hesbin, gwedder (cig mollt) neu gig dafad) a'u llaeth. Gwlân dafad yw'r ffibr anifail a ddefnyddir fwyaf, ac fel arfer caiff ei dorri a'i gasglu trwy gneifio. Gelwir cig defaid fel arfer yn Gymraeg yn gig oen. Mae defaid yn parhau i fod yn bwysig i wlân a chig heddiw, ac yn achlysurol hefyd yn cael eu magu ar gyfer eu crwyn i wneud dillad neu garpedi, ac fel anifeiliaid llaeth.

Mae ffermio defaid yn cael ei harfer ledled y rhan fwyaf o'r byd, ac mae wedi bod yn sylfaenol i sawl gwareiddiad. Yn y cyfnod modern, Awstralia, Seland Newydd, cenhedloedd de a chanol De America, ac Chymru yw prif ffermwyr defaid y byd.

Gan eu bod yn anifail allweddol yn hanes ffermio, mae defaid wedi bod yn agos at bobl ers milenia. Fel anifail fferm, mae defaid yn cael eu cysylltu amlaf â delweddau bugeiliol ac yn symbol o ddiniweidrwydd neu'n dilyn hyn a llall. Mae defaid yn ymddangos mewn llawer o fytholegau — megis y Cnu Aur — a llawer o grefyddau, yn enwedig y traddodiadau Abrahamaidd. Mewn defodau crefyddol hynafol a modern, defnyddir defaid fel anifeiliaid fel aberth.

Nid yw union linell y llinach rhwng defaid dof a'u hynafiaid gwyllt yn hollol glir.[2] Mae'r ddamcaniaeth fwyaf cyffredin yn nodi bod Ovis aries yn ddisgynnydd i'r mwfflon gwyllt (O. gmelini); disgynnydd lledwyllt i'r ddafad ddof yw mwfflon yr Ewrop (Ovis aries musimon).[3] Roedd defaid ymhlith yr anifeiliaid cyntaf i gael eu dofi gan ddynolryw (er ei bod yn bosibl bod dofi cŵn wedi digwydd dros 20,000 o flynyddoedd ynghynt). Amcangyfrifir bod y dyddiad dofi defaid yn disgyn rhwng 11,000 a 9,000 CC ym Mesopotamia[4][5][6][7] ac o bosibl tua 7,000 CC ym Mehrgarh yn Nyffryn Indus.[8][9][10] I ddechrau, roedd defaid yn cael eu cadw ar gyfer cig, llaeth a chrwyn yn unig. Mae tystiolaeth archeolegol o gerflunwaith a ddarganfuwyd ar safleoedd yn Iran yn awgrymu y gallai amaethwyr cynnar fod wedi dechrau dewis defaid gwlanog tua 6,000 CC,[3][11] ac mae'r dillad gwlân gwehyddu cynharaf wedi'u dyddio i ddwy neu dair mil o flynyddoedd yn ddiweddarach.[12]

Ymledodd bugeilio a ffermio defaid yn gyflym yn Ewrop. Dengys cloddiadau archaeolegol, tua 6,000 CC, yn ystod y cyfnod Neolithig o gynhanes, fod y bobl Castelnofiaidd, a oedd yn byw o amgylch Châteauneuf-les-Martigues ger Marseille heddiw yn ne Ffrainc, ymhlith y cyntaf yn Ewrop i gadw defaid dof.[13] Yn ymarferol o'i gychwyn, roedd gwareiddiad Groeg hynafol yn dibynnu ar ddefaid a dywedir eu bod yn enwi'r anifeiliaid unigol.[14] Roedd y Rhufeiniaid Hynafol yn cadw defaid ar raddfa fawr, ac yn bwysig am iddynt ledaenu a magu defaid drwy ddethol y mathau mwyaf addas. Somia Plinius yr Hynaf yn ei Naturalis Historia, am ddefaid a gwlan.[15] Lledaenodd gwladychwyr Ewropeaidd yr arferiad i'r Byd Newydd o 1,493 ymlaen.[16][17]

Hanes y ddafad[golygu | golygu cod]

Daeth y defaid cyntaf i Gymru gyda'r mewnfudwyr Oes Newydd y Cerrig (neu Neolithig), 4 - 3,000CC. Pori gan ddefaid, gwartheg a geifr yn dilyn clirio coed o'r cyfnod hwn ymlaen gadwodd dirlun y rhan helaethaf o ucheldiroedd Cymru yn agored i'n dyddiau ni. Datblygodd y symudiad drawstrefol rhwng hafod a hendre erbyn yr Oes Haearn a pharhaodd hyd yr 1870au yn Eryri.

