Plinius yr Hynaf

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Plinius yr Hynaf
Grande Illustrazione del Lombardo Veneto Vol 3 Plinio Secondo 300dpi.jpg
Ganwyd 0023 Edit this on Wikidata
Como Edit this on Wikidata
Bu farw 24 Awst 0079, 25 Hydref 0079 Edit this on Wikidata (55 oed)
Achos: echdoriad folcanig Edit this on Wikidata
Stabiae Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Rhufain hynafol Edit this on Wikidata
Galwedigaeth Ysgrifennwr, Hanesydd, Cyfreithiwr, naturiaethydd Edit this on Wikidata
Swydd Procurator Edit this on Wikidata
Adnabyddus am Natural History Edit this on Wikidata
Gwaith nodedig Natural History Edit this on Wikidata
Plant Plinius yr Ieuengaf Edit this on Wikidata

Roedd Gaius Plinius Secundus (23 OC – 24 Awst 79 OC), mwy adnabyddus fel Plinius yr Hynaf, yn awdur a milwr Rhufeinig. Mae'n fwyaf adnabydus am ei waith Naturalis Historia.

Ganed Plinius yn Como yng ngogledd yr Eidal. Aeth ei dad ag ef i Rufain, lle'r addysgwyd ef gan gyfaill ei dad, y bardd a milwr Publius Pomponius Secundus. Astudiodd fotaneg yn topiarius (gardd) Antonius Castor. Ymhlith ei astudiaethau eraill roedd athroniaeth a rhethreg, a bu'n gyfreithiwr am gyfnod.

Ymunodd â'r fyddin a gwasanaethodd dan Corbulo yn nhalaith Germania Inferior yn 47, gan gymeryd rhan yn yr ymgyrch yn erbyn llwyth y Chauci. Bu yn Sbaen a Gâl, lle dysgodd ystyr nifer o eiriau yn yr ieithoedd Celtaidd. Dan yr ymerawdwr Nero roedd yn byw yn Rhufain, gan weithio ar ei lyfr Hanes y Rhyfeloedd Germanaidd. Defnyddiwyd hwn fel ffynhonnell gan Tacitus yn ei Annales ac yn ôl pob tebyg roedd yn un o brif ffynonellau Germania Tacitus. Ysgrifennodd hefyd ar ramadeg a rhethreg, gan gyhoeddi Studiosus ac yna Dubii sermonis yn 67.

Pan ddaeth ei gyfaill Vespasian yn ymeradwr, bu'n gwasanaethu fel procurator yn nhalaith Gallia Narbonensis yn 70 ac yn Hispania Tarraconensis yn 73, Ymwelodd a thalaith Gallia Belgica yn 74. Ysgrifennodd hanes ei gyfnod ei hun mewn 31 llyfr, gyda'r bwriad y byddai'n cael ei gyhoeddi ar ôl ei farwolaeth. Cafodd hwn ei ddefnyddio gan Tacitus, Suetonius a Plutarch. Ei waith mwyaf oedd y Naturalis Historia, gwyddoniadur oedd yn crynhoi llawer o wybodaeth yr oes.

Apwyntiodd Vespasian ef yn praefect y llynges Rufeinig yn Misenum. Ar 24 Awst. 79, roedd ym Misenum pan ffrwydrodd llosgfynydd Vesuvius; y ffwydrad enwog a ddinistriodd drefi Pompeii a Herculaneum. Croesodd Plinius y bae i Stabiae (ger tref Castellammare di Stabia heddiw), i astudio'r ffrwydrad yn nes at y mynydd. Bu farw yno; yn ôl ei nai Plinius yr Ieuengaf a ysgrifennodd hanes ei farwolaeth disgynnodd yn farw yn sydyn, efallai oherwydd nwyon gwnwynig o'r llosgfynydd. Er hynny, ni effeithiwyd ar y cyfeillion oedd gydag ef, ac efallai iddo farw o drawiad y galon neu achos naturiol arall.

O'i lyfrau, dim ond y Naturalis historia sydd wedi goroesi.