Arloeswyd ffermio defaid ar raddfa fawr gan fynachlogydd y Sistersiaid yn yr Oesoedd Canol a chododd diwydiant gwehyddu cartref o bwys yng Nghymru o ganlyniad. Serch hynny eilradd oedd cadw defaid o gymharu â gwartheg hyd chwyldro amaethyddol y 18 - 19g, pan gaewyd tiroedd comin ar raddfa fawr a sefydlu gyrroedd enfawr o ddefaid ar gynefinoedd mynyddig.

Erbyn dechrau'r 19g roedd y Drenewydd a Dolgellau yn ganolfannau gwehyddu o bwys, a'r Bala ar gyfer gwau, ond wedi dyfodiad y rheilffyrdd bu dirywiad yn wyneb cystadleuaeth allanol. Ar y llaw arall ffynnodd melinau gwlân Dyffryn Teifi â fanteisiodd ar y rheilffordd i gyrraedd marchnad boblog cymoedd diwydiannol De Cymru. Erbyn heddiw dim ond nifer fechan o felinau a erys, yn cynhyrchu brethynnau, gwlanenni a charthenni patrymog. Allforir llawer o wlân Cymreig i wneud carpedi, er i'r farchnad honno leihau yn hanner ola'r 20g yn wyneb cystadleuaeth o ddefnyddiau artiffisial.

Cynnyrch pwysicaf y diadelloedd Cymreig yw cig, gwlân ac anifeiliaid stôr i'w gwerthu ar gyfer eu pesgi neu i'w croesi â hyrddod o fridiau llawr gwlad. Enillodd cig oen Cymru fri rhyngwladol am ei safon a'i flas. Roedd 11.2 miliwn o ddefaid ac ŵyn yng Nghymru ym Mefefin 2000.

Y Ddafad Laeth[golygu | golygu cod]

Pwy sy’n cofio gweld neu glywed am glychau defaid, neu gaws defaid, yng Nghymru? Dyma ddau gofnod perthnasol: 24 Ion 1798 (Aloxden, Cumbria):

Many stories are told about Catherine Jones [gwraig Thomas Jones, fferm Gwninger, Niwbwrch]...It is said that in the summer after selling the lambs she milked the ewes, and made butter (nearly white in colour) for use on the farm, so that she could sell all the butter made from the cows' milk[18]

Delweddau byd y ddafad[golygu | golygu cod]

Nodweddion[golygu | golygu cod]

Mae defaid dof yn gilfilod cymharol fach, fel arfer gyda gwallt crychlyd a elwir yn wlân ac yn aml gyda chyrn yn ffurfio troell ochrol . Mae defaid dof yn wahanol i’w perthnasau gwyllt a’u hynafiaid mewn sawl ffordd, ar ôl dod yn unigryw neotenig o ganlyniad i fridio dethol gan fodau dynol.[19][20] Mae ambell frid cyntefig o ddefaid yn cadw rhai o nodweddion eu cefndryd gwyllt, fel cynffonnau byr. id oes gan ambell i frid o ddefaid dof gyrn o gwbl, weithiau yn y ddau ryw, neu mewn gwrywod yn unig. Mae gan y rhan fwyaf o fridiau corniog un pâr, ond gall fod gan ychydig fridiau sawl sawl pâr ar bob pen.[16]

Defaid yn Tyrcmenistan

Nodwedd arall sy'n unigryw i ddefaid dof o'i gymharu â defaid gwyllt yw eu hamrywiad eang mewn lliw. Amrywiadau o arlliwiau brown yw defaid gwyllt i raddau helaeth, ac mae'r amrywiad o fewn rhywogaethau yn gyfyngedig iawn. Mae lliwiau defaid yn amrywio o wyn pur i frown siocled tywyll, ac mae rhai'n smotiog.[21][22] Dechreuwyd dewis cnuoedd gwyn hawdd eu lliwio'n gynnar yn y broses hir o ddofi defaid, a chan fod gwlân gwyn yn nodwedd amlwg, lledaenodd yn gyflym. Fodd bynnag, mae defaid lliwgar yn ymddangos mewn llawer o fridiau modern.[21][22] Er bod gwlân gwyn yn ddymunol ar gyfer marchnadoedd masnachol mawr, mae marchnad arbenigol ar gyfer cnuoedd lliw, yn bennaf ar gyfer troelli gwlân â'r dwylo.[23] Mae natur y cnu'n amrywio'n fawr ymhlith y bridiau, o wlân trwchus, bras (fel rhai Cymru) i wlân meddal fel y rhai a fewnforir i'r ffatrioedd gwlân yng Nghymru! Mae amrywiaeth o ran math ac ansawdd gwlân hyd yn oed ymhlith aelodau o'r un praidd, felly mae dosbarthu gwlân yn gam ym mhroses fasnachol y ffibr.

Oen yn cael ei frathu ar ei wddf gan fleiddiaid y paith

Rhai bridiau[golygu | golygu cod]

  1. Bridiau mynydd Cymreig - yn cynnwys Defaid Mynydd, Defaid Mynydd De Cymru, Defaid Duon Mynydd, Torddu, Penfrith (Beulah), Maesyfed a.y.b. Defaid bychain a gwydn ydynt, yn enwedig y Defaid Mynydd wedi cynefino i'r mynydd-dir agored.
  2. Bridiau Canolig Cymreig / y Gororau - mwy o faint na'r bridiau mynydd, e.e. defaid Kerry a Clun ar y Gororau a Defaid Llŷn a Llanwenog yn rhannau gorllewinol Cymru.
  3. Bridiau croesi - hyrddod llawr gwlad a bridiau canolig yn bennaf. Bridiau poblogaidd llawr gwlad yng Nghymru yw'r Blue faced a Border Leicester, Suffolk, Dorset Down, a.y.b.. Fe'u croesir â'r defaid mynydd i gynhyrchu ŵyn hanner brîd sy'n cyfuno safon uchel cig y bridiau mynydd â maint a graddfa tyfiant uwch y bridiau llawr gwlad / canolig.
  4. Croesiadau - ers canol yr 20g datblygodd y Ddafad Hanner Brîd Gymreig (o'r Ddafad fynydd x Border Leicester) yn frîd newydd. Hefyd y Ddafad Groesryw Gymreig neu "Welsh Mule" (Dafad Fynydd x Blue faced Leicester). Fe'u defnyddir ar dir isel i'w croesi ymhellach â hwrdd brîd llawr gwlad i gynhyrchu ŵyn chwarter brîd.

Ysglyfaethwyr[golygu | golygu cod]

Ar wahân i arfilod (parasitiaid) a chlefydau, mae bod yn ysglyfaeth i ysglyfaethwr yn fygythiad i ddefaid. Ychydig o allu sydd gan ddefaid i amddiffyn eu hunain, o'i gymharu â rhywogaethau eraill a gedwir fel anifeiliaid fferm. Hyd yn oed os yw defaid yn goroesi trawiad, gallant farw o'u hanafiadau neu'n aml o banig.[24] Fodd bynnag, mae hyn yn amrywio'n ddramatig fesul rhanbarth. Yn Affrica, Awstralia, yr Americas, a rhannau o Ewrop ac Asia mae ysglyfaethwyr yn broblem ddifrifol sy'n effeithio ar incwm y ffermwr. Yn yr Unol Daleithiau, e.e., achoswyd dros draean o farwolaethau defaid yn 2004 gan ysglyfaethu.[25] Mewn cyferbyniad, mae cenhedloedd eraill bron yn amddifad o ysglyfaethwyr defaid, yn enwedig y gwledydd fel Cymru ac awstralia sy'n adnabyddus am ffermio defaid.[24] Ledled y byd, cŵn - gan gynnwys y ci dof - sy'n gyfrifol am y rhan fwyaf o farwolaethau defaid.[26][27][28] Mae anifeiliaid eraill sy'n ysglyfaethu defaid yn achlysurol yn cynnwys: y llwynog, eirth, adar ysglyfaethus, cigfrain a moch gwyllt.[25][29]

Mae cynhyrchwyr defaid wedi defnyddio amrywiaeth eang o fesurau i frwydro yn erbyn ysglyfaethu. Defnyddiodd bugeiliaid cyn-fodern eu presenoldeb eu hunain, cŵn gwarchod fel y ci defaid Cymreig a strwythurau amddiffynnol megis ysguboriau a ffensys. Mae ffensio (confensiynol a thrydanol), corlannu defaid gyda'r nos ac wyna dan do oll yn parhau i gael eu defnyddio'n helaeth.[30] Defnyddiodd bugeiliaid mwy modern ynnau, trapiau a gwenwyn i ladd ysglyfaethwyr,[31] gan achosi gostyngiadau sylweddol mewn poblogaethau'r ysglyfaethwyr, ee eirth a bleiddiaid. Yn sgil y symudiadau amgylcheddol a chadwraethol, mae'r defnydd o'r dulliau hyn bellach yn dod o dan faes asiantaethau llywodraeth a ddynodwyd, yn arbennig yn y rhan fwyaf o wledydd datblygedig.[32]

Pwysigrwydd economaidd[golygu | golygu cod]

Stoc defaid byd-eang
yn 2019
Nifer mewn miliynau
 Tsieina 163.5
 India 74.3
 Awstralia 65.8
 Nigeria 46.9
 Iran 41.3
 Swdan 40.9
 Chad 35.9
 Twrci 35.2
Lloegr 15.6
Cymru 10.0

Cyfanswm y byd 1,238.7
Ffynhonnell: Sefydliad Bwyd ac Amaeth y Cenhedloedd Unedig[33]
Defaid wedi'u cneifio ar werth ym Marchnad Kashgar

Mae defaid yn rhan bwysig o'r economi amaethyddol fyd-eang. Fodd bynnag, mae eu statws a fu unwaith yn hanfodol wedi'i ddisodli i raddau helaeth gan rywogaethau anifeiliaid eraill, yn enwedig y mochyn, yr iâr a'r fuwch.[34] Tsieina, Awstralia, India ac Iran sydd â'r preiddiau (unigol: praidd) modern mwyaf.[35] Mae gan wledydd eraill fel Seland Newydd ddiadelloedd llai ond mae'r elw economaidd o'r gwerthiant rhyngwladol yn fawr oherwydd eu bod yn allforio cynhyrchion eu defaid yn fydeang.

Mae defaid hefyd yn chwarae rhan bwysig mewn llawer o economïau lleol, lai a all fod yn farchnadoedd arbenigol sy'n canolbwyntio ar amaethyddiaeth organig neu gynaliadwy a chwsmeriaid lleol.[23][36] Yn enwedig mewn gwledydd sy'n datblygu, gall preiddiau o'r fath fod yn rhan o amaethyddiaeth ymgynhaliol yn hytrach nag yn system fasnach.[23]

Mae gwlân a gyflenwir gan ffermwyr Awstralia (tunelli/chwarter) wedi bod yn dirywio ers 1990

Fel bwyd[golygu | golygu cod]

Ysgwydd cig oen

Cig oen a llaeth oedd un o'r prif broteinau cynharaf a ddefnyddiwyd gan wareiddiad dynol ar ôl y newid o hela a chasglu i amaethyddiaeth.[24] Gelwir cig defaid sy'n cael ei baratoi ar gyfer bwyd, yn Gymraeg, yn gig oen, hyd yn oed am gig dafad! Ledled y byd, lleddir tua 540 miliwn o ddefaid yn flynyddol am ei cig.[37][38][39][40][41]

Yn yr 21g, y gwledydd sy'n bwyta'r mwyaf o gig oen yw Gwladwriaethau Arabaidd Gwlff Persia, Seland Newydd, Awstralia, Gwlad Groeg, Uruguay, gwledydd Prydain ac Iwerddon.[23] Mae'r gwledydd hyn yn bwyta 14-40 pwys (3–18 kg ) o gig dafad y pen, y flwyddyn.[23][41] Mae cig defaid hefyd yn boblogaidd yn Ffrainc, Affrica (yn enwedig y Byd Arabaidd), y Caribî, gweddill y Dwyrain Canol, India, a rhannau o Tsieina.[41] Mae hyn yn aml yn adlewyrchu hanes cynhyrchu defaid. Yn y gwledydd hyn yn arbennig, gall seigiau fod yn boblogaidd neu'n draddodiadol. Mae ceilliau a llygaid defaid yn cael eu hystyried yn ddanteithfwyd mewn sawl rhan o'r byd. Efallai mai’r pryd mwyaf anarferol o gig dafad yw’r hagis Albanaidd, sy’n cynnwys amrywiaeth o rannau o'r ddafad, wedi’u coginio gyda blawd ceirch a winwns wedi’u torri y tu mewn i’w stumog, fel stwffin.[42] Mewn cymhariaeth, dim ond pwys neu lai y mae gwledydd fel yr Unol Daleithiau yn ei fwyta (o dan 0.5 kg), gydag Americanwyr yn bwyta 50 pwys (22 kg) o gig mochyn a 65 pwys (29 kg) o gig eidion.[41][23]

Mewn gwyddoniaeth[golygu | golygu cod]

Carreg filltir bwysig mewn bioleg oedd y famog wedi'i chlonio o'r enw Dolly

Yn gyffredinol, mae defaid yn rhy fawr ac yn atgenhedlu'n rhy araf i fod yn eitemau ymchwil delfrydol, ac felly nid ydynt yn organeb enghreifftiol gyffredin.[43] Fodd bynnag, maent wedi chwarae rhan ddylanwadol mewn rhai meysydd gwyddonol. Yn benodol, defnyddiodd Sefydliad Roslin yng Nghaeredin, yr Alban ddefaid ar gyfer ymchwil geneteg a gynhyrchodd ganlyniadau arloesol. Ym 1995, dwy famog o'r enw Megan a Morag oedd y mamaliaid cyntaf a gafodd eu clonio o gelloedd gwahaniaethol. Flwyddyn yn ddiweddarach, eto yn yr Alban, dafad Dorset o'r enw Dolly, oedd y mamal cyntaf i gael ei glonio o gell somatig oedolyn; galwyd hi'n "ddafad enwoca'r byd" yn y Scientific American[44]. Yn dilyn hyn, Polly a Molly oedd y mamaliaid cyntaf i gael eu clonio ar yr un pryd ac yn drawsgenig.

Yn 2014 cafodd genom y ddafad ei hadnabod yn llawn, a chyhoeddwyd map llawn ohono.[45][46] Yn 2012, cloniwyd dafad drawsenynnol o'r enw "Peng Peng" gan wyddonwyr Tsieineaidd, ac impiwyd ei genynnau â genynnau llyngyren (C. elegans) er mwyn cynhyrchu braster iachach i'w bwyta gan bobl.[47]

Mewn diwylliant[golygu | golygu cod]

Y ddafad ddu ddiarhebol

Dywedir yn gyffredin bod cyfrif defaid yn gymorth i gysgu, ac mae rhai systemau hynafol o gyfrif defaid yn parhau heddiw. Ceir llawer o ddywediadau llafar a sawl idiom bron ym mhob iaith, gydag ymadroddion fel " dafad ddu'r teulu" neu "yn dilyn y ffasiwn, fel dafad". Mae galw unigolyn yn ddafad ddu yn awgrymu ei fod yn aelod od neu'n ddrwgdybus o grŵp.[48] Mae'r defnydd hwn yn deillio o'r nodwedd enciliol sy'n achosi i oen du o bryd i'w gilydd gael ei eni i ddiadell wen. Roedd bugeiliaid yn ystyried y defaid du hyn yn annymunol, gan nad yw gwlân du mor fasnachol â gwlân gwyn.[48] Ychydig yn wahanol, mae'r ansoddair "defaid" hefyd yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio embaras mewn ambell iaith.[49]

Cynhyrchu modern[golygu | golygu cod]

Oherwydd amrywiaeth tir, a nifer y bridiau a chroesiadau posib, ceir nifer o wahanol systemau cynhyrchu.

Cynhyrcha'r diadelloedd mynydd wlân, ŵyn stôr a thewion ac anifeiliaid magu. Pesgir y rhan fwyaf o'r ŵyn ar gyfer eu cig ond didolir eraill i'w cadw neu eu gwerthu ar gyfer magu. Arbeniga rhai ffermwyr mewn magu defaid a hyrddod pedigri a cheir prisiau uchel am y goreuon mewn arwerthiannau arbennig.

Wedi ŵyna am tua pedwar tymor gwerthir y mamogiaid mynydd hŷn i ffermydd ar dir mwy ffafriol lle'u croesir â hyrddod bridiau croesi i gynhyrchu ŵyn hanner brîd mwy o faint. Bydd angen adnewyddu chwarter y ddiadell yn flynyddol felly â hesbinod ifainc a fagwyd ar gynefin y fferm.

Ar y ffermydd mynydd cedwir y defaid ar borfeydd mynydd dros yr haf, un ai ar dir agored a rennir yn gyffredin â ffermwyr eraill neu ar dir sy'n benodol i'r fferm. Yn ychwanegol bydd tir ffridd sylweddol islaw'r wal fynydd lle cedwir y mamogiaid am gyfnod cyn dod â hwy i dir gwell neu dan do i ŵyna yn y gwanwyn. Ceidw eraill y mamogiaid ar dir gwaelod y fferm, neu eu gyrru i fferm arall ar dir gwell. Gyrrir y defaid ifainc (hesbinod) i ffermydd iseldir, weithiau gryn bellter i ffwrdd dros y gaeaf - rhain yw y defaid cadw neu ddefaid tac. Tyfir gwair neu silwair yn borthiant gaeaf i'r mamogiaid a rhoir ychydig ddwysfwyd iddynt tra byddant yn feichiog.

Gwaith bugeiliol bob yn dymor

Ceir trefn arbennig i weithgareddau bugeiliol y flwyddyn ond bydd y gwaith ar yr ucheldir fis neu ddau yn hwyrach na'r iseldir oherwydd yr hinsawdd:

Diwedd yr haf - gwella cyflwr y mamogiaid, eu trochi rhag paraseitiaid a'u paru â'r hyrddod. Amrywir amseriad y paru yn ôl yr hinsawdd, h.y. gellir ŵyna yn gynnar iawn ar yr iseldir ond Mawrth / Ebrill yn yr ucheldir.
Gaeaf - mae'n gyffredin i gadw'r defaid llawr gwlad dan do, a'r defaid mynydd ar y ffridd, a'u bwydo. Sganir y defaid i ganfod nifer yr ŵyn ynddynt a didoli'r defaid gweigion. Addasir y bwyd a'r amodau i'r nifer o ŵyn mae'r famog yn eu cario.
Gwanwyn - y defaid cadw yn dychwelyd. Brechu a dosio'r mamogiaid. Dod â'r defaid gedwir allan un ai dan do neu i gaeau cysgodol ar gyfer ŵyna - pryd y bydd prysurdeb mawr am fis. Maga'r ddafad fynydd 1 - 2 oen fel arfer ond maga'r bridiau eraill 2 neu 3.
Dechrau haf - tocio cynffonnau. Cneifio. Sbaddu'r ŵyn gyrfod, nodi clustiau.
Ganol haf - diddyfnir yr ŵyn oddi ar eu mamau yn 12 - 16 wythnos oed i'w pesgi. Gwerthir ŵyn tewion o hyn tan ddechrau'r gaeaf. Didolir chwarter y mamogiaid hŷn i'w gwerthu a chymerir nifer tebyg o ŵyn beinw o'r tymor cynt i gymryd eu lle yn y ddiadell fagu.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Alberto, Florian J.; Boyer, Frédéric; Orozco-Terwengel, Pablo; Streeter, Ian; Servin, Bertrand; De Villemereuil, Pierre; Benjelloun, Badr; Librado, Pablo et al. (2018). "Convergent genomic signatures of domestication in sheep and goats". Nature 9 (1): 813. Bibcode 2018NatCo...9..813A. doi:10.1038/s41467-018-03206-y. PMC 5840369. PMID 29511174. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=5840369.
  2. "Molecular analysis of wild and domestic sheep questions current nomenclature and provides evidence for domestication from two different subspecies". Proc. Biol. Sci. 269 (1494): 893–904. 2002. doi:10.1098/rspb.2002.1975. PMC 1690972. PMID 12028771. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=1690972.
  3. 3.0 3.1 Ensminger, p. 5
  4. Ensminger, p. 4
  5. Weaver, pp. 11–14
  6. Simmons & Ekarius, p. 2
  7. Krebs, Robert E.; Carolyn A. (2003). Groundbreaking Scientific Experiments, Inventions & Discoveries of the Ancient World. Westport, CT: Greenwood Press. ISBN 978-0-313-31342-4.
  8. Franke, Ute. "Prehistoric Balochistan: Cultural Developments in an Arid Region". In Markus Reindel; Karin Bartl; Friedrich Lüth; Norbert Benecke (gol.). Palaeoenvironment and the Development of Early Settlements (yn Saesneg). ISBN 978-3-86757-395-5.
  9. Meadow, Richard H. (1991). Harappa Excavations 1986–1990 A Multidisciplinary Approach to Third Millennium Urbanism. Madison Wisconsin: PREHISTORY PRESS. tt. 94 Moving east to the Greater Indus Valley, decreases in the size of cattle, goat, and sheep also appear to have taken place starting in the 6th or even 7th Millennium BC (Meadow 1984b, 1992). Details of that phenomenon, which I have argued elsewhere was a local process at least for sheep and cattle (Meadow 1984b, 1992).
  10. Chessa, B.; Pereira, F.; Arnaud, F.; Amorim, A.; Goyache, F.; Mainland, I.; Kao, R. R.; Pemberton, J. M. et al. (2009). "Revealing the History of Sheep Domestication Using Retrovirus Integrations". Science 324 (5926): 532–536. Bibcode 2009Sci...324..532C. doi:10.1126/science.1170587. PMC 3145132. PMID 19390051. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=3145132.
  11. Weaver, p. 11
  12. Smith et al., p. 8
  13. Max Escalon de Fonton, L'Homme avant l'histoire, p. 16–17, in Histoire de la Provence, Editions Privat, Toulouse, 1990. See also F. Bourdier, Préhistoire de France (Paris, 1967) and G. Bailloud, Les civilisations Néolithiques de la France (Paris, 1955).
  14. Weaver, p. 13
  15. Pliny the Elder (1855) [77]. "Naturalis Historia". Perseus Digital Library. Tufts University. tt. Chapters 72–75. Cyrchwyd 2007-12-29.
  16. 16.0 16.1 Ensminger
  17. Weaver, p. 12
  18. Trafodion yr Ang. Ant. Soc. & Field Club 1956
  19. Budiansky, pp. 97–98.
  20. Budianksy, pp. 100–01.
  21. 21.0 21.1 "Natural Colored Sheep". Rare Breeds Watchlist. Rocky Mountain Natural Colored Sheep Breeders Association. January 2007. Cyrchwyd 2008-01-05.
  22. 22.0 22.1 "An introduction to coloured sheep". British Coloured Sheep Breeders Association. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-11-10. Cyrchwyd 2008-01-05.
  23. 23.0 23.1 23.2 23.3 23.4 23.5 Weaver
  24. 24.0 24.1 24.2 Simmons & Ekarius
  25. 25.0 25.1 "Sheep and Goats Death Loss" (PDF). usda.library.cornell.edu. National Agricultural Statistics Service. 2005-05-06. Cyrchwyd 2019-01-22.
  26. "Sheep mauled by wild dogs". Tweed Daily News. 2008-01-18. Cyrchwyd 2008-01-21.
  27. Lewis, Gareth (2008-01-21). "Sheep worrying leads to warning from farmers". The Daily Echo. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 January 2021. Cyrchwyd 2008-01-21. In total dog attacks cost the industry more than £2m a year Mr Wyeth says thousands of sheep and cattle die as a result of injuries caused by dogs every year. His warning comes at a time when ewes are in lamb and likely to abort if chased by dogs.
  28. Macdonald, David Whyte; Claudio Sillero-Zubiri (2004). The Biology and Conservation of Wild Canids. Oxford University Press. ISBN 978-0-19-851555-5.
  29. Simmons & Ekarius, p. 124.
  30. Wooster
  31. Simmons & Ekarius, p. 131.
  32. "Effects of Wildlife Services on Predator Populations" (PDF). www.aphis.usda.gov. Wildlife Services. October 2001. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2016-12-20. Cyrchwyd 2016-08-14.
  33. [https://web.archive.org/web/20220208070522/https://askinguk.com/how-many-sheep-in-wales/ Archifwyd 2022-02-08 yn y Peiriant Wayback. askinguk.com; adalweyd 8 Chwefror 2022
  34. Brown, Dave; Sam Meadowcroft (1996). The Modern Shepherd. Ipswich, United Kingdom: Farming Press. ISBN 978-0-85236-188-7.
  35. Cuming, Marius (2008-01-24). "Live sheep ship-shape". North Queensland Register. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-03-16. Cyrchwyd 2008-01-24.
  36. Severson, Kim (2005-09-14). "Iceland Woos America With Lamb and Skyr". The New York Times. Cyrchwyd 2008-01-27.
  37. "FAOSTAT". www.fao.org. Cyrchwyd 2019-10-25.
  38. Oxford English Dictionary, 1933: Mutton, Sheep, Beef.
  39. "Mutton". Merriam-Webster's Online Dictionary. Cyrchwyd 2008-01-23.
  40. "What Is Mutton? Understanding The History". Mutton Renaissance Campaign. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-07-23. Cyrchwyd 2008-01-23.
  41. 41.0 41.1 41.2 41.3 Apple Jr., R.W. (2006-03-29). "Much Ado About Mutton, but Not in These Parts". The New York Times. Cyrchwyd 2008-01-23.
  42. Smith et al., p. 147.
  43. "Fifth Report on the Statistics on the Number of Animals used for Experimental and other Scientific Purposes in the Member States of the European Union" (PDF). Commission of the European Communities. November 2007. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2008-02-16. Cyrchwyd 2008-02-10.
  44. Lehrman, Sally (July 2008). "No More Cloning Around". Scientific American. Cyrchwyd 2008-09-21.
  45. "A second-generation linkage map of the sheep genome". Mamm. Genome 9 (3): 204–09. 1998. doi:10.1007/s003359900726. PMID 9501303. http://digitalcommons.unl.edu/cgi/viewcontent.cgi?article=1317&context=hruskareports.
  46. "Using comparative genomics to reorder the human genome sequence into a virtual sheep genome". Genome Biol 8 (7): R152. 2007. doi:10.1186/gb-2007-8-7-r152. PMC 2323240. PMID 17663790. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=2323240.
  47. Tan Ee Lyn (April 24, 2012). "Worm turns sheep clone to "good" fat: China scientists". Reuters.
  48. 48.0 48.1 Ammer, Christine (1997). American Heritage Dictionary of Idioms. Houghton Mifflin. t. 64. ISBN 978-0-395-72774-4. Cyrchwyd 2007-11-13. american heritage dictionary black sheep.
  49. "Sheepish". Merriam-Webster's Online Dictionary. Cyrchwyd 2007-12-01.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun a sgwennwyd ac a briodolir i Twm Elias ac a uwchlwythwyd ar Wicipedia gan Defnyddiwr:Twm Elias. Cyhoeddwyd y gwaith yn gyntaf yn : Gwyddoniadur Cymru (Gwasg y Brifysgol).


Chwiliwch am dafad
yn Wiciadur.